Bydd Cymru yn gosod ei sector bwyd a diod o'r radd flaenaf yn ganolbwynt i Gulfood 2026, arddangosfa fasnach bwyd a diod flynyddol fwyaf y byd, a gynhelir yn Dubai o 26–30 Ionawr 2026.
Eleni yw ei dirprwyaeth fwyaf hyd yma, gyda 19 o gwmnïau'n cynrychioli'r ystod amrywiol o gynhyrchion Cymru sy'n cael eu hallforio i'r rhanbarth ar hyn o bryd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd cymysgedd o allforwyr sefydledig a'r rhai sy'n newydd i'r farchnad, pob un yn ceisio ehangu ei ôl troed yn y rhanbarth a thu hwnt wrth gwrdd â phrynwyr o bob cwr o'r byd i drafod cyfleoedd i allforio.
Ar ôl yr Undeb Ewropeaidd, rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA) yw'r ail farchnad fwyaf ar gyfer bwyd a diod o Gymru, gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod £64m o nwyddau wedi'u hallforio yn 2024. Yn fwy cyffredinol, mae gwerth allforion bwyd a diod Cymru yn parhau i dyfu, gyda thwf trawiadol o 47% ers 2019, sy'n cynrychioli £839m o werthiannau i economi Cymru.
Mae arddangoswyr y ddwy neuadd fwyd yn cynrychioli ehangder ac ansawdd y diwydiant, gan gynnwys cynhyrchwyr llaeth blaenllaw fel Rachel’s Dairy, First Milk/Golden Hooves, a Dairy Partners yn y Neuadd Laeth. Yn y Neuadd Ryngwladol, mae rhestr gref yn cynnwys brandiau fel Bloomin Foods, Euro Foods a Sheriffs Biltong Ltd, ochr yn ochr â dirprwyaeth ehangach o allforwyr o Gymru sy'n mynychu i feithrin perthnasoedd ac archwilio cyfleoedd byd-eang newydd.
Mae'r digwyddiad hefyd yn adeiladu ar fomentwm Blas Cymru / Taste Wales 2025, a gynhaliwyd fis Hydref diwethaf, a lle cyfarfu nifer o brynwyr MENA â chynhyrchwyr Cymru am y tro cyntaf. Mae Gulfood yn cynnig cyfle i barhau â'r perthnasoedd hynny a'u cryfhau ymhellach. Mae Blas Cymru / Taste Wales eisoes wedi profi i fod yn ddigwyddiad llwyddiannus i'r diwydiant, gyda dros £45m o werthiannau posibl wedi'u cofrestru o fewn wythnosau iddo gael ei gynnal.
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS:
“Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ar y llwyfan byd-eang. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw'r rhanbarth hwn i'r diwydiant, a faint mae'n gwerthfawrogi ansawdd y cynhyrchion bwyd a diod rydyn ni’n gallu eu cynnig.
Mae Gulfood yn cynnig llwyfan amhrisiadwy i'n cynhyrchwyr adeiladu ar hyn a ffurfio partneriaethau newydd yn y rhanbarth. Rwy'n falch o weld mai dyma fydd ein dirprwyaeth fwyaf erioed yn y digwyddiad, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed rhai o straeon llwyddiant ein cynhyrchwyr wrth iddynt sicrhau partneriaethau a marchnadoedd newydd.”
Un o’r cwmnïau sy'n arddangos yn y Neuadd Laeth yw Rachel’s Organic, brand llaeth organig blaenllaw o Gymru sy'n adnabyddus am ei iogwrt a'i bwdinau arobryn, sy’n cael eu cynhyrchu i safonau organig ardystiedig ac sy’n cael eu hategu gan ymrwymiad hirhoedlog i ffermio cynaliadwy o ansawdd.
Dywedodd Anita Richards, Rheolwr Masnach Ryngwladol yn Rachel’s Organic:
“Mae Gulfood yn ddigwyddiad allweddol yn ein calendr allforio. Rydyn ni’n falch o gynrychioli llaeth organig Cymru ar lwyfan byd-eang, gan arddangos dyfnder ein hamrywiaeth a'n hymrwymiad i flas gwych, uniondeb organig a chyrchu cyfrifol. Mae'n gyfle amhrisiadwy i gwrdd â phrynwyr o bob cwr o ranbarth MENA a chryfhau partneriaethau hirdymor.”
Hefyd yn arddangos yn y Neuadd Ryngwladol mae Sheriffs Biltong Ltd, brand biltong Cymreig a gyd-sefydlwyd gan y cynhyrchydd bwyd Ruth Davies a seren rygbi Cymru Ken Owens, sy'n cynhyrchu byrbrydau cig eidion wedi'u sychu’n naturiol a wneir yng ngorllewin Cymru gan ddefnyddio Cig Eidion Cymru PGI a chynhwysion naturiol, syml.
Dywedodd Ken Owens, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Sheriffs Billtong:
“Rydyn ni’ llawn cyffro ynghylch cyflwyno byrbrydau cig eidion protein uchel Sheriffs, wedi'u sychu’n naturiol i brynwyr rhyngwladol newydd yn Gulfood. Y sioe hon yw'r llwyfan delfrydol i adeiladu dosbarthiad, cwrdd â phartneriaid o'r un anian a hyrwyddo tarddiad a chrefft Cymru mewn categori sy'n tyfu'n gyflym.”
Drwy gydol yr wythnos, bydd stondin Cymru Wales yn cynnwys arddangosiadau coginio byw a sesiynau blasu. Bydd y cogydd Elwen Roberts o Hybu Cig Cymru yn paratoi canapés sy'n arddangos cynhwysion Cymreig o ansawdd uchel, a fydd yn cael eu gweini ar 27 Ionawr (pm) a 28 Ionawr (am) ar y stondin ryngwladol yng Nghanolfan Arddangos Dubai, safle Expo City Dubai.
Am ragor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo eich busnes gydag allforio, ewch i Allforio | Busnes Cymru - Bwyd a Diod