Er gwaethaf yr heriau a wynebodd busnesau yn ystod y pandemig, mae tri busnes bwyd a diod o Gymru wedi’u henwi ymysg y 50 cwmni bwyd a diod annibynnol yn y DU sy’n tyfu gyflymaf.

Mae Castle Dairies, Abergavenny Fine Foods a The Welsh Whisky Company wedi cyrraedd The Grocer's Food & Beverage Fast 50, a luniwyd gan Alantra, y 50 cwmni preifat sy'n tyfu gyflymaf yn y DU sydd wedi tyfu gyflymaf dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn seiliedig ar eu cyfradd twf cyfansawdd flynyddol (CAGR).

Mae Castle Dairies yn gwmni teuluol sydd wedi'i leoli yng Nghaerffili, sy'n cynhyrchu menyn Cymreig blasus iawn. Gwnaethon nhw sicrhau gwerthiannau o £35.9m y llynedd, gyda CAGR o 23% ar gyfartaledd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan sicrhau ei le fel y 23ain busnes bwyd a diod preifat a dyfodd gyflymaf yn y DU.

Dywedodd David Cooknell, Pennaeth Gwerthu Castle Dairies, “Rydym ni’n hynod falch bod Castle Dairies wedi’i gynnwys ar restr The Food & Beverage Fast 50 Alantra.

“Mae'n dyst i ymroddiad a gwaith caled y tîm yn Castle Dairies bod y cwmni'n parhau i dyfu a ffynnu, yn enwedig wrth ystyried yr heriau sy'n ein wynebu oherwydd pandemig y coronafeirws.

“Ein gweledigaeth yw darparu arloesedd ac ansawdd rhagorol trwy ein cynnyrch. Rydym ni eisiau swyno ein cwsmeriaid gyda chynhyrchion blasus, ymarferol, cyfleus a gwych nad ydyn nhw'n peryglu eu statws naturiol. "

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, tyfodd gwneuthurwyr bwyd arbenigol Abergavenny Fine Foods, sy’n safle 33, gan CAGR o 20%, tra tyfodd The Welsh Whisky Company, sy’n safle 48, gan CAGR o 11%.

Mae The Food & Beverage Fast 50 yn canolbwyntio ar y perfformwyr gorau ac yn dangos soffistigedigrwydd cynyddol y busnesau i ffynnu trwy'r cylchoedd economaidd, da a drwg, yn ogystal â'r gallu rheoli i arloesi a dod o hyd i gyfleoedd i dyfu yn gyson.

Wrth longyfarch y cwmnïau ar eu llwyddiant, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Mae'r sector bwyd a diod yng Nghymru yn rhan hanfodol o economi Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ei dwf a’i ddatblygiad.

“Yn fwy nag erioed dylem ni fod yn dathlu gwaith caled, arloesedd a phenderfyniad busnesau Cymru, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn.

“Rwy’n falch iawn o gwmnïau Cymru a hoffwn longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd rhestr The Food & Beverage Fast 50, a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.”

Mae The Alantra Food & Beverage Fast 50 yn graddio busnesau bwyd a diod preifat y DU sy'n tyfu gyflymaf ar dwf refeniw dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl eu cyfrifon a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar.

 

 

Share this page

Print this page