Mae Distyllfa Aber Falls yng Ngogledd Cymru wedi ymuno â'r rhestr o gynhyrchwyr o Gymru sydd wedi cael statws gwarchodedig y DU am ei Wisgi Cymreig Brag Sengl.

Ymwelodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths â'r cwmni yn Abergwyngregyn ddydd Iau i longyfarch y tîm ar ennill y statws mawreddog.

Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn un o wirodydd mwyaf poblogaidd Cymru a sicrhaodd statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) y DU ym mis Gorffennaf.

Sefydlwyd cynllun PGI y DU yn 2021, ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, ac mae'n sicrhau y gall rhai cynhyrchion bwyd a diod barhau i gael eu gwarchod yn gyfreithiol rhag cael eu copïo a’u camddefnyddio.

Bellach mae Aber Falls yn ymuno â Phenderyn, In the Welsh Wind, Da Mhile, a Coles ar y rhestr o ddistyllfeydd Cymreig sy'n rhannu statws PGI.

Rhyddhaodd y cwmni ei wisgi cyntaf ym mis Mai 2021, gyda'u wisgi presennol yn cael ei lansio ym mis Medi yr un flwyddyn ac mae bellach yn cael ei allforio i 40 o wledydd.

Agorodd canolfan ymwelwyr newydd Aber Falls ym mis Mai 2021, gan gynnig teithiau a phrofiadau labordy jin, yn ogystal â chaffi ac ardal fanwerthu.

Ers hynny mae wedi ehangu'r ddistyllfa yn Abergwyngregyn ac wedi dechrau cynhyrchu 24 awr y dydd ym mis Ionawr eleni. Mae gan y cwmni neuadd potelu ym Mangor hefyd, ynghyd â thri warws aeddfedu yn y ddinas.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Mae wedi bod yn wych ymweld ag Aber Falls a llongyfarch y tîm ar weld ei Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cael ei warchod.

"Mae sector wisgi Cymru wedi ehangu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae pobl ledled y byd yn ei fwynhau.

“Mae statws PGI yn un o fri ac rwy'n falch bod cynnyrch Aber Falls yn cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu.”

Dywedodd Carole Jones, Rheolwr Cyffredinol Distyllfa Aber Falls:

"Mae wedi bod yn bleser croesawu'r Gweinidog yma a rhannu ein cynnydd fel busnes. Mae'r tîm wedi gweithio'n galed dros y misoedd diwethaf, er mwyn inni ennill statws PGI.

"Ein rhwystr oedd y broses botelu, a gafodd ei symud i Loegr yn 2022 oherwydd problemau yn dod o hyd i staff bryd hynny. Fe wnaethon ni bob dim yn ein gallu ac ailagor ein neuadd potelu ddechrau mis Medi; gan roi tic mawr yn y bocs olaf hwnnw.

“Mae'r gwaith bellach ar ei anterth, gyda'n Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cael ei botelu ym Mangor ar gyfer ein marchnadoedd allforio a'r DU.”

Share this page

Print this page