Bottle of Dovey Native Botanical Gin

Gin Botanegol Brodorol Dyfi PGI

Mae Gin Botanegol Brodorol Dyfi PGI yn Jin crefft nodedig sy’n amlygu blasau unigryw Biosffer Dyfi UNESCO yng Nghanolbarth Cymru. 

Yn wirod gyda naws am le, mae i Gin Botanegol Brodorol Dyfi fil botanegol hollol neilltuol. Wedi’i greu gydag oleiaf 17 o blanhigion botanegol brodorol a chesglir mewn ffordd gynaliadwy o’r dirwedd fioamrywiol hon, mae’n cynnig profiad hollol unigryw i’r synhwyrau wedi’I siapio gan amgylchfyd naturiol yr ardal hon. 

Er ei fod yn cynnwys planhigion botanegol clasurol nad ydynt yn rhai brodorol megis eithin pêr, coriander a sitrws i sicrhau cydbwysedd a nodwedd, y planhigion botanegol brodorol — sy’n cael eu casglu mewn ffordd gynaliadwy o Fiosffer Dyfi — sy’n wirioneddol diffinio ei gymeriad, gan arwain at gynnyrch gyda tharddiad hynod gadarn. 

Crefftwaith sydd wrth galon y gwirod, a chynhyrchir Gin Botanegol Brodorol Dyfi mewn sypiau bach gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.  Caiff ei ddistyllu mewn distyll-lestr copr, mewn sypiau, ar y cyd â distyll-lestr colofn, sy’n caniatáu i’r distyllwr fod yn fanwl gywir yn ystod y broses coethi, gan sicrhau taw dim ond y blasau mwyaf pur ac aromatig o’r planhigion a gedwir.  40% ABV yw cryfder alcohol y gwirod; ac felly mae’n cadw’r gloywder a’r cymhlethdod heb yr angen i’w hidlo’n oer, sy’n sicrhau’r uniondeb crefftwrol.

Mae gwerthusiad synhwyraidd annibynnol yn disgrifio’r gwirod fel un cytbwys, heb unrhyw flasau dwys neu adflas. Mae ganddo aroma sbeislyd a phinwyddog, gyda blasau llysieuol a blodeuog, tra bo’r proffil blas yn gymysgedd hyfryd o bupur du, ffenigl, sitrws gyda phersawr blodeuog ysgafn.  Mae’r blasau glaswelltog a phrennaidd sy’n deillio o’r planhigion botanegol brodorol yn ychwanegu dyfnder i’r jin, gan greu gwirod neilltuol, cymhleth.

Mae’r cysylltiad rhwng y gin a’i darddiad daearyddol yn hollbwysig.  Mae Gwarchodfa Biosffer Dyfi yn ardal o harddwch naturiol a bioamrywiaeth, sy’n cael ei gydnabod ar lefel fyd eang am ei ymrwymiad i gynaliadwyedd a chadwraeth.  Mae’r cyfuniad unigryw o gynefinoedd — rhostiroedd mawn, morfeydd heli, coetiroedd llydanddail, ac ardaloedd arfordirol — yn arwain at amrywiaeth anhygoel o blanhigion botanegol, sy’n golygu fod cymhlethdod blas digyffelyb yn perthyn i’r jin.

Mae Gin Botanegol Brodorol Dyfi’n fwy na gwirod; mae’n adlewyrchu treftadaeth naturiol, ddiwylliannol ac amgylcheddol Cymru. Yn berffaith ar gyfer y sawl sydd am fwynhau profiad jin go iawn, mae blas unigryw Biosffer Dyfi yn treiddio trwy pob diferyn.