Mae dros 20 o fragwyr o bob rhan o Gymru wedi manteisio ar y datblygiadau arloesol a’r arferion gorau diweddaraf gan ddarparwr gwasanaethau bragu a dadansoddi blaenllaw’r DU, gan ganiatáu iddynt dyfu a datblygu eu busnesau.

Mae Datblygu Sgiliau Bragu yn gwrs a gynigiwyd yn ddiweddar i fragwyr gan raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales a Chlwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ac a ddarperir gan arbenigwyr yn y diwydiant, Brewlab Ltd.

Cafodd bragwyr yng Nghymru gyfle i ddatblygu eu sgiliau mewn llunio ryseitiau, technegau blasu, proffilio cwrw, cynnal asesiadau microbiolegol, ac archwilio atebion ymarferol ar gyfer problemau cynhyrchu nodweddiadol. Cynhaliwyd y cwrs hyfforddi wythnos o hyd yn wreiddiol ym Mragdy Rhymni, Pont-y-pŵl ond oherwydd y galw, trefnwyd cwrs ychwanegol yng Ngogledd Cymru yn The Plough, Llanelwy.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Daniel Jones o Bragdy Cybi:

“Byddwn yn bendant yn cyflwyno rhai newidiadau ‘arfer gorau’ i’r bragdy o ganlyniad uniongyrchol i’r wybodaeth a gasglwyd ar y cwrs hwn.

Roedd y cwrs yn cynnig cymysgedd o wybodaeth yn cwmpasu sgiliau bragu a sgiliau labordy megis rheoli ansawdd, bragu a llunio ryseitiau, yn ogystal â blasu a phroffilio gwahanol arddulliau cwrw. Roedd hwn yn gyfle gwych i bobl fusnes o’r un anian i rwydweithio ac i rannu materion cyffredin. Roeddwn yn hyderus ac yn awyddus i ddychwelyd at ein busnesau i roi fy nghanfyddiadau ar waith.”

Dywedodd Gary Shingler o Fragdy Felinfoel:

“Rwyf wedi dysgu llawer ac rwyf eisoes yn ymgorffori fy nghanfyddiadau i redeg y bragdy.

Rwyf eisoes wedi gweld effaith gadarnhaol ar y busnes o ran gwella ein cynnyrch a datblygu dulliau effeithlon o fragu er mwyn parhau i ddatblygu ein busnes mewn ffordd gynaliadwy.

Dywedodd Alison Douglas, Rheolwr Gyfarwyddwr a Rheolwr Labordy ar gyfer Brewlab Ltd.

"Drwy annog rhyngweithio, roeddem yn gallu sicrhau bod y cwrs yn cwrdd â disgwyliadau'r mynychwyr. Fe wnaethom ymdrin â chymysgedd o themâu o sgiliau bragu a sgiliau labordy i reoli ansawdd, blasu, proffilio - nid yn unig edrych ar sut i fragu cwrw ond hefyd edrych ar unrhyw ddiffygion a sut i fynd i'r afael â hwy. Rydym wedi gweld amrywiaeth o bobl o wahanol gamau yn eu taith, o Fragwyr i'r rhai a oedd yn edrych ar sefydlu labordai ac roedd yn wych gweld sut y bu iddynt ffynnu dros gyfnod y cwrs.

Rydym bob amser yn cynnal cyrsiau trwy annog cymaint o ryngweithio â phosibl ac yn croesawu cwestiynau ar hyd y ffordd sy'n caniatáu i ni rannu cymaint o wybodaeth a'i gadw'n berthnasol i bob un o'r cyfranogwyr. Anogir bragwyr o bob maint i ymuno â’n cyrsiau ac mae’r ddau gwrs diwethaf i ni gydweithio arnynt gyda Sgiliau Bwyd a Diod Cymru a’r Clwstwr Diodydd wedi bod yn wych. Rydym wedi mwynhau cyfarfod â Bragwyr o bob rhan o Gymru, o fusnesau bach i rai mwy sefydledig."

Dywedodd Sian Davies, Rheolwr Datblygu'r Gweithlu (Canolbarth a De-ddwyrain Cymru) ar gyfer Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales:

“Rydym mor falch bod y bragwyr yn teimlo eu bod wedi elwa’n fawr o fynychu’r cwrs Datblygu Sgiliau Bragu.

Mae rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig hyd at 80% o gyllid tuag at gostau hyfforddi i fusnesau yn y sector gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod. Llwyddodd pob un o’r 23 a fynychodd y cwrs i fanteisio ar y cyllid hwn, sy’n ei gwneud yn bosibl ac yn hygyrch i gael mynediad at hyfforddiant arbenigol o ansawdd uchel - yn enwedig ar adeg pan rydym yn gweld llawer o fusnesau’n gorfod torri cyllidebau hyfforddi staff - mae’r cymorth hwn yn wir yn fanteisiol iddyn nhw.

Mae’n wych gweld pa mor frwd oedd y mynychwyr i fynd yn ôl i’w bragdai a gweithredu’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu”

Dywedodd Mark Grant, sy’n arwain y Grŵp Cwrw a Seidr fel rhan o Glwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru:

“Mae gan Gymru hanes hir o gynhyrchu cwrw o safon uchel trwy ystod eang o fragwyr o safon fyd-eang. Bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu i ddatblygu’r bragdai yng Nghymru a bydd yn sicrhau ein bod fel cenedl yn darparu cwrw o safon gyson uchel a fydd yn gwella ein henw da ar y llwyfan byd-eang. Mae’r gefnogaeth gan Raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru wedi ein helpu i greu hyfforddiant o’r radd flaenaf o werth mawr a fydd yn helpu diwydiant bragu Cymru i dyfu gartref a thramor”.

Share this page

Print this page