Mae llywydd Cymdeithas Goginio Cymru (CAW), Arwyn Watkins, OBE, wedi ychwanegu gwobr arall eto at ei restr o anrhydeddau.

Enillodd Wobr Arweinydd y Flwyddyn, a noddwyd gan Veteran Trees, yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru eleni a daeth yn ail yng Ngwobr Entrepreneur y Flwyddyn, a noddwyd gan Pinnacle Document Solutions Group.

Mae'r wobr yn cydnabod gwaith Arwyn fel llywydd CAW yn arwain cais llwyddiannus Tîm Cymru i ddod â Chyngres ac Expo Worldchefs i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru), Casnewydd yn 2026.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl y wobr ac mae'n fraint fawr ennill mewn categori mor gryf,” meddai. “Rwy’n gwneud y gwaith yn wirfoddol gyda Chymdeithas Goginio Cymru heb feddwl am anrhydeddau, ond mae’n braf cael cydnabyddiaeth.

“Dydi pawb ddim yn gwybod fy mod i'n gyn-filwr a dim ond yn y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi ailgysylltu â chymuned y cyn-filwyr. Mae’n datblygu i fod yn flwyddyn gofiadwy, gan i mi gael fy newis yn un o 50 o gyn-filwyr o Gorfflu Arlwyo’r Fyddin i gymryd rhan yn yr Orymdaith Heibio'r Senotaff ar Sul y Cofio eleni.

Ac yntau'n frwd dros ddatblygu cogyddion yng Nghymru, bu Arwyn yn hyfforddi Tîm Coginio Ieuenctid Cymru a enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd y Byd Coginio yn 2004 ac fe’i penodwyd yn llywydd CAW yn 2015.

Dair blynedd wedyn, enillodd Fedal Llywyddion Worldchefs am hyrwyddo datblygiad a phroffil crefft a phroffesiwn coginio yng Nghymru.

Arwyn yw cadeirydd gweithredol grŵp Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Trailhead Fine Foods a Mid Wales Fayres o'r Trallwng, a bwyty Chartists 1770 yng Ngwesty Trewythen, Llanidloes.

Ymunodd y mab ffarm o Lanwrtyd â’r Fyddin fel prentis cogydd yn 1978 a bu'n frwd o blaid rhaglenni prentisiaethau byth ers hynny.

Ar ôl gadael y Fyddin yn 1992, ymunodd â’r Llynges Fasnachol, yna bu'n gweithio i Stena Line a bu'n ddarlithydd mewn coleg arlwyo yng Nghaint cyn dychwelyd i Ganolbarth Cymru i ymuno â Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn 1998.

Yn 2002, arweiniodd y broses o brynu'r cwmni gan y rheolwyr a mwynhawyd twf a llwyddiant sylweddol o dan ei arweiniad ers hynny. Ac yntau’n ffigwr allweddol yn y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru, bu'n gadeirydd ac yn brif weithredwr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) ac ar hyn o bryd mae'n aelod o'r bwrdd.

Dyfarnwyd OBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau’r Calan 2018, am ei wasanaethau i addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Share this page

Print this page