Gwahoddiad Arddangoswr Summer Fancy Food Show
Mae’r ‘Summer Fancy Food Show’ yn dwyn ynghyd filoedd o brynwyr, manwerthwyr, gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth bwyd, a’r cyfryngau o bob rhan o’r Unol Daleithiau a thu hwnt. Mae’n cael ei chydnabod yn eang fel porth allweddol i farchnad bwyd a diod arbenigol yr Unol Daleithiau.
Drwy gymryd rhan bydd eich busnes yn elwa ar:
Ffordd gost effeithiol o ymweld â’r Unol Daleithiau
Bod yn rhan o bresenoldeb Cymreig ar y cyd o dan faner Cymru/Wales
Rhwydweithio a siarad â busnesau allweddol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y farchnad
Rhannu profiadau a gwybodaeth â chyfranogwyr eraill o Gymru a’r DU
Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata
Gwahoddiadau i sesiynau briffio yn y farchnad, a derbyniadau rhwydweithio
E-bostiwch am ffurflen gais neu ragor o wybodaeth: