Mae plant mewn ysgolion ledled Cymru wedi bod yn mwynhau Pecyn Syniadau Gweithgaredd Ysgol newydd a grëwyd gan brosiect newydd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru. Mae’r pecyn, sy’n annog disgyblion i archwilio ffactorau amgylcheddol sy’n effeithio ar ein cadwyni bwyd, wedi’i lansio fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru (Rhagfyr 4-8).

Mae Wythnos Hinsawdd Cymru eleni wedi bod yn canolbwyntio ar y thema “tegwch” yng nghyd-destun newid hinsawdd, gan archwilio ei effaith anghymesur ar wahanol bobl a lleoedd. Mae'n cynnwys ystod eang o ddigwyddiadau sydd wedi rhedeg trwy gydol yr wythnos, ar-lein ac mewn person.

Rhoddodd yr wythnos gyfle i hyrwyddo gwaith cadarnhaol a rhinweddau cynaliadwyedd y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ochr yn ochr â manteision amgylcheddol a chymdeithasol cyrchu’n lleol. Tra hefyd yn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa yn y sector.

Mae'r Pecyn Syniadau am Weithgaredd Ysgol newydd wedi'i gynllunio i helpu disgyblion i ystyried y themâu sy'n ymwneud â bwyd oedd ar agenda Wythnos Hinsawdd Cymru. Gan ddefnyddio’r pecyn, mae disgyblion wedi bod yn ymchwilio i darddiad cynnyrch i gyfrifo milltiroedd bwyd, ymchwilio i ddeunyddiau pecynnu a ddefnyddiwyd, creu ryseitiau cynaliadwy, gwneud riliau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol am fod yn greadigol gyda gwastraff bwyd, a mwy.

Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i arwain gan Menter a Busnes, cwmni annibynnol sy’n cefnogi unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru i ddechrau a datblygu eu busnesau.

Dywedodd Jane Pettit, Arweinydd Pwnc ar gyfer Bwyd, Maeth a Garddwriaeth yn Ysgol Uwchradd Llanisien ger Caerdydd:

"Roeddem yn gyffrous iawn i gymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru. Diolch i'r Pecyn Gweithgareddau gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, rydym wedi datblygu gweithgareddau, yn cynnwys cwis Newid Hinsawdd ac ymarfer ystafell ddosbarth yn edrych ar filltiroedd bwyd a tharddiad bwyd. Fe wnaethon ychwanegu elfen gystadleuol trwy redeg y sesiwn fel cystadleuaeth.”

“Yn Adran Fwyd Ysgol Uwchradd Llanisien, rydym yn ymdrechu i wneud disgyblion yn ymwybodol o faterion fel milltiroedd bwyd, cynaliadwyedd a materion amgylcheddol eraill. Mae ein disgyblion yn treulio amser ar y cwricwlwm yn ein gardd ddiwastraff ac yn cymryd rhan weithredol mewn plannu a chynaeafu cynnyrch a ddefnyddiwn yn ein gwersi ymarferol. Mae ein pynciau CA4; Bwyd a Maeth a Lletygarwch ac Arlwyo yn cysylltu'n uniongyrchol â themâu Wythnos Hinsawdd Cymru 2023.”

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths AS:

“Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn annog pobl ledled Cymru i ystyried effaith newid hinsawdd a’r hyn y gallant ei wneud i helpu. Bydd hon yn thema fawr ym mywydau plant ysgol heddiw ac felly mae’n hanfodol eu bod yn ystyried y pwnc mewn ffyrdd adeiladol a chreadigol a fydd yn eu helpu i deimlo eu bod wedi’u grymuso i wneud newidiadau cadarnhaol. Mae Pecyn Syniadau Gweithgaredd Ysgol newydd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn bwysig i’w cynorthwyo i wneud hynny.”

Mae'r pecyn gweithgaredd wedi cael ei ddefnyddio mewn nifer o ysgolion yng Nghymru yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru a bydd ar gael y tu hwnt i Wythnos Hinsawdd Cymru yn uniongyrchol gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru.

Dywedodd Nerys Davies, Rheolwr Prosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:

“Rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb i’n Pecyn Syniadau Gweithgaredd Ysgol newydd, sydd â’r nod o helpu plant i ddeall y materion amgylcheddol sy’n effeithio ar ein cadwyni cyflenwi bwyd, pecynnu bwyd, gwastraff bwyd a mwy – ac i ymchwilio datrusiadau  posibl. Gobeithiwn y bydd y pecyn hwn yn parhau i gael ei ddefnyddio ymhell y tu hwnt i Wythnos Hinsawdd Cymru i helpu plant ar gyfer dyfodol lle bydd y themâu hyn yn bwysicach nag erioed.”

Share this page

Print this page