Prosiectau COVID
Rydym wedi cefnogi nifer o wahanol brosiectau mewn ymateb i'r heriau a ddaeth yn sgil yr achosion Coronavirus
I ddarganfod mwy, edrychwch ar y manylion o dan y categorïau isod;
Bee Robotics Ltd - datblygu synhwyrydd Adwaith Cadwynol Polymerasau i ganfod COVID-19, er mwyn cadw golwg effeithiol ar y feirws o fewn cymuned.
Quay Pharmaceuticals Ltd - datblygu tri chynnyrch arloesol newydd (hylif diheintio dwylo, chwistrell trwyn a gwm cnoi), i helpu i atal y feirws rhag lledaenu.
University of South Wales - dilysu dyfais brofi gyflym gan ddefnyddio technoleg LAMP, i gynyddu'r gallu i gynnal profion am y feirws.
University of South Wales - ymchwilio i Dechnoleg Sgrinio Twymyn Torfol i brofi am COVID-19, a allai gael ei defnyddio ym maes addysg, gweithleoedd a digwyddiadau cymunedol.
University of South Wales and Grid Xitek Ltd - gwerthuso perfformiad prawf cyflym am COVID-19, sydd â’r potensial i gael ei ddefnyddio mewn lleoliadau cymunedol.
Zoobiotic Ltd (T/A Biomonde) - datblygu gallu gweithredol i fodloni’r galw byd-eang am yr adweithredyddion hanfodol sydd eu hangen ar gyfer profion COVID-19.
Airquee Ltd - datblygu rhwystr amddiffyn ymarferol i’w roi o amgylch claf cyn i weithdrefnau achub bywyd gael eu cynnal, gan helpu i gadw staff meddygol a chleifion yn ddiogel yn ystod pandemig COVID-19.
Cotton Mouton Diagnostics Ltd & One Nine Design Ltd - cydweithio ar ddatblygu dyfais i brofi yn gyflym am haint COVID-19 gweithredol a gwrthgyrff, er mwyn cynnal profion symudol cyflym a chywir yn y gymuned.
Melys Diagnostics Ltd & Pi Logic Ltd - datblygu dull o fesur Dirlawnder Ocsigen yn y Gwaed er mwyn canfod y feirws yn gynnar.
Swansea University - datblygu prototeip ar gyfer peiriant anadlu gofal dwys, i ategu'r ddarpariaeth bresennol yn unol â’r galw uwch o ganlyniad i’r argyfwng.
University of South Wales & Panasonic Manufacturing - cydweithio ar ddatblygu ocsifesurydd pwls ar gyfer COVID-19.
AMRC Cymru - ymchwilio i ddatblygu masg wyneb tryloyw ecogyfeillgar, gan ateb y galw am opsiwn cynaliadwy tymor hwy.
British Rototherm Group - darparu cyflenwad o fasgiau wyneb i'r GIG, ymateb i'r argyfwng ac adeiladu gwydnwch ar gyfer y dyfodol
Brother Engineering Ltd - sefydlu cwmni i gynhyrchu masgiau llawfeddygol mewn ymateb i bandemig COVID-19, gan helpu i fynd i'r afael â’r prinder cyfarpar diogelu personol a chyflenwadau meddygol.
Design Reality Limited - datblygu masg anadlu elastomerig y gellir ei ailddefnyddio, gan ddarparu cynnyrch sy’n para ar gyfer staff rheng flaen a’r cyhoedd.
EBS Automation Ltd - sefydlu cyfleuster cynhyrchu masgiau anadlu, i wneud cyfarpar diogelu personol hanfodol a chreu cyflenwad cadarn ar gyfer y dyfodol.
FSG Tool and Die Ltd - cynhyrchu dyluniad newydd o ffrâm feisor, gan helpu ein staff rheng flaen i gadw'n ddiogel wrth ymateb i bandemig COVID-19.
Hardshell UK Ltd - cynhyrchu masgiau ac anadlyddion mewn ymateb i bandemig COVID-19, gan fodloni’r galw presennol ac adeiladu cadernid ar gyfer y dyfodol.
Rocialle Healthcare Ltd - creu uned gynhyrchu newydd ar gyfer masgiau wyneb, gan helpu i reoli lledaeniad y feirws a chyfrannu at ddiogelu’r cyflenwad o fasgiau wyneb i'r GIG yng Nghymru a'r DU yn ei chyfanrwydd.
SURVIVA Ltd - addasu eu hoffer i gynhyrchu niferoedd uchel o ynau dolen bawd, gan fodloni’r angen sylweddol am gyfarpar diogelu personol.
SURVIVA Ltd - trosi eu peiriant offer goroesi i addasu i ailgynllunio'r Gŵn Loop Thumb
Transcend Packaging Ltd - cynhyrchu amddiffynnydd wyneb wedi’i ddylunio o’r newydd, i ddiogelu rhag gronynnau a gludir yn yr awyr a helpu i leihau lledaeniad COVID-19.
Tru-Plas Ltd - datblygu masg wyneb y gellir ei ailddefnyddio, er mwyn gwella'r cyflenwad o gyfarpar diogelu personol cost isel sydd ar gael yn ystod y pandemig, ac yn y dyfodol.
Aparito Ltd - datblygu system ddigidol i fonitro cleifion o bell, gan helpu i leihau'r angen i dderbyn cleifion mewnol.
Bond Digital Health Ltd - datblygu platfform digidol i olrhain canlyniadau profion COVID-19, gan helpu i reoli'r pandemig hwn ac unrhyw achosion yn y dyfodol.
Dulas Ltd - darparu cymorth ar-lein i wledydd sy'n datblygu, gan eu helpu i ddefnyddio technoleg pŵer solar Dulas i gadw brechlynnau’n oer, ac i achub bywydau mewn amgylchiadau heriol.
Loyalty Logistix Ltd - datblygu eu system gwmwl i gyfrannu at y gwaith o gynnal lefelau digonol o stociau cyfarpar diogelu personol, gan helpu cartrefi gofal yn ystod pandemig COVID-19.
Medical Analytica Ltd - datblygu modelau Deallusrwydd Artiffisial i werthuso dwyster yr haint o belydrau-X y frest
Starfish Labs Ltd - datblygu apiau ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau, gan helpu pobl i gadw'n ddiogel yn ystod pandemig COVID-19.
Surgical Consent Ltd (Concentric Health) - datblygu dull o gydsynio i driniaeth o bell, gan helpu i leihau'r risg o ledaenu feirws COVID-19 a lleihau'r effaith ar y GIG.
Celtic Wellbeing Ltd - datblygu amrediad o sebonau naturiol ac iddynt rinweddau gwrthfeirysol a gwrthfacterol, mewn ymdrech i helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu mewn ffordd ecogyfeillgar.
In the Welsh Wind Distillery Ltd - sefydlu systemau a fydd yn galluogi’r cwmni i fynd yn ôl i gynhyrchu hylif diheintio dwylo pryd bynnag y bo angen, gan helpu i atal COVID-19 rhag gael ei drosglwyddo.
MckLords Ltd - datblygu amrywiaeth o hylifau diheintio dwylo a diheintyddion, gan helpu i fodloni’r galw uwch am y cynhyrchion hyn yn ystod pandemig COVID-19.
PrimePac Solutions Ltd - datblygu'r gallu i gynhyrchu clytiau sychu mewn pecynnau bychan i fodloni’r galw am gynhyrchion diheintio ychwanegol.
White Hart Thatched Inn and Brewery Ltd - addasu distyllfa i gynhyrchu ethanol, i helpu yn yr ymdrechion i fynd i'r afael â’r prinder cynhyrchion diheintio cenedlaethol.