Cyflwynir gan Mabbett & Associates.

 

Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfres o weithdai ar-lein ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a symud tuag at Sero Net. Fe’u cyflwynir gan Mabbett & Associates.

 

Trosolwg o'r Gweithdy

 

Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar dechnolegau datgarboneiddio systemau gwresogi a bydd yn eich annog i wneud y canlynol: 

  • ystyried adolygu a gweithredu gweithdrefnau am effeithlonrwydd ynni; 
  • gwasanaethu eich offer; 
  • cynnal gwaith cynnal a chadw ataliol.

 

Ymhlith y pynciau dan sylw mae:

 

  • Cadwraeth Ynni ac osgoi arferion gwastraffus
  • Systemau Rheoli Adeiladau
  • Boeleri a Rheoli Defnydd o Ynni
  • Inswleiddio
  • Adfer Gwres
  • Trydaneiddio Systemau Gwresogi – cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth y DU i gael grid trydan sydd wedi’i ddatgarboneiddio erbyn 2035.

 

Canlyniadau Dysgu:

 

  • Byddwch yn ymwybodol o’r angen i symud y sector Bwyd a Diod tuag at Sero Net, a sut mae datgarboneiddio systemau gwresogi yn gallu cefnogi hyn.
  • Byddwch yn gyfarwydd ag amrywiaeth o ffyrdd o ddatgarboneiddio systemau gwresogi y gallwch chi eu rhoi ar waith i leihau faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio a faint o allyriadau carbon sy’n cael eu rhyddhau.
  • Byddwch yn ymwybodol o’r ffyrdd ymarferol o roi’r gwahanol gamau gweithredu – o ran datgarboneiddio systemau gwresogi – ar waith. Byddwch hefyd yn gallu dweud a allai’r camau hyn fod yn ymarferol oddi mewn i’ch sefydliad.
  • Byddwch yn gallu cyfleu i eraill sut y bydd camau i ddatgarboneiddio systemau gwresogi yn cefnogi eich sefydliad gyda'i broses ddatgarboneiddio.

 

Bydd y gweithdai’n digwydd ar-lein ac maen nhw wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu ym maes bwyd a diod.

 

Maen nhw’n weithdai rhagweithiol ac yn caniatáu digon o drafodaeth er mwyn i’r rhai sy’n cymryd rhan allu rhannu eu profiad eu hunain trwy sesiynau grŵp. Bydd hefyd amser i ofyn cwestiynau i'r arbenigwyr. 

 

Ar ôl y gweithdy, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu mynd i sesiwn un-i-un 30 munud o hyd – sy’n rhad ac am ddim – gyda thiwtor y cwrs.

 

Ymunwch â ni i ddarganfod sut gallwch chi roi’r newidiadau hyn ar waith i’ch busnes.

 

Share this page

Print this page