Bydd prosiect Ecosystemau Bwyd Iach Ardal yr Iwerydd yn darparu gwasanaethau hyfforddi a chymorth busnes i fusnesau bach a chanolig sy'n gweithio yn y maes hwn. Bydd hyfforddiant a chymorth yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a byddant yn rhad ac am ddim i fusnesau bwyd a diod bach neu ganolig eu maint, sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac yn gweithio i dyfu eu maes bwyd a ffordd iach o fyw.

Mae BIC Innovation, partner y prosiect yng Nghymru, yn gwahodd busnesau bach a chanolig Cymreig yn y sector bwyd a diod iach i gymryd rhan mewn arolwg er mwyn helpu i lunio'r hyfforddiant a'r gwasanaethau a gynigir.

Am fwy o fanylion cliciwch yma

 

Share this page

Print this page