Ireland Trade Mission - Welsh Producers

 

Bydd saith busnes bwyd a diod o Gymru yn teithio i Ddulyn rhwng 23–25 Mawrth fel rhan o ymweliad masnach allforio penodol, gyda’r nod o sicrhau rhestriadau newydd ym maes manwerthu a gwasanaeth bwyd yn Iwerddon.

Bydd y ddirprwyaeth, sy’n arbenigo mewn cynnyrch pobi a siocled, yn cwrdd â phrynwyr uwch o sefydliadau blaenllaw Gwyddelig a rhyngwladol gan gynnwys Musgrave Group (SuperValu, Donnybrook Fair), Tesco Ireland, Marks & Spencer Ireland, Sysco Ireland ac Aramark.

Mae Iwerddon yn parhau i fod yn farchnad agos allweddol i gynhyrchwyr Cymreig, gan gynnig aliniad diwylliannol cryf, cadwyni cyflenwi sefydledig a galw cynyddol am gynnyrch premiwm o ansawdd uchel.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:

“Mae Iwerddon yn un o’n partneriaid masnach agosaf ac yn farchnad bwysig i fusnesau bwyd a diod Cymru sy’n dymuno tyfu eu hallforion.

Mae’r ymweliad hwn yn cynnig llwyfan gwerthfawr i gynhyrchwyr feithrin perthnasoedd â phrynwyr mawr a throi enw da Cymru am ansawdd, tarddiad a chynaliadwyedd yn gyfleoedd masnachol pendant.”

Mae’r rhaglen yn cynnwys digwyddiad ‘Cwrdd â'r Prynwr’ yn y Clayton Hotel, Ballsbridge, ynghyd ag ymweliadau manwerthu a chyfleoedd rhwydweithio, gan gynnwys Donnybrook Fair a phrif safle Avoca yn Kilmacanogue.

Mae sector bwyd a diod Cymru yn parhau i berfformio’n gryf yn rhyngwladol. Yn 2023, cyrhaeddodd allforion y lefel uchaf erioed o £813 miliwn, gyda 75% yn mynd i farchnadoedd yr UE – gan danlinellu pwysigrwydd marchnadoedd cyfagos fel Iwerddon ar gyfer twf yn y dyfodol.

Dywedodd Ray D’Arcy, Rheolwr Gyfarwyddwr Tregroes Waffles:

“Mae Iwerddon yn gam naturiol nesaf i frandiau Cymreig. Mae’n farchnad lle mae ansawdd a tharddiad yn wirioneddol bwysig, ac mae cynnyrch o Gymru yn gallu cystadlu’n gryf.

Mae cael mynediad uniongyrchol at brynwyr o fanwerthwyr a chwmnïau gwasanaeth bwyd mawr mewn un ymweliad yn gyfle sylweddol i ni dyfu ein busnes allforio.”

Ychwanegodd Rhys Llywelyn, Uwch Ymgynghorydd Allforio ar gyfer Clwstwr Allforio Bwyd a Diod Cymru:

“Mae’r ymweliad hwn yn canolbwyntio ar greu canlyniadau masnachol go iawn. Rydym yn dod â chynhyrchwyr Cymreig a phrynwyr ynghyd sydd wrthi’n chwilio am gynnyrch newydd, gyda’r nod o symud yn gyflym o drafodaethau cychwynnol i dreialon a rhestriadau.”

 

Cynhyrchwyr sy’n cymryd rhan

  • ANRProbake – Gwneuthurwr cynnyrch pobi wedi’i gyfoethogi’n faethol, gan ganolbwyntio ar arloesedd cynnyrch iachach
  • Cradoc’s Savoury Biscuits – Becws crefftus yn cynhyrchu craceri sawrus a breadsticks
  • Tregroes Waffles – Cynhyrchydd wafflau Cymreig sy’n eiddo i weithwyr, gyda dros 40 mlynedd o brofiad
  • The Cake Crew – Gwneuthurwr cacennau annibynnol yn y DU sy’n cyflenwi marchnadoedd manwerthu a chyfanwerthu
  • Coco Pzazz – Brand siocled crefftus sy’n cyfuno siocled premiwm â phecynnu cynaliadwy
  • Gwalia Bakery (Burt’s) – Becws teuluol trydedd genhedlaeth a sefydlwyd ym 1914
  • Just Love Food Co – Gwneuthurwr cacennau arbenigol heb alergenau, yn cwmpasu pob un o’r 14 alergen

Share this page

Print this page