Mae dros 100 o gynhyrchwyr diodydd o Gymru yn dod at ei gilydd i greu'r digwyddiad 'Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru' cyntaf o'i fath i arddangos amrywiaeth ac ansawdd y diodydd sy'n cael eu cynhyrchu yma wrth i ni nesáu at y Nadolig.

Mae 'Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru' yn cael ei gydlynu gan Glwstwr Diodydd Cymru, a bydd defnyddwyr yn gweld pob math o weithgarwch fel rhan o'r ymgyrch - o ddigwyddiadau i gystadlaethau - a'r cyfan yn cael ei gynnal gan gynhyrchwyr diodydd o Gymru o bob sector, gan gynnwys gwin, cwrw, seidr, gwirodydd, dŵr, diodydd ysgafn, diodydd iechyd, te a choffi.

Bydd gwefan yr ymgyrch yn cael ei lansio ddydd Llun 9 Tachwedd, a bydd yr hwyl yn dechrau o 23 Tachwedd ymlaen, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau ar-lein yn cael eu cynnal gan gynhyrchwyr diodydd ledled Cymru. Drwy ddigwyddiadau blasu rhithiol, teithiau ar-lein a sesiynau cwrdd â'r arbenigwyr, bydd pob digwyddiad yn rhoi blas ar y diwydiant a busnesau penodol i'r defnyddwyr, yn cynnwys cyfle i ddysgu rhagor am y cynnyrch diod gorau sydd ar gael i'w prynu cyn cyfnod y Nadolig a'r Calan.

Mae'r digwyddiadau sydd eisoes wedi'u cadarnhau gan gynnwys sesiynau blasu cwrw crefft Snowdon Craft Beer, jin o Fachynlleth gan Ddistyllfa Dyfi, a gwin o Ynys Môn gan Winllan Red Wharf Bay. Bydd gweithdai byw am fwydydd cyflawn Nadoligaidd a diodydd brag yn cael eu cynnal gan y cynhyrchwyr kombucha, Absorb Health, a bydd cymysgwyr o Ddistyllfa Caerdydd yn creu coctels bendigedig i bobl gartref eu dilyn a'u creu eu hunain.

Bydd modd i ddefnyddwyr ddarganfod cynhyrchwyr diodydd lleol ledled Cymru gan ddefnyddio'r mapiau rhyngweithiol ar y wefan. Drwy ddefnyddio'r mapiau, bydd modd i ddefnyddwyr glicio dolen a mynd yn syth i wefan y cynhyrchwyr i brynu'n uniongyrchol ganddyn nhw. Yn ogystal, bydd cystadlaethau ac adolygiadau o'r diwydiant i gyd-fynd â'r calendr o ddigwyddiadau.

Mae Clwstwr Diodydd Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau diod, manwerthwyr a chyfanwerthwyr i greu sector diodydd bywiog a ffyniannus sy'n cynnwys cynhyrchwyr egnïol sy'n creu diodydd arloesol a  nodedig. Mae'n lansio digwyddiad 'Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru' i gefnogi cynhyrchwyr sydd wedi gweld gostyngiad yn eu gwerthiant i'r diwydiant lletygarwch eleni cyn un o adegau prysuraf y flwyddyn i gynhyrchwyr diod fel arfer. 

Bydd modd i ddefnyddwyr gael mynediad at gystadlaethau unigryw ar wefan Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru. Bydd cynhyrchwyr diodydd sy'n cynnal digwyddiadau blasu yn rhyddhau gwybodaeth am ba gynnyrch fydd yn cael eu harddangos cyn y digwyddiad, a bydd anogaeth i bobl brynu potelaid ymlaen llaw i'w blasu ac i gymryd rhan yn y profiad.

Dywedodd cynrychiolydd o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: "Wrth i bobl ledled y byd barhau i ymladd pandemig y coronafeirws, rydyn ni'n gwybod y bydd y Nadolig eleni'n wahanol iawn i'r arfer. Mae diwydiant diodydd Cymru, sydd wedi ennyn parch rhyngwladol, wedi teimlo effaith y coronafeirws oherwydd bod llai o dwristiaeth, sy'n golygu llai o werthiant wrth ddrysau'r seler, a bod gwerthiant yn y diwydiant lletygarwch hefyd wedi cael ei daro.

"Er gwaetha'r heriau sydd wedi'u hwynebu nhw eleni, mae cynhyrchwyr diodydd ym mhob sector wedi bod yn gweithio'n galetach nag erioed i wneud cynnyrch o'r safon orau. Nod ymgyrch 'Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru' yw sicrhau bod diodydd Cymru yn chwarae rhan yn nathliadau Nadolig pobl eleni. Boed hynny i'w prynu fel anrheg, neu i'w hyfed yn ystod eich cinio Nadolig, beth am gefnogi ein cynhyrchwyr diodydd annibynnol wrth i'r flwyddyn ddod i ben."

Gobaith ymgyrch 'Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru' yw codi ymwybyddiaeth a gwneud holl gynhyrchwyr diodydd Cymru yn fwy gweladwy, gan gyfeirio defnyddwyr at fusnesau sydd ar garreg eu drws neu ledled Cymru.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Yn wyneb yr holl heriau yn ystod y cyfnod digyffelyb yma, mae cynhyrchwyr diodydd a bwydydd Cymru wedi parhau i weithio, i ddiogelu swyddi ac i greu cynnyrch sy'n dathlu popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.  Mae lansio digwyddiad 'Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru' yn gyfle i bob un ohonon ni gefnogi gwydnwch parhaus ein sector bwyd a diod."

Bydd calendr o holl ddigwyddiadau 'Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru' yn cael ei ryddhau dros yr wythnosau nesaf ar y wefan swyddogol http://www.welshdrinkschristmas.co.uk.

 

Share this page

Print this page