Brewery

 

Mae diwydiant bragu Cymru ar fin cymryd cam sylweddol ymlaen o ran datblygu sgiliau technegol wrth i Glwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag FDQ a MEDR Cymru, sicrhau cyllid i gyflwyno'r Diploma Bragu Lefel 4 newydd.

Bydd y cymhwyster uwch hwn yn cefnogi datblygiad bragwyr medrus iawn ledled Cymru ac yn cryfhau cystadleugarwch hirdymor y sector. Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS: 

“Mae'r sector bragu’n rhan bwysig o dirwedd bwyd a diod Cymru, ac yn cyfrannu at economïau lleol, sgiliau ac arloesedd. Mae bragdai Cymru’n parhau i ddangos uchelgais, arloesedd ac ymrwymiad i ansawdd, a bydd y cymhwyster newydd hwn yn rhoi'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw.

Drwy gefnogi cyflwyno'r Diploma Bragu Lefel 4, rydym ni’n buddsoddi'n uniongyrchol yn nyfodol y diwydiant, gan sicrhau y gall bragwyr gael mynediad at yr hyfforddiant technegol o’r radd flaenaf sydd ei angen i ffynnu mewn marchnad gynyddol gystadleuol. Bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu i sicrhau twf hirdymor, gwella sgiliau ar draws y sector, a chryfhau enw da Cymru ymhellach am gynhyrchu cwrw eithriadol. Mae'n gam sylweddol a chalonogol iawn ymlaen i fragu yng Nghymru.”

Wedi'i ddatblygu gan FDQ (Food & Drink Qualifications) Ltd, sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod sy'n darparu cymwysterau achrededig, asesiadau prentisiaeth ac atebion hyfforddi i gefnogi sgiliau'r gweithlu, a'r unig gorff yn y DU sydd ag arbenigedd prentisiaeth bragu pwrpasol, y Diploma Bragu Lefel 4 yw'r cymhwyster bragu uwch cyntaf o'i fath i'w gyflwyno trwy sefydliad dyfarnu sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio i arfogi dysgwyr â dealltwriaeth ddyfnach o weithrediadau bragu, rheoli ansawdd, optimeiddio prosesau a gwneud penderfyniadau technegol. Mae'n gam sylweddol ymlaen i'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector bragu neu i ddysgwyr sy'n chwilio am sgiliau proffesiynol uwch sy'n cyd-fynd â disgwyliadau cyflogwyr a safonau technegol y diwydiant.

Er mwyn sicrhau bod y cymhwyster yn adlewyrchu anghenion sector bragu Cymru, ffurfiwyd gweithgor pwrpasol, yn cynnwys pum bragdy o wahanol feintiau ac arddulliau cynhyrchu, gan gynnwys Bragdy Felinfoel, Bragdy Monty, Bragdy Magic Dragon, Bragdy’r Mŵs Piws a Wild Horse Brewing Co. Daeth pob un â'i safbwynt ei hun, gan gynrychioli popeth o fragdai teuluol hanesyddol, hirsefydlog i gynhyrchwyr crefftus modern sy'n tyfu'n gyflym.

Roedd Bragdy Monty, bragdy crefftus arloesol o’r canolbarth sy'n adnabyddus am ei gwrw arobryn, yn un o'r cwmnïau a oedd yn rhan o'r gweithgor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Pamela Honeyman, 

“Pleser oedd cyfrannu at ddatblygiad y diploma hwn. Mae mynediad at hyfforddiant technegol uwch yn hanfodol ar gyfer gyrru ansawdd, effeithlonrwydd ac arloesedd, a bydd y Diploma Bragu Lefel 4 yn rhoi cyfle i'n tîm ddatblygu sgiliau newydd a gwneud cynnydd o fewn y diwydiant. Mae'n ddatblygiad hynod gadarnhaol i fragu yng Nghymru.”

Cwmni arall a oedd yn rhan o'r gweithgor oedd Wild Horse Brewing Co o Landudno, sy'n cael ei gydnabod am ei gwrw modern, sy'n cael ei yrru gan flas. Ychwanegodd Dave Faragher, y Rheolwr Gyfarwyddwr,

“Mae bod yn rhan o'r gweithgor wedi sicrhau bod y diploma’n adlewyrchu realiti bragu modern. Mae'r cyfle i fragwyr Cymru elwa o hyfforddiant ymarferol a thechnegol dan arweiniad y diwydiant yn hynod werthfawr. Rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi helpu i'w lunio ac yn edrych ymlaen at weld yr effaith ar draws y sector.”

Drwy alluogi bragwyr i ennill cymhwyster uwch cydnabyddedig, mae'r Diploma Bragu Lefel 4 yn helpu i fynd i'r afael â bylchau sgiliau ac yn cefnogi cyflogwyr sy'n awyddus i ddatblygu talent o'r tu mewn. Mae'r diploma bellach ar waith, a gall bragwyr Cymru wneud cais ar unwaith. Mae'r rhaglen ar agor i bob bragdy yng Nghymru, a gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais am le ar y diploma ac am gymorth ariannol.

Wrth siarad am y cydweithrediad, dywedodd Matthew Bell, Pennaeth Ymgysylltu FDQ: 

“Mae lansio'r Diploma Bragu Lefel 4 yn ddatblygiad sylweddol ar gyfer datblygu sgiliau o fewn y diwydiant bragu yng Nghymru. Fe'i cynlluniwyd gan y diwydiant i arfogi dysgwyr â'r wybodaeth dechnegol lefel uwch a'r cymhwysedd ymarferol sy'n ofynnol ar gyfer rolau fel prif fragwr ac arweinydd cynhyrchu gan integreiddio gwyddoniaeth bragu gynhwysfawr, rheoli gweithrediadau ac egwyddorion cynaliadwyedd i fframwaith rheoleiddiedig, sy'n canolbwyntio ar y gweithle.

Mae'r diploma hwn yn cefnogi prentisiaid ar gam allweddol yn eu gyrfa, gan feithrin arbenigedd yn y diwydiant a dilyniant proffesiynol hirdymor.”

Am ragor o wybodaeth am y Diploma Bragu Lefel 4, cysylltwch â Mark Grant, arweinydd Clwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru ar mark.grant@levercliff.co.uk

Share this page

Print this page