Mae Gwobrau Taste Awards 2024 unwaith eto wedi amlygu ansawdd eithriadol bwyd a diod o Gymru, gyda chynhyrchwyr niferus yn cael eu cydnabod am eu cynhyrchion rhagorol.

Mewn arddangosfa ryfeddol o allu coginio, mae cynhyrchwyr Cymru wedi cael eu hanrhydeddu â 149 o wobrau, gyda 97 o gynhyrchion yn ennill 1 seren, 45 yn derbyn 2 seren a 7 yn ennill y  gymeradwyaeth orau gyda 3 seren.

Daw’r gwobrau yn dilyn ystadegau diweddar sy’n dangos bod y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru wedi cynyddu 10% yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda busnesau yn y sector â chyfanswm trosiant o £24.6bn yn 2023, o’i gymharu â £22.3bn yn 2022.

Mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi mynegi ei fod wrth ei fodd gyda’r llwyddiant:

“Mae llwyddiant rhyfeddol ein cynhyrchwyr yng Ngwobrau Great Taste yn adlewyrchiad clir o’r ansawdd a’r arloesedd eithriadol mae ein cynhyrchwyr yn dod gyda nhw i’r byd bwyd a diod byd-eang.

“Nid dim ond anrhydeddau yw’r gwobrau hyn; maen nhw’n destament i’r gwaith caled, yr ymroddiad, a’r dreftadaeth goginio gyfoethog mae Cymru’n adnabyddus amdanynt. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r cynhyrchwyr hyn yn y dyfodol wrth i ni barhau i adeiladu ar lwyddiannau diweddar y diwydiant a dyrchafu Cymru fel esiampl o ragoriaeth bwyd a diod.”

Ymhlith y cynhyrchion Cymreig anhygoel y dyfarnwyd 3 seren iddynt mae:

  • Anglesey Fine Foods Ltd –Ysgwydd Cig Oen Cynffon Dew Foethus Ynys Môn

  • Black Mountains Smokery Ltd – Brest Hwyaden wedi’i mygu

  • Black Welsh Lamb – Ysgwydd cig dafad organig wedi'i bwydo ar borfa

  • Distyllfa Dá Mhile – Absinth Dá Mhile 

  • Gwenyn Gruffydd – Mêl Blodau Gwylltion Cymreig

  • Moch Coch – Chorizo

  • Pâtisserie Verte – Tarten Wisgi a Siocled

 

Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, yw cynllun achredu bwyd a diod mwyaf a mwyaf dibynadwy’r byd sy’n profi bwyd a diod. Mae'r gwobrau'n cael eu cydnabod yn fyd-eang fel arwydd o ragoriaeth ac maent yn uchel iawn eu parch ymysg cynhyrchwyr bwyd a phobl sy'n hoff o fwyd. Cafodd pob cynnig ei flasu’n ddall yn ofalus iawn gan banel beirniad arbenigol y Guild of Fine Food o dros 500 o feirniaid bwyd, cogyddion, crewyr ryseitiau, prynwyr, manwerthwyr, ac arbenigwyr eraill ym maes bwyd a diod. Dadansoddwyd ceisiadau yn ystod 92 o ddiwrnodau beirniadu, pob un yn derbyn adborth manwl, p'un a oeddent wedi ennill gwobr ai peidio.

Gall enillwyr gwobrau Great Taste nawr arddangos y logo eiconig Great Taste du ac aur fel symbol o ansawdd rhagorol.

Dywedodd John Farrand, rheolwr gyfarwyddwr y Guild of Fine Food: “Mae’n hynod bwysig i ni yn y Guild of Fine Food i roi ychydig o bositifrwydd i mewn i’r diwydiant bwyd a diod arbenigol. O ystyried yr amodau economaidd y mae manwerthwyr annibynnol a chynhyrchwyr bach a chanolig yn eu hwynebu, mae cyhoeddi rhestr 2024 o sêr Great Taste bellach yn hwb blynyddol i bob un ohonom. Ac nid rhagoriaeth yn unig o’r DU, ond o bob rhan o’r byd, wrth i ni ddathlu’r goreuon o 115 o wledydd. Rydyn ni’n gwneud ein rhan dros gysylltiadau diwylliannol ar hyd a lled y blaned pan fo cymaint o ddeddfwriaeth yn ceisio atal hynny. Mae’n fraint wirioneddol cefnogi a thanategu gwneuthurwyr annibynnol trwy broses Great Taste.”

Aeth y rhai sydd wedi derbyn 3 seren ymlaen i gael eu beirniadu mewn cam pellach o'r gystadleuaeth. Mae’r goreuon o’r 3 seren hynny o bob gwlad neu ranbarth bellach wedi’u henwebu ar gyfer y Fforc Aur, sef ‘Oscar y byd bwyd a diod’.

Mae’r tri sydd wedi’u henwebu ar gyfer teitl rhanbarthol y Fforc Aur o Gymru yn cynnwys Brest Hwyaden wedi’i Mygu gan Black Mountains Smokery Ltd; Absinth Dá Mhile o Ddistyllfa Dá Mhile a Chorizo ​​gan Moch Coch. Bydd enillwyr Fforc Aur Great Taste yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig a sesiwn flasu yng Nghanolfan Gelfyddydau Battersea yn Llundain ddydd Mawrth 10 Medi 2024.

Mae rhestr lawn o enillwyr eleni a ble i’w prynu ar gael yn www.greattasteawards.co.uk

Share this page

Print this page