Aled Dafis, Pennaeth yr Adran, Dylunio a Thechnoleg, gyda myfyrwyr o Ysgol Bro Pedr ar daith o amgylch safle Arla Foods Ingredients, Felinfach. Hana McGreary, Pennaeth Dylunio a Thechnoleg, Ysgol Clywedog
Aled Dafis, Pennaeth yr Adran, Dylunio a Thechnoleg, gyda myfyrwyr o Ysgol Bro Pedr ar daith o amgylch safle Arla Foods Ingredients, Felinfach. Hana McGreary, Pennaeth Dylunio a Thechnoleg, Ysgol Clywedog

 

Mae rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru (y rhaglen) yn dathlu cyflawniadau sylweddol hyd yn hyn, ar ôl ymgysylltu â 10,073 o fyfyrwyr ledled Cymru a gweithio ar y cyd â 369 o ysgolion i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o dalent bwyd a diod.

Dywedodd Kate Rees, Rheolwr Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru:

“Mae gweithgareddau ymgysylltu’r rhaglen wedi bod yn eithriadol. Drwy 20 o sioeau teithiol i ysgolion, 11 o deithiau astudio, a 405 o leoliadau paru ysgolion llwyddiannus, rydym wedi gweld yr effaith bwerus y gall allgymorth ystyrlon ei chael. Rwy’n cael fy ysbrydoli gan y brwdfrydedd a’r chwilfrydedd rydym wedi’u gweld gan fyfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd. Mae pob sgwrs, pob digwyddiad, a phob cysylltiad yn atgyfnerthu pam mae’r gwaith hwn yn bwysig - ac rwy’n gyffrous i barhau i adeiladu ar y momentwm hwn ar gyfer y dyfodol.”

Drwy ystod eang o weithgareddau, partneriaethau diwydiant, ac ymyriadau wedi’u targedu, mae’r rhaglen yn helpu pobl ifanc i ddarganfod yr ehangder o gyfleoedd sydd ar gael o fewn diwydiant bwyd a diod sy’n tyfu yng Nghymru - tra hefyd yn cefnogi cyflogwyr i ddatblygu gweithlu cryf, medrus a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi cipolwg uniongyrchol i ddysgwyr ar lwybrau gyrfa cyffrous mewn cynhyrchu bwyd, gwyddor bwyd, gweithgynhyrchu, peirianneg, cynaliadwyedd, marchnata, a mwy. 

Mewn Sioe Deithiol Ysgolion ddiweddar gydag Ysgol Clywedog ar safle Iâl Coleg Cambria, cafodd y myfyrwyr eu hysbrydoli gan weithdai diddorol gyda Swig Smoothies, gwneud selsig ac addurno cacennau gyda Choleg Cambria, a chipolwg ar yr amrywiol yrfaoedd o fewn y diwydiant gan Nia Griffith, Rheolwr Ymgysylltu'r rhaglen ar gyfer Gogledd Cymru.

Dywedodd Hana McGreary, Pennaeth Dylunio a Thechnoleg, Ysgol Clywedog:

“Mae hwn wedi bod yn brofiad gwerthfawr i’n disgyblion lletygarwch ac arlwyo; mae’r digwyddiad wedi arddangos llawer o gyfleoedd o fewn y diwydiant nad oedd disgyblion yn ymwybodol ohonynt o’r blaen. Diolch i Goleg Cambria am gynnal y digwyddiad gwych hwn ac i raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru am gynnig mewnwelediad gwerthfawr i'r diwydiant bwyd a diod.”

Mae’r rhaglen yn derbyn nifer cynyddol o geisiadau gan ysgolion, colegau a phrifysgolion sy’n awyddus i gynnig ymgysylltiad ystyrlon â’r diwydiant i’w dysgwyr. I gefnogi'r momentwm cynyddol hwn, mae'r Rheolwyr Ymgysylltu Nia Griffith (Gogledd Cymru) ac Emily Rees (De Cymru) yn cydlynu ystod eang o weithgareddau addysg cyflogwyr gan gynnwys ymweliadau safle, teithiau astudio, sesiynau siaradwyr gwadd, cyflwyniadau rhyngweithiol a gweithdai.

Mae'r cyfleoedd hyn yn helpu pobl ifanc i ddeall yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael ac yn caniatáu i gyflogwyr amlygu llwybrau gyrfa, sgiliau gofynnol, a'r arloesedd sy'n gyrru'r diwydiant ymlaen. 

Ar ymweliad safle diweddar ag Arla Foods Ingredients, Felinfach, cafodd grŵp o fyfyrwyr peirianneg Blwyddyn 11 o Ysgol Bro Pedr daith astudio ysbrydoledig lle rhoddodd y tîm gipolwg gwych y tu ôl i'r llenni ar eu cyfleusterau ac arddangos y llwybrau gyrfa cyffrous sydd ar gael o fewn sector gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru.

Dywedodd Aled Dafis, Pennaeth Adran, Dylunio a Thechnoleg, Ysgol Bro Pedr:

“Daeth y myfyrwyr i ddealltwriaeth ystyrlon o’r llwybrau amrywiol sydd ar gael o fewn peirianneg, gan gynnwys y sgiliau, y cymwysterau a’r rhinweddau personol sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant. Mae’r profiad wedi ehangu eu dealltwriaeth o bosibiliadau gyrfa yn y dyfodol yn sylweddol ac wedi ysbrydoli llawer i ystyried prentisiaethau fel cam nesaf ymarferol a chyffrous wedi iddynt adael yr ysgol.

Mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â byd gwaith, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wrth helpu ein myfyrwyr i gynllunio ar gyfer eu dyfodol.”

Gwahoddir busnesau sydd â diddordeb mewn cynnal ymweliad safle, neu siarad yn uniongyrchol ag ysgolion, colegau, neu brifysgolion ledled Cymru, i gysylltu â: sgiliau-cymru@mentera.cymru

Share this page

Print this page