O ddydd Mawrth 9 Tachwedd, bydd y White Rose Centre yn y dre’ yn gartref  i Caru Busnesau Lleol @ Rhyl am 8 wythnos.

Gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Ddinbych, Antur Cymru a Chronfa Cymunedau Arfordirol Trawsnewid Trefi, bwriad y prosiect yw denu busnesau bwyd a diod newydd, busnesau sydd yn bodoli eisoes yn ogystal ȃ’r rhai hynny sydd yn ystyried dechrau busnes i gymryd gofod er mwyn arddangos eu cynnyrch ac i gymryd mantais o’r arbenigedd a’r mentora fydd ar gael iddynt.

Wedi’i lleoli mewn uned 3,000 o droedfeddi sgwȃr mi fydd y fenter ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul tan y flwyddyn newydd ac estynnir gwahoddiad i unrhywun yn y sir, y pentrefi a’r trefi cyfagos  sydd heb adeilad masanchol, i lenwi un o’r unedau manwerthu.

Yn ôl Lowri Roberts, Rheolwr y Prosiect, mae hwn yn gyfle gwych i’r rhai hynny sydd yn dymuno adeiladu ar eu busnes neu ddechrau busnes crefft yn y dre’ lan môr i archwilio’r posibilrwydd o wneud hynny mewn da bryd cyn agoriad arfaethedig ailddatblgyiad y Queen’s Market yn 2022

“Hoffwn glywed gan gynhyrchwyr bwyd a diod, crefftwyr a gwneuthurwyr sydd yn dymuno ehangu eu gweithrediadau i adeiladau masanchol neu gan y rhai hynny sydd eisoes ȃ chynlluniau i wneud hynny.” meddai.

“Bydd yna le i arddangos cynnyrch, mynediad at gyngor ar amryw o bynciau – o gyllid a strategaeth i frandio a marchnata – a llawer, llawer mwy yn ogystal ȃ rhoi llwyfan i ddatblygu eich model busnes mewn amgylchedd masnachol go iawn.   Rydym yn targedu Sir Ddinbych a’r ardaloedd ar y ffin yn benodol ond hefyd masnachwyr sydd efallai ȃ diddordeb mewn dechrau busnes yn y Rhyl rywbryd yn y dyfodol.

Boed yn wneuthurwyr cawsiau, jamiau, piclau, mêl, nwyddau gwyrdd neu rywbeth hollol wahanol ac angen lle i ddarganfod a ydi’r fenter yn un hyfyw, broffidiol - dyma'r cyfle i wneud hynny. 

Ar hyn o bryd,” ychwanegodd “rydym yn chwilio am ddau berson i redeg y siop o ddydd i ddydd yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn o 8 wythnos. Felly, os oes gennych ddiddordeb edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych.”

Wrth ategu’r neges dywedodd Kevin Harrington, Rheolwr Datblygu Antur Cymru, fod y cwmni yn falch iawn o fod yn rhan o’r fenter pop-up hon. Meddai “Rydym wedi bod yn darparu cefnogaeth busnes ac entrepreneuriaeth i’r diwydiant ers dros 40 mlynedd yn ogystal ȃ chynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru.  Rydym yn annog pobl Sir Ddinybych a’r ardaloedd cyfagos i gymryd mantais o’r cyfle amrhisiadwy hwn i symud eu busnes, neu syniad busnes, i’r cam nesaf a hynny o fewn awyrgylch groesawgar a chyfeillgar.”

Meddai’r Cyng. Hugh Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol ar ran yr Economi:

“Rydym yn gyffrous iawn o fedru cynnig cefnogaeth leol iawn i fusnesau Sir Ddinbych o fewn canolfan siopa fwyaf tre’r Rhyl.  Yn ychwanegol at weithredu fel canolfan gymorth i fusnesau a llenwi unedau manwerthu gwag, mi fydd yn atyniad i ymwelwyr drwy ychwanegu at y dewis o siopau yn y dre’.  Mae angen cefnogaeth ar fusnesau y gaeaf hwn. Gyda’n gilydd gadewch i ni gefnogi’r trefi trwy siopa’n lleol a defnyddio’r hashnod #CaruBusnesauLleol i annog eraill i wneud yr un fath.” 

Bydd pawb sydd yn cymryd rhan yn y fenter hon yn cael mynediad at wasanaeth ymgynghorwyr a mentoriaid Busnes Cymru- wedi’i ariannu’n llawn – ar y safle, yn ogystal ȃ deunyddiau marchnata a chyngor ar sut i dendro ar GwerthwchiGymru a gwefannau perthnasol eraill.

Share this page

Print this page