Mae adroddiad effaith tair blynedd newydd gan raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y cyfraniad sylweddol y mae mentrau datblygu'r gweithlu a gyrfaoedd yn ei wneud i dwf, gwydnwch a llwyddiant sector bwyd a diod Cymru i'r dyfodol.
Mae'r adroddiad; 'Datblygu sgiliau, cefnogi twf: Adroddiad effaith dros dair blynedd' yn arddangos cyflawniadau'r rhaglen dros y tair blynedd diwethaf, gan gynnwys cefnogaeth i 497 o fusnesau, mwy na 1,400 o unigolion wedi'u hyfforddi trwy oddeutu 2,000 o ymyriadau hyfforddi, ac ymgysylltu â dros 11,000 o ddisgyblion ledled Cymru.
Mae'r adroddiad yn dangos sut mae buddsoddiad wedi'i dargedu mewn sgiliau yn helpu busnesau i wella cynhyrchiant, cryfhau gallu arweinyddiaeth a diogelu eu gweithrediadau ar gyfer y dyfodol, gan ysbrydoli mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfaoedd yn y diwydiant bwyd a diod.
Mae rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer datblygu'r gweithlu a chyfleoedd hyfforddi wedi'u hariannu i fusnesau cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd a diod ledled Cymru. Gall busnesau cymwys dderbyn hyd at 80% o gyllid tuag at hyfforddiant cymeradwy, gyda chefnogaeth Rheolwyr Datblygu'r Gweithlu ymroddedig sy'n helpu i nodi bylchau sgiliau a chyfleoedd datblygu sy'n cyd-fynd ag amcanion busnes.
Ymhlith cyflawniadau'r rhaglen a amlygwyd yn yr adroddiad, gwelwyd cyflwyno 750 o Basbortau Gyrfa Bwyd a Diod, mwy na 6,000 o swyddi wedi'u hysbysebu trwy SwyddiBwydDiod.Cymru, 59 o astudiaethau achos yn arddangos llwyddiant busnesau, a chyfranogiad gan 3,692 o ddisgyblion yn Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus.
Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr y Rhaglen:
“Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr effaith sylweddol y gall buddsoddi mewn sgiliau ei chael ar fusnesau ac unigolion. Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi gweithio’n agos gyda phroseswyr a gweithgynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru i helpu i ddatblygu gweithlu medrus, cynhyrchiol a gwydn, gan ysbrydoli miloedd o bobl ifanc i archwilio gyrfaoedd mewn bwyd a diod. Mae’r cyflawniadau a ddangosir yn dyst i ymrwymiad busnesau Cymru ac yn dangos sut y gall cydweithio ar draws diwydiant, addysg a hyfforddiant helpu i adeiladu dyfodol cryfach i’r sector.”
Dywedodd Llyr Gruffydd, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:
“Mae gweithlu medrus ac sy'n gallu addasu, yn hanfodol i lwyddiant parhaus diwydiant bwyd a diod Cymru, un o’n sectorau sylfaen pwysicaf.
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y gall buddsoddiad wedi’i dargedu mewn pobl ei wneud, gan helpu busnesau i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wella cynhyrchiant, cryfhau arweinyddiaeth ac adeiladu gwydnwch ar gyfer y dyfodol.
“Mae’n arbennig o galonogol gweld gwaith y rhaglen nid yn unig yn cefnogi busnesau sefydledig ledled Cymru, ond hefyd yn ysbrydoli miloedd o bobl ifanc i archwilio’r ystod eang o yrfaoedd gwerth chweil sydd ar gael yn y sector bwyd a diod.
“Drwy gydweithio’n agos â phartneriaid diwydiant, addysg a hyfforddiant, rydym yn helpu i sicrhau bod gan y sector y dalent, yr arbenigedd a’r hyder sydd eu hangen arno i arloesi, tyfu a chystadlu, gan greu cyfleoedd i gymunedau ledled Cymru.”
Ochr yn ochr â datblygu'r gweithlu, mae'r rhaglen yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn y sector. Drwy sioeau teithiol, teithiau astudio, gweithgareddau ymgysylltu ysgolion a phartneriaethau â sefydliadau gan gynnwys Tasty Careers ac Expoverse Wales, mae dysgwyr wedi cael cipolwg gwerthfawr ar y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael ar draws cynhyrchu bwyd, peirianneg, marchnata, cynaliadwyedd a gwyddor bwyd.
Mae'r adroddiad yn cynnwys adborth gan fusnesau ledled Cymru sydd wedi elwa o hyfforddiant a chefnogaeth, gan amlygu effeithiau fel cynhyrchiant cynyddol, effeithlonrwydd gweithredol gwell, hyder gweithwyr gwell a chyfleoedd cryfach i ddatblygu gyrfa.
Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod cydweithio rhwng busnesau, darparwyr hyfforddiant, partneriaid addysg a rhanddeiliaid y diwydiant wedi bod yn allweddol i gryfhau'r llwybr sgiliau a sicrhau bod sector bwyd a diod Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol ac mewn sefyllfa dda ar gyfer twf yn y dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd hyfforddi, cefnogaeth gyrfaoedd a datblygu'r gweithlu ar gael drwy Sgiliau Bwyd a Diod Cymru.