Mae hon yn ganolfan o'r radd flaenaf. Cafodd ei hariannu yn llawn ag £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei rheoli gan Brifysgol Sheffield. Mae’n  canolbwyntio ar sectorau gweithgynhyrchu uwch, gan gynnwys y sectorau awyrofod, modurol, niwclear a bwyd. Rhagwelir y gallai'r cyfleuster newydd ychwanegu gwerth ychwanegol gros o £4 biliwn at economi Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf.

Eleni, chwaraeodd AMRC Cymru ran hanfodol yn y gwaith o weithgynhyrchu  peiriannau anadlu mewn ymateb i bandemig COVID-19. Cafodd gweithwyr Airbus eu hadleoli fel rhan o gonsortiwm Her Peiriannau Anadlu’r DU. Roedd y consortiwm yn cynnwys busnesau diwydiannol, technolegol a pheirianegol yn y DU, a chynhyrchodd 13,437 o beiriannau anadlu o fewn amserlen hynod dynn.

Mae peirianwyr AMRC Cymru hefyd wedi gweithio gyda Bwyd a Diod Cymru i lunio canllaw ar gyfer gweithgynhyrchu mewn modd cynhyrchiol ond diogel yn ystod y pandemig ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, gan adeiladu ar y profiadau a gafwyd yn ystod y gwaith o gynhyrchu peiriannau anadlu.

Bydd AMRC Cymru hefyd yn sefydlu Canolfan Cynaliadwyedd Pecynnu Bwyd a Diod ym Mrychdyn yn dilyn dyfarniad grant o £2 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal â chreu prototeipiau a darparu offer profi gweithredol ar gyfer deunyddiau pecynnu newydd, bydd y ganolfan hefyd yn arddangos galluoedd AMRC ym meysydd awtomeiddio uwch, roboteg gydweithredol a delweddu. Mae hefyd yn gweithio gydag adran arloesi Llywodraeth Cymru ar nifer o brosiectau peilot i gyflwyno technoleg arloesol i'r sector gweithgynhyrchu.

Mae Airbus, tenant angori cyntaf AMRC Cymru, yn parhau â’i waith o ddatblygu rhaglen Wing of Tomorrow yn y ganolfan, yn dilyn yr oedi i gynhyrchu’r peiriannau anadlu. Wing of Tomorrow yw rhaglen ymchwil a thechnoleg fwyaf Airbus, ac mae'n bartneriaeth fyd-eang gyda'r diwydiant cyfan i ddatblygu ac arddangos y dechnoleg ffisegol a'r gallu digidol sydd eu hangen i ddarparu'r genhedlaeth nesaf o adenydd awyrennau. Yn 2021 bydd un o brif uchelgeisiau Wing of Tomorrow – sef cynhyrchu arddangoswr bocs adenydd 17 metr – yn cael ei wireddu.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru:

“Fe wnaethon ni ariannu'r ganolfan hon oherwydd ein bod yn gwybod y gallai newid y sefyllfa yn yr ardal yn llwyr. Yn y flwyddyn ddigynsail ac anodd hon cododd i'r her o  weithgynhyrchu peiriannau anadlu’n gyflym, ar y cyd â'i thenant angori Airbus.

“Mae hwn yn gyfnod heriol ac anodd iawn i’r sector gweithgynhyrchu. Pan fynychais i agoriad swyddogol AMRC Cymru flwyddyn yn ôl, ni allen ni fod wedi rhagweld beth fyddai’n digwydd yn 2020.  Ond yr hyn sy'n sicr yw bod sefydlu AMRC Cymru yn rhoi gobaith a chryfder i'r sector gweithgynhyrchu yng Ngogledd Cymru a’r tu hwnt wrth iddo edrych tua'r dyfodol.

“Edrychaf ymlaen at ddatblygiadau cyffrous yma yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod a fydd yn helpu’r sector gweithgynhyrchu i adfer o effeithiau sylweddol y pandemig.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil AMRC Cymru, Andy Silcox:

“Roedd y tîm cyfan yn AMRC Cymru yn hynod falch o fod yn rhan o'r ymdrech genedlaethol i gynhyrchu peiriannau anadlu sy'n achub bywydau, ond mae ein sylw nawr yn gadarn yn ôl ar helpu gweithgynhyrchwyr i wneud newidiadau sylweddol yn eu prosesau gweithgynhyrchu drwy dynnu’r risg o arloesedd.

“Mae’r technolegau sydd ar gael inni wedi’n galluogi ni i droi ein gweithrediadau’n gyfleuster cynhyrchu peiriannau anadlu ac addasu'n gyflym i ffordd newydd o weithio. Nawr rydyn ni am ddangos i gwmnïau ledled Cymru a thrawsffiniol sut y gall yr un technolegau gael effaith wirioneddol ar y ffordd mae busnesau'n gweithredu.”

Dywedodd Katherine Bennett CBE, Uwch Is-Lywydd Airbus:

“Roedd Airbus yn hynod falch o chwarae ei ran yng nghonsortiwm Her Peiriannau Anadlu’r DU, a atebodd alwad y Llywodraeth i gynhyrchu 13,500 o beiriannau anadlu ar gyfer y GIG o fewn amserlen hynod dynn.

“Mae’r ffaith bod ein gweithwyr ym Mrychdyn – gyda chymorth cymheiriaid yn Siemens, Ford a McLaren – wedi llwyddi i ddefnyddio eu harbenigedd peirianyddol i ymateb i'r her hon yn dangos lefel eu talent. Yr arbenigedd hwn a fydd yn galluogi Airbus i lwyddo yn ei brosiect ymchwil mwyaf – Wing of Tomorrow – yng nghyfleuster ymchwil arloesol Llywodraeth Cymru yma ym Mrychdyn.”

 

Share this page

Print this page