Mae Parlwr Hufen Iâ Red Boat ar Ynys Môn yn rhoi gwên ar wynebau gweithwyr gofal iechyd a chleifion y gogledd yn ystod yr argyfwng coronafeirws drwy roi hufen iâ a sorbedau am ddim iddyn nhw.

Mae’r parlwr hufen iâ llwyddiannus, sy’n arbenigo mewn creu gelato cartref traddodiadol, wedi bod yn cludo potiau o’u hufen iâ a sorbedau i ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal ledled Ynys Môn a’r gogledd ers i’r cyfyngiadau presennol ddod i rym.

“Roedd gennyn ni ddigon o’n hufen iâ a sorbedau gelato yn barod ar gyfer y gwanwyn a thymor twristiaid yr haf ac felly yn lle eu bod yn eistedd yn y rhewgell heb eu bwyta, penderfynon ni eu rhoi i’r ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal ledled gogledd Cymru,” meddai Tony Green, perchennog Parlwr Hufen Iâ Red Boat.

“Dechreuon ni gyda’r ysbytai a’r cartrefi gofal  a wedyn meddwl am yr hosbisau lleol. Treuliodd fy mrawd mawr amser mewn hosbis ac roeddwn i eisiau helpu mewn rhyw ffordd. Rhoddais neges ar ein tudalen Facebook am gludo hufen iâ am ddim ac mae’r fenter wedi tyfu fel caseg eira ers hynny. Mae wedi bod yn wych ac mae’r sylwadau hyfryd rydyn ni wedi eu cael yn anhygoel!”

Mae Tony a Lyn Green yn berchen ar barlyrau hufen iâ ar hyd a lled Ynys Môn a’r gogledd, felly maen nhw’n hen lawiau ar greu’r gelato a’r sorbedau gorau. Dechreuon nhw’r busnes yn 2009 gan arbenigo mewn hufen iâ gelato Eidalaidd ar ôl i Tony gael hyfforddiant cynhwysfawr yn y grefft o wneud hufen iâ ym Mhrifysgol Carpigiani Gelato yn yr Eidal.

Mae eu holl gelato yn cael ei wneud yn ffres yn eu canolfan gynhyrchu newydd yn Llangefni, a agorodd y llynedd. Mae digon o wahanol flasau i’w cael, a’r cyfan wedi ei wneud gyda’r cynhwysion gorau a digon o frwdfrydedd. Ar hyn o bryd maen nhw’n cyflogi wyth o staff, sydd ar ffyrlo yn ystod yr argyfwng presennol.

Mae Tony a’i wraig Lyn wedi bod yn cludo’r hufen iâ yn eu fan rewgell, a fyddai fel arfer yn cael ei defnyddio i gyflenwi eu parlyrau a’u safleoedd eu hunain. Maen nhw hefyd wedi cyfrannu hufen iâ i ganolfan reoli leol yr heddlu ar Ynys Môn.

Dywedodd Tony Green hefyd,

“Rydyn ni eisiau goroesi hyn oherwydd mae’r sefyllfa wedi gwneud inni feddwl am natur fregus y busnes. Dyma ein ffordd ni o ddiolch i’r GIG, a gwasanaethau gofal iechyd lleol yng ngogledd Cymru. Rydyn ni eisiau lledaenu hapusrwydd drwy’r gymuned i’r holl bobl sy’n gweithio’n galed, gwneud i bobl deimlo’n well a rhoi trît iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Ychwanegodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths,

“Mae’r pandemig Covid-19 wedi dod â heriau mawr i’n diwydiant bwyd a diod. Nid yn unig ei fod wedi effeithio ar ein bywydau bob dydd ond hefyd ar sectorau allweddol sy’n rhannau hanfodol o’n economi. Mae’n hyfryd gweld cwmnïau fel Hufen Iâ Red Boat yn cefnogi ein cymunedau drwy gynnig cyflenwadau dros ben o’u cynhyrchion i weithwyr gofal iechyd a chleifion yn ystod y cyfnod heriol hwn.”

Mae Parlyrau Hufen Iâ Red Boat ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd ar ynys Môn a ledled gogledd Cymru ond mae eu canolfan gynhyrchu yn Llangefni yn barod i fynd os oes angen cynhyrchu rhagor o hufen iâ a sorbedau yn y gobaith y bydd y  galw’n cynyddu.

Am ragor o wybodaeth am Barlwr Hufen Iâ Red Boat a’u cynnyrch, ewch i https://redboatgelato.co.uk/

 

Share this page

Print this page