Emma Knight, Mentor Rhaglen Datblygu Bwyd a Diod Cymru

 

  • 30 o gyflenwyr o Gymru yn cael cymorth i dyfu eu busnesau

  • Rhaglen hyfforddi a datblygu bwrpasol sy’n ymdrin â meysydd allweddol y sector manwerthu

 

Mae Asda yn cydweithio â Bwyd a Diod Cymru i lansio Rhaglen Datblygu Cyflenwyr er mwyn helpu cwmnïau ledled Cymru i ddatblygu eu sgiliau a thyfu eu busnesau.

Cyhoeddwyd y fenter hon yr wythnos hon yn Sioe Frenhinol Cymru, a bydd yn cynnwys mwy na 30 o gyflenwyr lleol o bob rhan o Gymru, gan rannu gwybodaeth ac arbenigedd ar ystod eang o bynciau, o gydymffurfiaeth a marchnata i ddatblygu cynnyrch, logisteg a rheoli cyfrifon.

Maisie McNab - Prynwr Lleol Asda i Gymru

Dywedodd Maisie McNab, Prynwr Lleol Asda dros Gymru:

“Mae cefnogi cyflenwyr lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau cadwyn gyflenwi gref a ffyniannus yng Nghymru. Mae dod â chynhyrchion lleol at ein cwsmeriaid a’u gwneud yn hygyrch yn flaenoriaeth allweddol, ac mae’r rhaglen bwrpasol hon, a fydd yn ein gweld yn gweithio’n agos gyda chynhyrchwyr, yn gyfle cyffrous i rannu cyngor ymarferol a defnyddiol, gan helpu cyflenwyr i wireddu eu potensial llawn.

“Daw’r fenter hon gyda ffocws cryf ar dwf a chyfleoedd, gan ddatblygu sgiliau o fewn cwmnïau ledled Cymru gyda’r nod o wella prosesau gwaith, cynyddu gwerthiant a chryfhau sgiliau ar draws y diwydiant bwyd a diod. Mae’n gyfle cyffrous i gryfhau perthnasoedd allweddol ac adeiladu sector gwydn a chystadleuol sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

Bydd y Rhaglen Datblygu Cyflenwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn rhedeg dros dri diwrnod rhwng mis Awst a mis Hydref. Bydd yn cynnwys ymweliadau â siop Coryton Asda yng Nghaerdydd a’i depo yng Nghas-gwent, gyda mewnbwn gan ystod eang o uwch-gynrychiolwyr Asda a rhanddeiliaid allweddol.

Yn ystod eu hymweliad â’r siop, bydd cyflenwyr yn cwrdd ag Uwch Gyfarwyddwyr Asda a Rheolwyr Cyffredinol Siopau i drafod eu cynigion busnes, gan dderbyn adborth un-i-un ar eu cynigion a chyngor ynghylch meysydd lle y gallant wella.

Yng Nghas-gwent, byddant yn cael mewnwelediad i’r gadwyn gyflenwi a logisteg, gan dderbyn cyngor ar bopeth o atebion dosbarthu i archebu slot mewn un o ddepos Asda. Yn y cyfamser, bydd diwrnod olaf yn swyddfa ganolog y manwerthwr yn Leeds yn canolbwyntio ar gyllid, masnachu a systemau Asda.

Mae Tovali Soft Drinks o Gaerfyrddin, sydd wedi bod yn cyflenwi ei ddiodydd sgwash crynodedig i Asda ers dros 13 mlynedd, ymhlith y busnesau sydd wedi cofrestru ar y rhaglen.

Dywedodd Karen Davies, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Masnachol:

“Mae’r fenter hon yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Asda i’r brandiau Cymreig o safon y mae siopwyr yn eu gwerthfawrogi.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r tîm, gan gryfhau perthynas sydd eisoes yn cael ei gwerthfawrogi, a dysgu mwy am sut i gydweithio’n effeithiol ar bob cam o’r gadwyn gyflenwi – rhywbeth a fydd, yn y pen draw, yn cynyddu’r gwerth a ddarperir i gwsmeriaid.”

Maisie McNab - Prynwr Lleol Asda i Gymru, canol, gyda Karen Davies o Tovali Soft Drinks, chwith, a Gwynfor Evans o Radnor Hills

Mae cyflenwyr eraill sydd wedi cofrestru ar y rhaglen yn cynnwys Dragon Cheese gan South Caernarfon Creameries, Popty Conwy Bakery, y cwmni diodydd o Gaerdydd Lowes Pop, a Radnor Hills.

Dywedodd Gwynfor Evans, Rheolwr Marchnata Manwerthu y brand diodydd meddal o Bowys:

“Rydym yn hynod gyffrous o fod yn rhan o’r rhaglen hon, ac yn gobeithio y bydd yn cryfhau ein perthynas ag Asda a’n cwsmeriaid ledled Cymru.

“Mae arloesedd wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym yn bwriadu manteisio i’r eithaf ar y gefnogaeth gan bartner mor allweddol wrth inni edrych tuag at y dyfodol.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gadernid Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd:

“Mae gan Gymru sector bwyd a diod sy’n ffynnu ac yn tyfu, wedi’i adeiladu ar ansawdd, arloesedd ac uchelgais busnesau ledled y wlad. Bydd y bartneriaeth hon rhwng Asda a Bwyd a Diod Cymru yn darparu cymorth ymarferol, cyngor arbenigol a mewnwelediad masnachol gwerthfawr i gyflenwyr er mwyn eu helpu i gryfhau eu busnesau a chyrraedd mwy o gwsmeriaid.

“Trwy ddatblygu ein Strategaeth Fwyd Genedlaethol, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â manwerthwyr a chefnogi cynhyrchwyr Cymru i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r gwydnwch sydd eu hangen arnynt i dyfu, cystadlu a chyfrannu at ddiwydiant bwyd a diod ffyniannus yng Nghymru.”

Share this page

Print this page