DFM Charley and Jac Evans. Perl Las Cheese.

 

Mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru wedi llwyddo mewn dwy gystadleuaeth fawreddog, gan arddangos yr ansawdd a'r crefftwaith rhagorol sy'n gwneud cynnyrch Cymru ymhlith y gorau yn y byd.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru eu Gwobrau Gwin Cymru 2025 yng Ngwinllan Llanerch, gan ddod â bron i 60 o winoedd o bob cwr o Gymru ynghyd. Canmolodd y panel beirniadu, dan arweiniad yr arbenigwr gwin enwog Oz Clarke, hyder a chymeriad gwinoedd Cymru, gan gymharu eu datblygiad â rhai o ranbarthau newydd mwyaf uchel eu parch y byd.

Dyfarnwyd Pencampwr Gwin Cymru i Winllan Llaethliw yng Ngheredigion, a sicrhaodd hefyd deitlau am y Gwin Pefriog Cyffredinol Gorau, y Gwin PDO/PGI Gorau, a'r Gwin Gwyn Pefriog Gorau. Ymhlith yr enillwyr eraill roedd Gwinllan Jabajak am y Gwin Rhosliw Pefriog Gorau, Gwinllan Dell am y Gwin Llonydd Cyffredinol Gorau a'r Gwin Rhosliw Llonydd Gorau, Gwinllan Vale am y Gwin Gwyn Llonydd Gorau, a Gwinllan Llanerch am y Gwin Coch Llonydd Gorau.

Dywedodd Andy Mounsey, Cadeirydd Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru: 

“Mae gwobrau 2025 yn tanlinellu datblygiad eithriadol gwneud gwin Cymru. Mae'r ansawdd, y creadigrwydd a'r ymrwymiad rydyn ni wedi'u gweld eleni yn adlewyrchu sector sy'n parhau i gryfhau ei hunaniaeth a gwthio ffiniau newydd.

Mae'r llwyddiant hwn yn dyst i'r angerdd a'r arloesedd sy'n gyrru'r diwydiant yn ei flaen, ac mae'n atgyfnerthu safle Cymru fel aelod cyffrous a chredadwy ar lwyfan gwin y byd.”

Yn y cyfamser, yng Ngwobrau Caws y Byd 2025 yn Bern, y Swistir, enillodd gwneuthurwyr caws o Gymru chwe gwobr, gan gynnwys y Caws Cymreig Gorau am gaws glas Perl Las Deli Caws Cenarth. Llwyddodd Cymru i gipio cyfanswm o dair gwobr Aur, dwy wobr Arian ac un wobr Efydd, gan gadarnhau ei henw da fel grym byd-eang mewn caws crefftus.

Dywedodd Carwyn Adams o Caws Cenarth: 

“Mae ennill y Caws Cymreig Gorau yng Ngwobrau Caws y Byd yn eiliad falch i ni ac i Gymru. Mae'n dangos y gall sgiliau traddodiadol ynghyd ag arloesedd greu cynhyrchion sy'n sefyll allan ar lwyfan y byd.

Mae Perl Las Deli yn enghraifft berffaith o sut y gall ein treftadaeth a’n hangerdd gynhyrchu cawsiau sydd nid yn unig yn swyno defnyddwyr gartref ond hefyd yn ennill parch rhyngwladol. Mae’r gwobrau hyn yn atgyfnerthu enw da cynyddol Cymru fel arweinydd mewn caws crefftus.”

Mae’r llwyddiant dwbl i win a chaws Cymru yn adlewyrchu enw da rhyngwladol cynyddol Cymru fel cyrchfan ar gyfer bwyd a diod eithriadol. Daw’n fuan ar ôl digwyddiad Blas Cymru / Taste Wales y diwydiant, a welodd gannoedd o ffigurau o’r diwydiant o bob cwr o’r byd yn ymgynnull yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, ar gyfer arddangosfa o dros 3,000 o gynhyrchion Cymru, gan arwain at gyfleoedd masnach newydd sylweddol ym mhob cwr o’r byd.

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies AS, a fynychodd Wobrau Gwin Cymru: 

“Mae dathlu llwyddiannau ein gwinllannoedd yng Ngwobrau Gwin Cymru wedi bod yn brofiad gwych. Mae ansawdd a hyder gwinoedd Cymru yn glir i bawb eu gweld, ac maen nhw’n helpu i roi Cymru’n gadarn ar y map fel cynhyrchydd o’r radd flaenaf ac enw sy’n tyfu yn y diwydiant.

Ar yr un pryd, mae ein gwneuthurwyr caws wedi dangos eu rhagoriaeth hwythau ar y llwyfan byd-eang yng Ngwobrau Caws y Byd, gan ennill nifer o anrhydeddau. Gyda’i gilydd, mae’r llwyddiannau hyn yn tynnu sylw at y sgil, yr angerdd a’r arloesedd sy’n diffinio bwyd a diod Cymru.”

Gyda’r Nadolig yn prysur agosáu, beth am gynnwys cynhyrchion Cymreig yn eich dathliadau Nadoligaidd? O winoedd pefriog crefftus o Geredigion a Sir Gaerfyrddin i winoedd llonydd cain o Sir Fynwy a Sir Ddinbych, a chawsiau crefftus o Sir Benfro a Bro Morgannwg, mae bwyd a diod Cymru yn dod â rhywbeth gwirioneddol arbennig i bob bwrdd. Cyfunwch win gwyn Cymreig ffres gyda chaws glas hufennog neu mwynhewch win rhosliw pefriog ochr yn ochr â chaws meddal cyfoethog – y ffordd berffaith o ddathlu’r Ŵyl gyda blasau sy’n unigryw Gymreig.

Share this page

Print this page