Mae tri chynnyrch bwyd a diod rhagorol o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer gwobr fawreddog Great Taste Golden Fork Cymru 2026, sy’n golygu eu bod ymhlith y cynhyrchion gorau a gydnabyddir gan gynllun achredu bwyd a diod mwyaf a mwyaf dibynadwy'r byd.

Mae Sorbed Granadila gan Fire and Ice o Sir Benfro, Coes Cig Oen Cymru wedi'i Bwydo 100% ar Laswellt gan Hindwell Farm Meats a Phast Enchilada gan Kursat's i gyd yn cystadlu am y teitl nodedig, sy'n dathlu'r cynhyrchion bwyd a diod gorau a gynhyrchir yng Nghymru.

Dan nawdd Bwyd a Diod Cymru, mae Great Taste Golden Fork Cymru yn cael ei dyfarnu i'r cynnyrch Cymreig sy'n sefyll allan ymhlith y rhai sy'n derbyn y wobr 3 seren uchaf posibl yng Ngwobrau Great Taste eleni.

Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Wytnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:

"Mae Cymru bob amser wedi rhagori o ran bwyd a diod, ac mae enwebeion Golden Fork Cymru eleni’n enghreifftiau gwych o'r rhagoriaeth, y creadigrwydd a'r angerdd sy'n diffinio ein diwydiant.

"Wrth i ni edrych ymlaen at ein Strategaeth Bwyd Genedlaethol newydd, mae gennym ymagwedd system gyfan gyffrous tuag at fwyd Cymru, sy’n dod â phawb sy'n ymwneud â Bwydo Cymru: O'r Cynhyrchydd i'r Plât a thu hwnt ynghyd.

"Mae'r enwebiadau hyn yn arddangos y bwyd rhagorol rydyn ni’n ei gynhyrchu a'r bobl dalentog y tu ôl iddo, gan helpu i greu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i fwyd a diod Cymru ffynnu."

Mae'r rhestr fer yn dilyn blwyddyn wych arall i gynhyrchwyr Cymru gyda 166 o gynhyrchion Cymreig yn cael eu cydnabod gan Urdd y Bwyd Cain. Roedd hyn yn cynnwys 122 o gynhyrchion yn derbyn gwobr 1 seren, sy’n cydnabod cynhyrchion sy'n 'flasus iawn', 36 o gynhyrchion yn derbyn gwobrau 2 seren am ansawdd 'rhagorol', ac wyth cynnyrch yn cyflawni'r statws 3 seren nodedig a ddyfarnwyd i gynhyrchion a farnwyd yn 'goeth ac eithriadol'.

Eleni, cafodd mwy na 15,000 o gynhyrchion o 116 o wledydd eu cyflwyno i'r gwobrau, gyda phob cynnyrch yn cael ei asesu trwy broses blasu dall drylwyr gan baneli o arbenigwyr y diwydiant.

Mae Fire and Ice yn fusnes teuluol yn Arberth, Sir Benfro, sy'n cynhyrchu hufen iâ a sorbed crefftus premiwm gan ddefnyddio cynhwysion a ddewiswyd yn ofalus a dulliau traddodiadol. Roedd ei Sorbed Granadila, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, yn un o ddim ond wyth cynnyrch o Gymru i ennill y wobr 3 seren Great Taste uchaf posibl eleni.

Fire and Ice Passion Sorbet

 

Dywedodd Ivan Wilson, Perchennog Fire and Ice: "Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Golden Fork Cymru yn anrhydedd anhygoel. Crëwyd ein Sorbed Granadila crefftus premiwm trwy ddull arbrofol o ddatblygu cynnyrch, gyda ffocws ar ddarparu blas beiddgar, dilys wrth greu sorbed llai melys sy'n cynnig profiad bwyta gwirioneddol gofiadwy. Rydyn ni wrth ein bodd i gael ein cydnabod gan feirniaid Great Taste. Mae cynrychioli Cymru ar lwyfan mor fawreddog yn golygu llawer i ni ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu ochr yn ochr â'r rhai eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol."

Mae Hindwell Farm Meats yn fusnes ffermio teuluol ym Mhowys, sy'n enwog am gynhyrchu cig o ansawdd premiwm o dda byw a fagwyd i safonau lles llym. Mae’r busnes yn hyrwyddo arferion ffermio cynaliadwy, bwydo ar laswellt, ac mae wedi dod yn adnabyddus am arddangos ansawdd a tharddiad eithriadol cynhyrchion Cymru. Mae ei Goes Cig Oen Cymru wedi'i Bwydo 100% ar Laswellt, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, yn tynnu sylw at ansawdd rhagorol cig oen Cymru a'r ymroddiad y tu ôl i'w gynhyrchu.

Hindwell Farm Meats_100% Grass-fed Leg of Welsh Lamb pack shot

 

Dywedodd Jess Goodwin, perchennog Hindwell Farm Meats: "Rydyn ni’n hynod falch o weld ein Coes Cig Oen Cymru wedi'i Bwydo 100% ar Laswellt ar y rhestr fer ar gyfer Golden Fork Cymru. Mae cynhyrchu cig oen Cymru o ansawdd uchel yn dechrau ar y fferm, ac mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchiad o'n hymrwymiad i gynaliadwyedd, lles anifeiliaid a blas eithriadol. Mae cael ein henwi ymhlith y cynhyrchion gorau yng Nghymru yn gamp wych i'n fferm fach deuluol."

Mae Kursat's, a sefydlwyd gan y cogydd Kursat Pisil yn Aberhonddu, yn cynhyrchu amrywiaeth o sawsiau, pastau a chynfennau llwyddiannus wedi'u hysbrydoli gan ryseitiau dilys ledled y byd. Gan gyfuno dulliau coginio traddodiadol â chynhwysion premiwm, mae'r busnes wedi ennill cydnabyddiaeth am ddarparu blasau beiddgar, bywiog a chynhyrchion o ansawdd uchel. Gwnaeth ei Bast Enchilada sydd ar y rhestr fer gryn argraff ar feirniaid Great Taste gyda dyfnder ei flas, ei hyblygrwydd a'i ansawdd.

 

Kursat's Enchilada Paste

 

Dywedodd Kursat Pisil, Cyfarwyddwr Kursat’s: “Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Golden Fork Cymru yn foment enfawr i ni. Rydyn ni’n gwneud pastau beiddgar, llawn blas, wedi'u hysbrydoli gan fwyd o bob cwr o'r byd, ac mae'n hynod werth chweil gweld ein Past Enchilada yn cael ei gydnabod ar y lefel hon. Rydyn ni’n fusnes bach Cymreig sydd ag uchelgeisiau mawr, ac rydyn ni’n falch iawn o gynrychioli Cymru ar y llwyfan bwyd ehangach.”

Mae'r tri chynnyrch sydd ar y rhestr fer ymhlith yr wyth cynnyrch Cymreig i dderbyn y Wobr Great Taste 3 seren uchaf posibl yn 2026, sy’n tanlinellu cryfder, amrywiaeth ac arloesedd diwydiant bwyd a diod ffyniannus Cymru.

Cyhoeddir enw enillydd gwobr Great Taste Golden Fork Cymru 2026 yn seremoni Gwobrau Great Taste Golden Fork yng Nghanolfan Gelfyddydau Battersea yn Llundain ar 15 Medi. Yna bydd y cynnyrch buddugol yn cystadlu yn erbyn pencampwyr rhanbarthol Golden Fork ledled y DU ac Iwerddon am deitl nodedig Pencampwr Goruchaf Great Taste.

Share this page

Print this page