Mae chwech wedi cael eu penodi'n aelodau o fwrdd diwydiant sydd am ddatblygu a hyrwyddo sector bwyd a diod Cymru ac ennill enw hyd yn oed yn well ar ei gyfer.

Bydd aelodau Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn cysylltu ac yn ymwneud â busnesau ledled y wlad a chyda Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i sicrhau twf parhaus wrth i fwyd a diod o Gymru ffynnu gartref a thramor.

Dyma'r chwech a benodwyd:

Yr Athro David Lloyd, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
Cyfarwyddwr Canolfan y Diwydiant Bwyd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Dechreuodd David ar ei yrfa yn y diwydiant bwyd mewn labordai becws mawr yng Nghaerdydd. Bu'n gweithio wedyn mewn rhannau gwahanol o'r DU yn Gyfarwyddwr Technegol gydag amryfal gwmnïau bwyd mawr.

Yn ei swydd bresennol yng Nghanolfan y Diwydiant Bwyd, mae David yn gweithio'n agos gyda'r sector preifat a Llywodraeth Cymru. Mae'n cynghori ar faterion sy'n effeithio ar y sector ac mae hefyd wedi dylanwadu ar Bolisi Bwyd Llywodraeth Cymru.

Mrs Alison Lea-Wilson, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
Cyd-berchennog The Anglesey Sea Salt Co Ltd.

Ym 1997, dechreuodd Alison a'i gŵr David yr Anglesey Sea Salt Co Ltd. Maen nhw wedi datblygu a chryfhau'r cwmni ac erbyn hyn, mae'n un o brif gynhyrchion bwyd Cymru ac yn cael ei allforio i ryw 15 o wledydd. Mae'r busnes wedi ennill o leiaf 30 o wobrau, gan gynnwys ennill 3*** Aur yng Ngwobrau Great Taste.

Miss Alison Harvey
Ymgynghorydd ar y Gadwyn Gyflenwi Amaeth – Rural Advisor Co.

Mae gan Alison dros 15 mlynedd o brofiad llwyddiannus ym maes darparu gwasanaethau cwsmeriaid ar lefel uchel, rheoli prosiectau, cyfathrebu a chyfnewid gwybodaeth ar draws sector cig coch y DU. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hi hefyd wedi datblygu ystod o sgiliau a gwybodaeth o fewn y diwydiant, yn enwedig ym meysydd rheoli'r gadwyn gyflenwi, allforio a gweithio gyda ffermwyr o bob cwr o'r DU a Seland Newydd.

Mr Andy Richardson
Partner – Partneriaethau Bwyd a Ffermio Ewropeaidd (EFFP).

Mae gan Andy dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant bwyd a diod yn y DU.

Mae wedi gweithio mewn rolau masnachol yn y diwydiant bwyd anifeiliaid ar gyfer BOCM PAULS ac yn ddiweddar, bu'n gweithio i Volac lle'r oedd yn Gyfarwyddwr Materion Corfforaethol a Chynaliadwyedd.

Mae Andy hefyd wedi cyd-sefydlu dau brosiect cydweithredol rhyngwladol, sef datblygu cyflenwad a galw cynaliadwy am brotein a brasterau bwytadwy.

Mr Graham Black
Cyfarwyddwr Anweithredol, Seafish.

Mae Graham hefyd yn cadeirio Pwyllgor Cynghori Seafish Cymru sydd â chynrychiolwyr o bob rhan o'r gadwyn cyflenwi bwyd môr yng Nghymru.

Cyn ei waith yn Seafish, roedd Graham yn Gyfarwyddwr ar Marine Scotland.

Mrs Valerie Creusailor
Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Goch and Company.

Dros yrfa sydd wedi para mwy na dau ddegawd, mae Valerie wedi chwarae rhan ganolog wrth iddi hyrwyddo effeithlonrwydd gweithredol yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.  Mae'n hyddysg ym maes datblygu sgiliau, dynameg timau, a sicrhau'r perfformiad gorau o ran elw ar draws gwahanol rolau rheoli ar y lefel uwch.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

Mae bwyd a diod o Gymru yn parhau i fynd o nerth i nerth. Cyrhaeddodd allforion y sector £797 miliwn yn 2022, sef y ffigur uchaf erioed.

Mae aelodau'r bwrdd diwydiant yn dod â chyfoeth o brofiad, arbenigedd ac angerdd gyda nhw i helpu'r sector dyfu hyd yn oed yn fwy.

Dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth iddyn nhw adeiladu ar y gwaith pwysig y mae'r bwrdd yn ei wneud i sicrhau dyfodol ffyniannus i'r diwydiant bwyd a diod yma yng Nghymru.

Dywedodd David Lloyd, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: 

Mae'n anrhydedd mawr cael fy ethol yn Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ar yr adeg dyngedfennol hon i'r sector (busnesau bwyd a diod) yng Nghymru.

Hoffwn i groesawu'r aelodau sydd newydd eu hethol i'r Bwrdd ac sydd i gyd yn awyddus i ddefnyddio ehangder eu profiad, eu gwybodaeth a'u sgiliau i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru a datblygu cyfleoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y farchnad.

Mae pob aelod o'r Bwrdd yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, ac at ddatblygu'r partneriaethau sydd eisoes yn bod gyda phartneriaid diwydiannol a meithrin perthynas newydd gydag aelodau eraill o'r gadwyn fwyd er mwyn helpu i ddatblygu rhagor ar y sector.

Dywedodd Alison Lea-Wilson, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:

Dw i'n falch iawn o gael fy mhenodi'n aelod o Fwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod ac i fod yn Ddirprwy Gadeirydd arno.

O ystyried yr heriau sy'n ein hwynebu, mae'n bwysicach byth ein bod yn gweithio gyda'n gilydd fel sector, gan fanteisio'n llawn ar y cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru er mwyn inni fedru tyfu'n diwydiant mewn ffordd gynaliadwy.

Mae gan Gymru fwy na'i chyfran deg o fwyd a diod gwych a byddwn yn cydweithio i sicrhau eu bod yn cael cydnabyddiaeth a'u lle yn y byd.

Share this page

Print this page