Dyma gynnydd o 2.9% o'r trosiant o £22.4 biliwn yn 2020.
Gwelwyd twf cadarn iawn yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, sy'n cynhyrchu cynhyrchion amrywiol, yn 2021 gyda throsiant yn cynyddu 10.2% o £4.9bn i £5.4bn.
Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn y newyddion a ddatgelwyd yn gynharach eleni bod gwerth allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed yn 2021, sef £640m.
Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i helpu busnesau yn y sector drwy amryfal gynlluniau cymorth lsy'n darparu mewnwelediad a gwybodaeth am y farchnad, buddsoddi, cefnogaeth dechnegol, cefnogaeth allforio a phwyslais cryf ar rwydweithio busnes.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Mae'r ffigyrau yma'n dangos ymrwymiad ac awydd busnesau bwyd a diod o Gymru i lwyddo, er gwaethaf y sefyllfa economaidd anodd maen nhw'n ei hwynebu.
Rwy'n falch iawn o'r gwytnwch a'r mentergarwch y mae bsnesau yn eu dangos wrth adfer ar ôl y pandemig a goresgyn heriau lluosog yn y gadwyn gyflenwi.
Mae busnesau arloesol Cymru yn arwain o fewn y sector, ac mae’r ffaith eu bod yn ennill gwobrau’n gyson yn tystio i hyn.
Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru hefyd yn hollbwysig a bydd hyn yn parhau wrth i ni helpu busnes i gyflawni hyd eithaf eu gallu.