Mae distyllfeydd jin o Gymru wedi cynhyrchu dros 200,000 o boteli o hylif diheintio dwylo sydd ei angen yn ddirfawr ar staff gwasanaethau rheng flaen, gweithwyr hanfodol a darparwyr gofal yn y gymuned ers dechrau'r pandemig Coronafeirws.

Yn ôl Clwstwr Diodydd Cymru, mae'r cannoedd o filoedd o gynhyrchion diheintio a rhwbio dwylo a ddosbarthwyd hyd yma wedi cael eu cynhyrchu gan bedair distyllfa yn unig, ond dim ond y dechrau yw hyn.

Ar hyn o bryd, mae'r Clwstwr, sy'n cynrychioli cynhyrchwyr alcohol a diodydd meddal Cymru, yn gweithio gyda 15 o ddistyllwyr o bob cwr o'r wlad i'w helpu i newid eu cynhyrchiant mewn ymateb i'r alwad am hylif diheintio dwylo.

Bydd cynhyrchwyr jin a rỳm crefft Cymru yn dod yn gyflenwyr hanfodol i gymunedau, ac o blith y cyntaf i dderbyn y cynnyrch am ddim mae ysbytai, cartrefi gofal, meddygfeydd, gweithwyr yr Awyrlu Brenhinol, yr heddlu, grwpiau cymunedol a'r Post Brenhinol.

Mae'r llwyddiant hwnnw'n dod yn sgil cydweithrediad lle gwelwyd distyllfeydd yn cydweithio â busnesau a sefydliadau o amrywiaeth o sectorau diwydiant, sydd wedi uno i frwydro yn erbyn y pandemig yng Nghymru.    

Dau o'r cynhyrchwyr jin crefft cyntaf i ryddhau cyflenwadau o hylif diheintio dwylo a chynhyrchion rhwbio dwylo ag alcohol yw Distyllfa Llanfairpwll ar Ynys Môn a Distyllfa Dyfi ym Machynlleth.     

Distyllfa jin crefft fach yw Distylla Dyfi, sy'n cynhyrchu Pollination Gin ac sydd wedi ennill sawl gwobr, ac maen nhw'n defnyddio cynhyrchion botanegol o safle UNESCO Biosffer Dyfi. Fodd bynnag, ers i'r Coronafeirws gyrraedd Cymru, mae'r crefftwyr jin wedi troi eu hymdrechion at gefnogi'r gymuned.

Eglurodd Danny Cameron o Ddistyllfa Dyfi: "Fel llawer o ddistyllfeydd, fe wnaethon ni benderfynu troi ein hymdrechion at gynhyrchu hylif diheintio dwylo gydag alcohol rai wythnosau yn ôl. Mae gyda ni'r ethanol a'r offer angenrheidiol, mae ryseitiau cymeradwy Sefydliad Iechyd y Byd yn syml, ac roedd yr angen am y cynnyrch yn fwy nag amlwg.

"Yr heriau a wynebodd yr holl ddistyllfeydd i ddechrau oedd cyfuniad o sicrhau ein bod yn cydymffurfio, a chael gafael ar y deunyddiau crai eraill sydd eu hangen. Diolch byth, drwy gydweithio gydag awdurdodau amrywiol a'r Clwstwr Diodydd, roedden ni'n gallu mynd ati i gynhyrchu a dosbarthu hylif diheintio dwylo am ddim i 31 o sefydliadau rheng flaen lleol gan gynnwys ysbytai, gwasanaethau ambiwlans, staff gofal cymdeithasol, yr heddlu a'r Post Brenhinol, fel diolch diffuant i bob un sydd allan yna yn helpu eraill."

O dan amgylchiadau arferol, rôl Clwstwr Diodydd Cymru yw hyrwyddo llwyddiant y wlad wrth gynhyrchu cynnyrch o'r radd flaenaf. Fodd bynnag, mae'r wythnosau diwethaf wedi gweld y Clwstwr yn newid ei ffocws ar helpu'r sector i addasu ac ymateb i'r pandemig Coronafeirws. 

Wrth siarad ar ran Clwstwr Diodydd Cymru, meddai Mark Grant:

"Er bod y broses o wneud cynhyrchion diheintio gydag alcohol yn gymharol syml i ddistyllfeydd, mae llawer ohonyn nhw wedi gorfod cael cymorth a chydweithio i'w galluogi i sicrhau'r cynhwysion a'r deunydd pecynnu angenrheidiol, ac i sicrhau bod cynhyrchion newydd yn bodloni'r safonau rheoleiddio sy'n caniatáu iddyn nhw gael eu defnyddio gan sefydliadau fel ein gwasanaeth iechyd.

"Ein rôl yw sicrhau bod distyllwyr yn gallu cael gafael ar bopeth sydd ei angen arnyn nhw i sicrhau bod y cynhyrchion yma ar gael yn ddiogel i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Rydyn ni'n llongyfarch y distyllwyr am eu gwaith ymroddedig i ddarparu'r cyflenwadau hanfodol sydd eu hangen ar ein gweithwyr gofal iechyd rheng flaen arwrol a darparwyr gwasanaeth hanfodol ar yr adeg yma."

Wrth ymdrechu i gynorthwyo distyllwyr i oresgyn yr heriau yma, mae Clwstwr Diodydd Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, Arloesi Bwyd Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae cydweithio rhwng y Clwstwr a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi helpu distyllwyr i gael gafael ar y deunyddiau a'r arbenigedd sy'n eu galluogi i gynhyrchu a dosbarthu cynhyrchion i ateb y galw brys. Yn sgil cysylltiadau Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru â'r diwydiant, mae distyllwyr wedi uno â'r arbenigwyr gwrthficrobaidd yn Hybrisan i sicrhau bod cynhyrchion yn cyrraedd y safonau angenrheidiol, mae Prifysgol Abertawe wedi helpu i gyrchu deunyddiau hanfodol, ac mae cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi busnesau ledled Cymru i ddarparu cymorth logistaidd er mwyn sicrhau y gellir cludo deunyddiau a chynhyrchion i'r mannau lle mae eu hangen fwyaf.

Yn hollbwysig, mae'r bartneriaeth rhwng Clwstwr Diodydd Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi galluogi distyllwyr i sicrhau bod eu cynhyrchion yn diwallu anghenion cenedlaethol ein gwasanaeth iechyd. Fel rhan o'i rôl yn arwain ymdrechion diwydiant Cymru i frwydro yn erbyn y Coronafeirws, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn prosesu pob cynnig gan y diwydiant a wneir i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. O ganlyniad, mae partneru â'r Clwstwr wedi ei gwneud yn bosib i gynhyrchion distyllwyr Cymru gael eu cyflwyno ar lwybr carlam i'r mannau lle mae eu hangen fwyaf yn y gwasanaeth iechyd.   

Wrth sôn am y cydweithio gyda Chlwstwr Diodydd Cymru, meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Mae gwaith distyllwyr Cymru i greu cynhyrchion sy'n ateb anghenion penodol y gwasanaeth iechyd yn ystod yr argyfwng yma'n enghraifft berffaith o waith Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy'n ei wneud yn bosib.

"Mae'r cynhyrchion yma'n hanfodol, a dim ond am fod sefydliadau o amrywiaeth o ddiwydiannau a disgyblaethau wedi uno gyda nod cyffredin, mae wedi bod yn bosib eu creu. Mae eu llwyddiant yn dangos yn glir fod cydweithredu'n caniatáu datblygu a defnyddio atebion yn gyflym i frwydro yn erbyn y Coronafeirws, a dw i'n diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan am eu hymdrechion."

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Rydyn ni'n wynebu pandemig byd-eang fel nad ydyn ni wedi'i weld mewn cyfnod o heddwch. Yn y cyfnod hynod heriol yma, mae'n wych gweld busnesau a sefydliadau'n cydweithio i droi eu hymdrechion at wasanaethu eu cymunedau. Dwi'n diolch iddyn nhw ac i bawb sydd wedi ymateb i'r sefyllfa argyfyngus yma drwy ymroi i helpu eraill." 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn annog pob cwmni sydd â chynigion i helpu i gefnogi'r gwasanaeth iechyd i gyflwyno eu cynigion drwy ei ffurflen ymholiadau ar-lein: https://lshubwales.com/cy/enquiry-form

 

Dyfi Distillery

 

Share this page

Print this page