The Welsh Government Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales programme team

 

Mae adroddiad newydd gan IGD (Food and drink workforce – a quiet crisis building?, Chwefror 2026) yn tynnu sylw at "argyfwng tawel" yn adeiladu o fewn gweithlu bwyd a diod y DU, gan rybuddio y bydd angen newid sylweddol mewn gallu technegol, digidol a gwyddonol ar y sector erbyn 2030. Gyda'r system yn dod yn fwyfwy awtomataidd, yn cael ei gyrru gan ddata ac yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, mae'r adroddiad yn nodi nad yw llawer o'r sgiliau hanfodol ar gyfer y dyfodol "yn bodoli ar raddfa fawr heddiw," gan alw buddsoddiad cynnar yn "hanfodol" i ddiogelu cystadleurwydd ac arloesedd.

Mae'r canfyddiadau'n amlinellu angen cynyddol am sgiliau lefel uwch a heb fynd i'r afael â'r prinderau hyn, mae'r adroddiad yn rhybuddio am oedi posib o ran arloesedd a methiannau o ran cyrraedd targedau cynaliadwyedd, i enwi ond ychydig.

Gyda heriau recriwtio yn parhau ar draws y sector, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at uwchsgilio gweithwyr presennol fel un o'r datrysiadau mwyaf dibynadwy a chost-effeithiol. 

Mae rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru (y rhaglen) mewn sefyllfa dda i helpu busnesau i ymateb. Gyda heriau recriwtio yn effeithio ar gyflogwyr ar draws y sector, mae'r rhaglen yn cefnogi cwmnïau i adnabod bylchau sgiliau, cael mynediad at hyfforddiant a ariennir, a datblygu llwybrau dilyniant clir - gan gryfhau gallu a gwella cyfleoedd i gadw staff. 

Gall cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd a diod cymwys gael mynediad at hyd at 80% o gyllid tuag at hyfforddiant drwy'r rhaglen. Gwahoddir busnesau i gysylltu i drafod eu hanghenion hyfforddi a datblygu sgiliau cyn 31 Gorffennaf 2026 (gyda'r dyddiad cau ar gyfer cwblhau hyfforddiant ddiwedd Mehefin 2026).

Ochr yn ochr â'r bwlch sgiliau technegol, mae adroddiad yr IGD yn tynnu sylw at yr angen i ddenu mwy o bobl ifanc i'r diwydiant.

Trwy ei hymgysylltiad ag ysgolion, colegau a phrifysgolion, a thrwy gysylltu dysgwyr â phrofiadau go iawn yn y diwydiant, mae'r rhaglen yn helpu i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa modern, sy'n cael eu gyrru gan STEM ac yn adeiladu ffynhonell dalent gryfach i'r dyfodol i Gymru.

Dywedodd Kate Rees, Rheolwr Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru:

“Mae creu gweithlu lle gall pawb ffynnu yn hanfodol i ddyfodol sector bwyd a diod Cymru. Drwy ein rhaglen, rydym wedi ymrwymo i helpu cyflogwyr i adeiladu gweithleoedd cynhwysol a chefnogol sy’n wirioneddol adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau. Drwy gydweithio i ddileu rhwystrau a chreu cyfleoedd, fel bod Cymru’n datblygu gweithlu bwyd modern, gwydn a theg ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru gefnogi busnesau i baratoi ar gyfer y dyfodol, cysylltwch â: sgiliau-cymru@mentera.cymru

Share this page

Print this page