Cabinet Minister Llyr Gruffydd touring the Food Hall at the Royal Welsh Show

 

Mae arloesedd, buddsoddiad, cymorth busnes a chyfleoedd mewn marchnadoedd newydd yn cael lle canolog yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon, wrth i ddiwydiant bwyd a diod Cymru ddod ynghyd ar gyfer un o wythnosau prysuraf o'r flwyddyn.

Wedi'i ganoli o amgylch y Neuadd Fwyd, y Lolfa Fusnes a'r Pafiliwn Rhyngwladol, mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn arddangos ansawdd, amrywiaeth ac uchelgais y sector, gan roi mynediad i fusnesau at gymorth arbenigol, cyfleoedd i rwydweithio ac arbenigedd a gynlluniwyd i'w helpu i dyfu.

Wrth sôn am y gweithgarwch sy’n digwydd yn Sioe Frenhinol Cymru, dywedodd Llŷr Gruffydd AS, Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:

"Mae Sioe Frenhinol Cymru yn gyfle unigryw i ddathlu ansawdd, arloesedd ac amrywiaeth eithriadol bwyd a diod Cymru. Mae’n dod â chynhyrchwyr, prynwyr, arbenigwyr y diwydiant a sefydliadau cymorth ynghyd, ac yn arddangos cryfder sector sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i gymunedau ac economïau ledled Cymru ac yn cefnogi miloedd o swyddi ledled y gadwyn gyflenwi bwyd.

O'r Neuadd Fwyd a'r Lolfa Fusnes i'r Pafiliwn Rhyngwladol a rhaglenni fel HELIX, mae'r gweithgarwch sy'n digwydd yr wythnos hon yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi diwydiant bwyd a diod uchelgeisiol sy’n ffynnu.

Mae'r gweithgarwch hefyd yn adlewyrchu ein huchelgeisiau ar gyfer Strategaeth Fwyd Genedlaethol Cymru, a fydd yn helpu i gryfhau cynhyrchu lleol, prosesu lleol a chaffael lleol, gan greu system fwyd fwy gwydn a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Mae mwy na 60 o gwmnïau'n cymryd rhan yn arddangosfa flynyddol y Neuadd Fwyd, gan gynrychioli ehangder ac amrywiaeth diwydiant bwyd a diod Cymru, o gynnyrch llaeth a chig i nwyddau wedi’u pobi, diodydd alcoholig a meddal.

Ymhlith y busnesau sy'n arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru eleni mae Welsh Lady Preserves, sydd wedi profi gwerth y digwyddiad yn uniongyrchol fel platfform i arddangos cynhyrchion, cysylltu â chwsmeriaid ac adeiladu perthnasoedd busnes newydd.

Dywedodd Carol Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Welsh Lady Preserves:

"Mae Sioe Frenhinol Cymru yn blatfform gwych i fusnesau bwyd a diod Cymru. Mae'n rhoi cyfle inni arddangos ein cynnyrch, cwrdd â chwsmeriaid a chysylltu â phrynwyr, wrth hyrwyddo'r gorau o fwyd a diod Cymru."

Wedi'i leoli uwchben y Neuadd Fwyd, mae Lolfa Fusnes Masnach Bwyd a Diod Cymru yn gwasanaethu fel canolfan ar gyfer ymgysylltu masnachol, rhwydweithio a chydweithio. Mae’n dod â chynhyrchwyr a phrynwyr ynghyd o bob cwr o fanwerthu, gwasanaeth bwyd, lletygarwch a chaffael y sector cyhoeddus, ac yn cynnwys mwy na 300 o fusnesau bwyd a diod Cymru sy’n arddangos tua 2,500 o gynhyrchion.

Caiff y Lolfa Fusnes ei chydnabod fel man cyfarfod allweddol ar gyfer y diwydiant, ac mae’n denu prynwyr, manwerthwyr, cyfanwerthwyr a gweithredwyr gwasanaeth bwyd o bob cwr o'r DU a thu hwnt, gan greu cyfleoedd gwerthfawr i feithrin perthnasoedd masnachol ac archwilio llwybrau newydd i'r farchnad. Gan adeiladu ar lwyddiant 2025, pan gynhyrchodd y gweithgarwch fwy na £3 miliwn mewn gwerthiannau wedi'u cadarnhau, mae'r Lolfa Fusnes wedi croesawu mwy na 300 o brynwyr masnach cofrestredig o fanwerthwyr mawr, gweithredwyr gwasanaeth bwyd, manwerthwyr annibynnol a busnesau lletygarwch.

Mae arddangosfa eleni hefyd yn tynnu sylw at ystod o fentrau a llwyddiannau’r diwydiant, gan gynnwys busnesau sy'n datblygu Cynlluniau Lleihau Carbon, cyflawni ardystiad B Corp a chymryd rhan yn Blas Cymru / Taste Wales. Mae nodweddion pwrpasol fel arddangosfa bwyd-wrth-fynd "Ffres a Chymreig", profiad samplu newydd "Dyluniwch Eich Canapé Eich Hun" ac arddangosfa Dynodiad Daearyddol (GI) yn helpu i ddangos arloesedd, ansawdd a tharddiad bwyd a diod Cymru.

Yn y cyfamser, mae'r Pafiliwn Rhyngwladol yn cynnal rhaglen o gyfarfodydd, lansiadau a digwyddiadau’r diwydiant drwy gydol yr wythnos, gan roi cyfleoedd i fusnesau ymgysylltu â sefydliadau cymorth, arweinwyr sectorau a rhanddeiliaid y sector cyhoeddus. Mae digwyddiadau'n cynnwys lansio Clwstwr Defaid Llaeth Cymru, cyflwyniadau ar gyfer arlwywyr awdurdodau lleol a swyddogion caffael y GIG, a gweithgareddau a gynlluniwyd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol bwyd a diod.

Mae amrywiaeth o raglenni Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynhyrchwyr yn ystod y Sioe sy'n helpu busnesau i arloesi, tyfu a chystadlu mewn marchnadoedd domestig a rhyngwladol. Mae'r rhain yn cynnwys cymorth technegol ac arloesi, datblygu masnach, mentrau cynaliadwyedd, rhaglenni sgiliau a gweithgarwch clystyrau, pob un wedi'i gynllunio i gefnogi busnesau ar wahanol gamau o'u taith twf.

Ymhlith y llwyddiannau diweddar a amlygwyd yn ystod y Sioe mae cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Rhaglen HELIX Llywodraeth Cymru 2025–26. Yn ystod y flwyddyn adrodd ddiweddaraf, cynhyrchodd y rhaglen fwy na £103 miliwn o effaith ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru, cefnogi 159 o gwmnïau a helpu busnesau i ddatblygu mwy na 300 o gynhyrchion newydd.

Gyda mwy na 60 o arddangoswyr yn y Neuadd Fwyd, dros 300 o fusnesau’n cael eu cynrychioli yn y Lolfa Fusnes, tua 2,500 o gynhyrchion yn cael eu harddangos a mwy na 100 o lansiadau cynhyrchion newydd yn cael eu cynnal, mae Sioe Frenhinol Cymru eleni yn un o'r arddangosfeydd mwyaf arwyddocaol o fwyd a diod Cymru yn y DU.

Share this page

Print this page