Twristiaeth bwyd

Cynllun Grantiau Bach – Cynllun Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod

Y weledigaeth yw dod â meysydd amaethyddiaeth, prosesu bwyd, twristiaeth, y sector gwasanaeth bwyd, gwyliau bwyd a siopau manwerthu bwyd at ei gilydd i fanteisio ar fanteision economaidd darparu profiad diwylliannol unigryw, o ansawdd uchel ac unigryw i ymwelwyr. Amcanion y Cynllun Grant Bach – Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod yw:

•            Gwella Mynediad Pobl Cymru ac Ymwelwyr at Fwyd a Diod Cymreig ac ymwybyddiaeth ohono

•            Dangos cysylltiadau â'r gymuned ehangach

•            Cydweithio a chydweithrediad rhwng y sector Bwyd a Diod a Thwristiaeth

  • Cydnabyddiaeth i gynhyrchion Dynodiad Daearyddol, hyrwyddo bwyta'n iach

Dim ond gweithgareddau sy'n ychwanegu gwerth at y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru a fydd yn cael eu cefnogi.


Cynllun Grantiau Bach - Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod 2026-2027

Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd Llwyddiannus 2026-2027


Mae bwyd a diod yn mynd law yn llaw â lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru. Mae’r cyfuniad o fwyd tymhorol o ansawdd a chynhwysion lleol, llefydd diddorol i aros a bwyta a rhai o gogyddion gorau’r byd yn diffinio’r sector lletygarwch yng Nghymru, sy’n haeddu ei enw da am ragoriaeth. 

Pecyn Cymorth Gwyliau Bwyd


Food tourism

Mae bwyd yn bwysig i’n hymwelwyr 

Mae bwyd yn dylanwadu fwyfwy ar benderfyniad pobl i ymweld â Chymru. Mae hyn oherwydd eu bod yn fwy craff, maent yn dangos diddordeb yn o ble daw eu bwyd a beth sy’n digwydd i’r bwyd cyn cyrraedd eu plât. Felly mae’r sector bwyd a’r sector twristiaeth yn bwysig yng Nghymru, ac rydym wedi datblygu strategaethau ategol i ddatblygu’r 2 sector. Rydym am greu cysylltiadau rhwng y diwydiant lletygarwch ac arlwyo a chynhyrchwyr bwyd a diod lleol, gan sicrhau cyflenwad cyson o gynnyrch ffres a thymhorol sydd at ddant pob ymwelydd. 
 


Food market

Hyrwyddo delwedd bwyd a diod o Gymru

Mae twristiaeth bwyd yn ymwneud â helpu ymwelwyr i ddarganfod perlau coginiol lleol – drwy hyrwyddo hynodrwydd rhanbarthol ein cynnyrch er mwyn i ymwelwyr am y tro cyntaf deimlo cysylltiad â’r ardal a theimlo fel dychwelyd. Rydym wedi nodi sut rydym am geisio cyflawni hyn erbyn 2020 yn ein Partneriaeth ar gyfer Twf: Strategaeth ar gyfer Twristiaeth, sy'n diffinio dull gweithredu ar gyfer marchnata sy'n cael ei arwain gan y cynnyrch, gyda bwyd yn cael ei weld fel rhan hanfodol o brofiad ymwelwyr. Mae'r Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd 2014 yn targedu camau gweithredu allweddol i godi ymwybyddiaeth a sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn hwylus i ymwelwyr a helpu cynhyrchwyr bwyd a busnesau twristiaeth i gydweithio.
 


Food stall

Marchnadoedd Ffermwyr a Digwyddiadau Bwyd /Ffactorau llwyddiant a gwersi a ddysgwyd

Comisiynwyd y gwaith ymchwil hwn i gyfrannu at ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r cyfleoedd i fusnesau bwyd a diod sy’n dewis marchnata eu cynnyrch yn uniongyrchol drwy farchnadoedd ffermwyr a/neu ddigwyddiadau bwyd rheolaidd eraill. Y bwriad hefyd oedd nodi ffactorau a fu’n allweddol i lwyddiant sefydlu marchnadoedd ffermwyr a digwyddiadau bwyd, yn ogystal ag unrhyw wersi a ddysgwyd.

Yr Adroddiad Terfynol
 


Gwybodaeth ddefnyddiol arall: