Cyflwynir gan Mabbett & Associates.

 

Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfres o weithdai ar-lein ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a symud tuag at Sero Net. Fe’u cyflwynir gan Mabbett & Associates.

 

Trosolwg o'r Gweithdy

 

Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar opsiynau o ran arbed ynni, sut i'w gweithredu, a'r risgiau a'r heriau y dylech chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw.

 

Ymhlith y pynciau dan sylw mae:

 

  • Effeithlonrwydd Trydanol mewn Offer Prosesau
  • Systemau Rheoli Adeiladau
  • Ffabrig Adeiladau – Delweddu Thermol, Solar, Inswleiddio, Atal Drafft ac ati.
  • … A sut, ar gyfartaledd, mae newidiadau o ran ymddygiad yn gallu lleihau'r defnydd o ynni 5%!

 

Canlyniadau Dysgu:

 

  • Byddwch yn ymwybodol o’r angen i symud y sector Bwyd a Diod tuag at Sero Net, a sut mae Effeithlonrwydd Ynni a Rheoli Ynni yn gallu cefnogi hyn.  
  • Byddwch yn gyfarwydd ag amrywiaeth o gamau gweithredu o ran Effeithlonrwydd Ynni a Rheoli Ynni y gallwch chi eu rhoi ar waith i leihau faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio a faint o allyriadau carbon sy’n cael eu rhyddhau.   
  • Byddwch yn ymwybodol o’r ffyrdd ymarferol o roi’r gwahanol gamau gweithredu – o ran Effeithlonrwydd Ynni a Rheoli Ynni – ar waith. Byddwch hefyd yn gallu dweud a allai’r camau hyn fod yn ymarferol oddi mewn i’ch sefydliad.   

 

Bydd y gweithdai’n digwydd ar-lein ac maen nhw wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu ym maes bwyd a diod.

 

Maen nhw’n weithdai rhagweithiol ac yn caniatáu digon o drafodaeth er mwyn i’r rhai sy’n cymryd rhan allu rhannu eu profiad eu hunain trwy sesiynau grŵp. Bydd hefyd amser i ofyn cwestiynau i'r arbenigwyr. 

 

Ar ôl y gweithdy, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu mynd i sesiwn un-i-un 30 munud o hyd – sy’n rhad ac am ddim – gyda thiwtor y cwrs.

 

Ymunwch â ni i ddarganfod sut gallwch chi roi’r newidiadau hyn ar waith i’ch busnes.

Share this page

Print this page