Drwy gydweithio, mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn hybu eu cyfran o’r farchnad gynyddol ar gyfer rhoddion ar-lein.

Cymaint fu llwyddiant cynllun cydweithio a grëwyd i helpu cynhyrchwyr i gyrraedd siopwyr dros gyfnod y Nadolig, nes ei fod wedi’i ddatblygu ymhellach yn ystod 2021.

Pan gafodd y fenter ei lansio’r Nadolig diwethaf, daeth deg o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru at ei gilydd i greu ystod unigryw o focsys rhoddion a hamperi arbennig – gan weithio ochr yn ochr â mwy na 50 o gwmnïau bwyd a diod.

Gwerthwyd miloedd o hamperi, gan arwain at dros £250,000 o werthiant. Yn sgil y momentwm hwn, mae Clwstwr Bwyd Da Cymru yn gweithio gyda chynhyrchwyr i greu cysylltiadau pellach, gan elwa ar frwdfrydedd cynyddol y cyhoedd am roddion bwyd a diod a danteithion achlysurol ar-lein.

Ariennir Clwstwr Bwyd Da Cymru gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei hwyluso gan brosiect Cywain. Darperir prosiect Cywain gan Menter a Busnes, ac mae’n cefnogi datblygiad busnesau sy’n canolbwyntio ar dwf yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Yn ôl Sioned Best, Arweinydd Tîm y Clwstwr, “Rydym wrth ein boddau â’r modd y mae’r prosiect marchnata cydweithredol hwn wedi esblygu.

Dechreuodd yn ystod mis Mai’r llynedd wrth i gynhyrchwyr ddod at ei gilydd i werthu bocsys bwyd yn uniongyrchol i’r cyhoedd. Datblygwyd y cynllun ymhellach i gefnogi aelodau’r Clwstwr yn ystod cyfnod clo’r hydref drwy eu helpu i greu rhoddion a hamperi ar gyfer y Nadolig.

Taniodd y cynllun ddychymyg cynhyrchwyr a’r cyhoedd, ac yn ystod y cyfnod hyd at y Nadolig, gwerthwyd 4,000 o hamperi gan arwain at werthiant o £250,000. Cymaint oedd llwyddiant y cynllun, caiff ei ddatblygu ymhellach yn ystod 2021 wrth i fwy o aelodau gymryd rhan, a thrwy hynny gynnig cyfleoedd pellach iddynt werthu eu cynnyrch.”

Dau gwmni sydd wedi croesawu ysbryd cydweithio yw’r Black Mountains Smokery Ltd o ardal Crughywel, a Daffodil Foods Ltd o Bwllheli, y ddau gwmni yn cynnig ystod o hamperi a blychau rhoddion ar gyfer amrywiol achlysuron.

Mae Black Mountains Smokery yn dosbarthu eu hamperi bwyd Really Welsh ar draws y DU ac yn creu bwydydd penodol ar gyfer achlysuron arbennig drwy gydol y flwyddyn hefyd, gan gynnwys eu hamperi ‘Cwtsh’ a ‘Cariad’. Gall cwsmeriaid hefyd ddewis creu rhoddion gourmet arbennig o blith bwydydd y cwmni yn ogystal â chynnyrch hyfryd o’u gwefan.

Yn ôl y perchennog, Jo Carthew, “Y pleser o weithio ar y cyd gyda chynhyrchwyr hynod o Gymru sydd â’r un diddordeb â ni yw hanfod ein cwmni. Mae’r Clwstwr Bwyd Da wedi helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o’n hamperi a’n brand, a thrwy hynny atgoffa pobl o’n bodolaeth ar gyfer achlysuron yn y dyfodol gan hybu rhag-archebion pellach.

Mae gan bob cynhyrchwr ffydd yn eu brand, a dyna y mae pobl yn ei weld fwyfwy am wn i, wrth ymhyfrydu yn y stori bersonol hefyd.”

Yn ôl Lynne Rowlands, perchennog Daffodil Foods Ltd, “Roedden ni wedi dechrau gweithio gydag aelodau eraill o’r Clwstwr er mwyn creu ein bocsys Te Prynhawn, ond roedd lansio menter Nadolig y Clwstwr Bwyd Da yn hwb pellach.

Mae bod yn rhan o ymgyrch fwy yn hytrach na grŵp bach yn fwy effeithiol. Mae pawb yn elwa o’r ‘traws-beillio’ oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae pob un ohonom yn cynhyrchu bwyd a diod o safon yng Nghymru.”

Yn ôl Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig,

“Mae aelodau’r Clwstwr Bwyd Da wedi dangos ysbryd cadarnhaol eithriadol drwy weithio gyda’i gilydd fel hyn, nid yn unig i hybu ymwybyddiaeth o ddewis arbennig o fwyd a diod yma yng Nghymru, ond hefyd fel modd cadarnhaol o greu incwm. Maen nhw wedi adeiladu sylfaen ar gyfer busnes i’r dyfodol, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r cwmnïau yma wrth iddynt yrru’r fenter yn ei blaen.”

 

Share this page

Print this page