Prosiectau COVID

Rydym wedi cefnogi nifer o wahanol brosiectau mewn ymateb i'r heriau a ddaeth yn sgil yr achosion Coronavirus

I ddarganfod mwy, edrychwch ar y manylion o dan y categorïau isod;

Bee Robotics Ltd datblygu synhwyrydd Adwaith Cadwynol Polymerasau i ganfod COVID-19, er mwyn cadw golwg effeithiol ar y feirws o fewn cymuned.

Quay Pharmaceuticals Ltd datblygu tri chynnyrch arloesol newydd (hylif diheintio dwylo, chwistrell trwyn a gwm cnoi), i helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

University of South Wales dilysu dyfais brofi gyflym gan ddefnyddio technoleg LAMP, i gynyddu'r gallu i gynnal profion am y feirws.

University of South Wales ymchwilio i Dechnoleg Sgrinio Twymyn Torfol i brofi am COVID-19, a allai gael ei defnyddio ym maes addysg, gweithleoedd a digwyddiadau cymunedol.     

University of South Wales and Grid Xitek Ltd gwerthuso perfformiad prawf cyflym am COVID-19, sydd â’r potensial i gael ei ddefnyddio mewn lleoliadau cymunedol.

Zoobiotic Ltd (T/A Biomonde) datblygu gallu gweithredol i fodloni’r galw byd-eang am yr adweithredyddion hanfodol sydd eu hangen ar gyfer profion COVID-19.

Airquee Ltd - datblygu rhwystr amddiffyn ymarferol i’w roi o amgylch claf cyn i weithdrefnau achub bywyd gael eu cynnal, gan helpu i gadw staff meddygol a chleifion yn ddiogel yn ystod pandemig COVID-19.

Cotton Mouton Diagnostics Ltd & One Nine Design Ltd cydweithio ar ddatblygu dyfais i brofi yn gyflym am haint COVID-19 gweithredol a gwrthgyrff, er mwyn cynnal profion symudol cyflym a chywir yn y gymuned.  

Melys Diagnostics Ltd & Pi Logic Ltd datblygu dull o fesur Dirlawnder Ocsigen yn y Gwaed er mwyn canfod y feirws yn gynnar.

Swansea University datblygu prototeip ar gyfer peiriant anadlu gofal dwys, i ategu'r ddarpariaeth bresennol yn unol â’r galw uwch o ganlyniad i’r argyfwng.

University of South Wales & Panasonic Manufacturing cydweithio ar ddatblygu ocsifesurydd pwls ar gyfer COVID-19.

AMRC Cymruymchwilio i ddatblygu masg wyneb tryloyw ecogyfeillgar, gan ateb y galw am opsiwn cynaliadwy tymor hwy.

British Rototherm Groupdarparu cyflenwad o fasgiau wyneb i'r GIG, ymateb i'r argyfwng ac adeiladu gwydnwch ar gyfer y dyfodol

Brother Engineering Ltd sefydlu cwmni i gynhyrchu masgiau llawfeddygol mewn ymateb i bandemig COVID-19, gan helpu i fynd i'r afael â’r prinder cyfarpar diogelu personol a chyflenwadau meddygol.

Design Reality Limited datblygu masg anadlu elastomerig y gellir ei ailddefnyddio, gan ddarparu cynnyrch sy’n para ar gyfer staff rheng flaen a’r cyhoedd.

EBS Automation Ltd sefydlu cyfleuster cynhyrchu masgiau anadlu, i wneud cyfarpar diogelu personol hanfodol a chreu cyflenwad cadarn ar gyfer y dyfodol.

FSG Tool and Die Ltd cynhyrchu dyluniad newydd o ffrâm feisor, gan helpu ein staff rheng flaen i gadw'n ddiogel wrth ymateb i bandemig COVID-19.

Hardshell UK Ltd cynhyrchu masgiau ac anadlyddion mewn ymateb i bandemig COVID-19, gan fodloni’r galw presennol ac adeiladu cadernid ar gyfer y dyfodol.  

Rocialle Healthcare Ltd creu uned gynhyrchu newydd ar gyfer masgiau wyneb, gan helpu i reoli lledaeniad y feirws a chyfrannu at ddiogelu’r cyflenwad o fasgiau wyneb i'r GIG yng Nghymru a'r DU yn ei chyfanrwydd.

SURVIVA Ltd addasu eu hoffer i gynhyrchu niferoedd uchel o ynau dolen bawd, gan fodloni’r angen sylweddol am gyfarpar diogelu personol.

SURVIVA Ltdtrosi eu peiriant offer goroesi i addasu i ailgynllunio'r Gŵn Loop Thumb

Transcend Packaging Ltd cynhyrchu amddiffynnydd wyneb wedi’i ddylunio o’r newydd, i ddiogelu rhag gronynnau a gludir yn yr awyr a helpu i leihau lledaeniad COVID-19.

Tru-Plas Ltd datblygu masg wyneb y gellir ei ailddefnyddio, er mwyn gwella'r cyflenwad o gyfarpar diogelu personol cost isel sydd ar gael yn ystod y pandemig, ac yn y dyfodol.

Aparito Ltd datblygu system ddigidol i fonitro cleifion o bell, gan helpu i leihau'r angen i dderbyn cleifion mewnol.

Bond Digital Health Ltd datblygu platfform digidol i olrhain canlyniadau profion COVID-19, gan helpu i reoli'r pandemig hwn ac unrhyw achosion yn y dyfodol.

Dulas Ltd darparu cymorth ar-lein i wledydd sy'n datblygu, gan eu helpu i ddefnyddio technoleg pŵer solar Dulas i gadw brechlynnau’n oer, ac i achub bywydau mewn amgylchiadau heriol. 

Loyalty Logistix Ltd datblygu eu system gwmwl i gyfrannu at y gwaith o gynnal lefelau digonol o stociau cyfarpar diogelu personol, gan helpu cartrefi gofal yn ystod pandemig COVID-19.

Medical Analytica Ltddatblygu modelau Deallusrwydd Artiffisial i werthuso dwyster yr haint o belydrau-X y frest

Starfish Labs Ltd datblygu apiau ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau, gan helpu pobl i gadw'n ddiogel yn ystod pandemig COVID-19.

Surgical Consent Ltd (Concentric Health) datblygu dull o gydsynio i driniaeth o bell, gan helpu i leihau'r risg o ledaenu feirws COVID-19 a lleihau'r effaith ar y GIG.

Celtic Wellbeing Ltd datblygu amrediad o sebonau naturiol ac iddynt rinweddau gwrthfeirysol a gwrthfacterol, mewn ymdrech i helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu mewn ffordd ecogyfeillgar.

In the Welsh Wind Distillery Ltd sefydlu systemau a fydd yn galluogi’r cwmni i fynd yn ôl i gynhyrchu hylif diheintio dwylo pryd bynnag y bo angen, gan helpu i atal COVID-19 rhag gael ei drosglwyddo.

MckLords Ltd datblygu amrywiaeth o hylifau diheintio dwylo a diheintyddion, gan helpu i fodloni’r galw uwch am y cynhyrchion hyn yn ystod pandemig COVID-19. 

PrimePac Solutions Ltd datblygu'r gallu i gynhyrchu clytiau sychu mewn pecynnau bychan i fodloni’r galw am gynhyrchion diheintio ychwanegol.

White Hart Thatched Inn and Brewery Ltd addasu distyllfa i gynhyrchu ethanol, i helpu yn yr ymdrechion i fynd i'r afael â’r prinder cynhyrchion diheintio cenedlaethol.