Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi agor yn swyddogol Ganolfan Flasu newydd sbon yng Ngwinllan Llannerch, ac wedi gweld y gwaith ar rawnwin sy'n cael ei wneud wrth i Wythnos Gwin Cymru ddechrau heddiw.

Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae Wythnos Gwin Cymru yn dathlu'r gwinoedd gwych sy'n cael eu cynhyrchu mewn gwinllannoedd yng Nghymru.

Mae'r digwyddiad blynyddol yn cael ei drefnu gan Glwstwr Diodydd Cymru, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n gweithio gyda gwinllannoedd, manwerthwyr a chyfanwerthwyr i hyrwyddo'r sector a'i gynhyrchion o'r radd flaenaf.

Mae nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal rhwng heddiw a dydd Sul 12 Mehefin, gan gynnwys teithiau dan arweiniad arbenigwyr a sesiynau blasu.

Mae'r rhestr lawn o ddigwyddiadau ar gael ar wefan arbennig Wythnos Gwin Cymru

Ers y digwyddiad y llynedd, mae Gwinoedd Cymru wedi cael eu cydnabod yn rhyngwladol, wrth i Winllan White Castle yn Sir Fynwy guro cynhyrchwyr gorau y byd i ennill y Wobr Aur yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter am ei Pinot Noir Reserve 2018.

Dyma oedd y gwin cyntaf o Gymru i ennill Gwobr Aur yn y gwobrau uchel eu parch hyn, gan roi hwb i gynhyrchwyr gwin Cymru ar lwyfan rhyngwladol.

Mae Llannerch bellach yn un o'r gwinllannoedd masnachol mwyaf yng Nghymru, ac mae'n denu ymwelwyr o bedwar ban y byd â'i bwyty a bar, sydd wedi ennill gwobrau, ei phabell fawr a bwthyn ciper ar gyfer priodasau, a sesiynau blasu gwin a theithiau o amgylch y gwinllan.

Prynodd Ryan Davies y winllan yn 2010, gyda'r nod o efelychu'r modelau llwyddiannus ar gyfer twristiaeth gwin roedd wedi'u gweld pan oedd yn gweithio mewn gwinllannoedd yn Seland Newydd ac Awstralia.

Dywedodd Ryan: "Roedd yn braf croesawu Lesley Griffiths i Winllan Llannerch, a dangos y ffordd rydyn ni wedi arallgyfeirio a thyfu'n gyrchfan twristiaeth sy'n seiliedig ar winllan dros y ddeg mlynedd diwethaf.

"Mae gan Gymru winllannoedd gwych, sy'n cynhyrchu amrediad helaeth o winoedd uchel eu hansawdd, gan helpu i ychwanegu at y pecyn twristiaeth mae Cymru yn ei gynnig ar gyfer ymwelwyr.

"Gan fod nifer y gwinllannoedd yn cynyddu a bod gwinwydd ychwanegol yn cael eu plannu, mae'n adeg foddhaus i weithio mewn diwydiant sy'n prysur dyfu ac yn ennill ei le ar lwyfan byd-eang."

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, Lesley Griffiths: "Mae diwydiant gwin Cymru yn parhau i ffynnu, a phob blwyddyn gall rhagor o bobl fwynhau blasau gwych Cymru drwy ddod i ddigwyddiadau yn ystod Wythnos Gwin Cymru.

"Mae gwinllannoedd yng Nghymru wedi dangos eu cadernid yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, a fu'n hynod anodd, ac rydyn ni wedi gweld arloesi a sgiliau gwych sydd wedi cael eu cydnabod gan wobrau uchel eu parch.

"Mae wedi bod yn wych dod i Winllan Llannerch, i agor eu Canolfan Blasu newydd ac i gwrdd â Ryan a'r tîm i weld y gwaith gwych yn mynd rhagddo.

"Rwyf wir yn dymuno llwyddiant i bawb sy'n cymryd rhan yn Wythnos Gwin Cymru, wrth i win gwych ein gwlad gael ei ddathlu."

Dywedodd Arweinydd Clwstwr Diodydd Cymru, Mark Grant: "Cafodd y Clwstwr Diodydd ei sefydlu yn ôl yn 2017 i annog cynhyrchwyr diod Cymru i gydweithio i ddatblygu'r sector diodydd yng Nghymru.

"Mae'r Clwstwr bellach yn gweithio gyda dros 200 o gynhyrchwyr diodydd, ar draws y sector Cwrw a Seidr, Gwin, Gwirodydd, Dŵr a Diodydd Ysgafn a Diodydd Poeth, gan eu helpu eu datblygu eu brandiau, cynyddu cynhyrchiant, gwella eu sgiliau a chroesawu syniadau arloesol.

"Mae Wythnos Gwin Cymru yn enghraifft wych o'r gwaith hwn, lle rydyn ni'n cynyddu presenoldeb ar-lein gwinllannoedd Cymru ac yn galluogi cwsmeriaid i ddysgu mwy am y gwinoedd o ansawdd uchel sy'n cael eu cynhyrchu yma yng Nghymru.

"Rydyn ni'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ymuno â ni heddiw yng Ngwinllan Llannerch i'n helpu ni y lansio Wythnos Gwin Cymru, ac am ei chefnogaeth barhaus i'r Clwstwr Diodydd."

Share this page

Print this page