Mae arweinwyr y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru’n annog busnesau bychan i baratoi ar gyfer effeithiau Brexit ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.

 Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, llais dynodedig y diwydiant a gafodd ei sefydlu i annog a chynnal twf y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, yn credu bod yn rhaid i fusnesau bach a chanolig baratoi a dod i ddeall Brexit yn well a bod yr oedi yn y broses oherwydd yr Etholiad Cyffredinol yn dal i gostio’n ddrud i’r busnesau. 

Gyda Brexit ar y gorwel erbyn hyn, mae’r Bwrdd yn cynghori busnesau i gynllunio ar gyfer y dyfodol gan ddefnyddio’r holl gyngor sydd ar gael.  

Y busnesau bwyd a diod bychan yng Nghymru sydd debycaf o gael eu heffeithio fwyaf pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ond mae llawer o fusnesau bychan a chanolig yn y sector yn dal heb ofyn am wybodaeth na pharatoi eu busnesau, yn ôl y Bwrdd.

 Mae'r Bwrdd yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys cyrff y diwydiant a Llywodraeth Cymru, ac yn helpu i wneud yn siŵr y bydd gan Gymru'n gyfraniad pwysig i drafodaethau'r DU ynghylch dyfodol y sector.   

Wrth siarad am y problemau ynghylch Brexit sy'n dal heb eu datrys, meddai Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Andy Richardson;  

“Mae’n debyg iawn, gan fod gan y Llywodraeth fwyafrif yn San Steffan erbyn hyn, y bydd y Cytundeb Ymadael yn cael ei gymeradwyo gan y Senedd.     Ar ôl cyfnod pontio, gallai gwerthiannau sectorau megis y diwydiant bwyd môr yng Nghymru gael eu heffeithio’n ddifrifol ond rydyn ni’n clywed hefyd o bob sector yng Nghymru y gallai effeithiau Brexit adael busnesau bychan bwyd a diod yn fregus iawn gan beryglu swyddi.

 ”Mae Defra a Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllawiau penodol i'r diwydiant bwyd a diod ynghylch Brexit ac mae yna gyfle hefyd i fusnesau gytuno i dderbyn ebyst gyda'r newyddion diweddaraf gan y llywodraeth ynghylch Brexit a’r sector bwyd a diod.

Ychwanegodd Mr Richards: Rydyn ni hefyd wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru eu bod yn sylweddoli bod rhai rhannau o’r diwydiant yn debyg o gael ei effeithio’n ddrwg iawn ac y bydd Llywodraeth Cymru’n dal i gefnogi'r sectorau sydd fwyaf bregus ac yn rhoi help iddyn nhw yn y tymor byr."

“Fel Bwrdd rydyn ni’n deall ac yn cydnabod bod llawer o fusnesau bychan yn rhwystredig ac yn cael trafferthion difrifol wrth baratoi am Brexit.  Rydyn ni'n annog busnesau a chynhyrchwr i fynd ar lein i gael yr wybodaeth sydd ar gael a gweithredu arno i'w helpu i baratoi eu busnesau gynted â bo modd.  Fe fyddwn ni hefyd yn dal i weithio gyda’r Llywodraeth i sicrhau bod help a chefnogaeth ar gael i gadw'r sector i ffynnu a thyfu."

Share this page

Print this page