Cefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Raglen Sbardun Cywain yn gyrru busnesau newydd sy’n barod i fasnachu tuag at farchnadoedd newydd

"Rising Stars" companies Black Tar Brewing - Siândy and Sip Syrup additive free syrups.

 

Mae busnesau bwyd a diod mwyaf newydd Cymru yn gadael eu marc gyda chynhyrchion sy’n plethu crefft, creadigrwydd ac uchelgais fasnachol.

Roedd nifer o’r rhain i’w gweld ym mis Hydref 2025 yn Blas Cymru / Taste Wales, lle daeth prynwyr o bob cwr o’r byd i weld llwyfan gwych ar gyfer y brandiau hyn sy’n dod i’r amlwg gael adrodd eu straeon a sicrhau archebion. O ddiodydd newydd beiddgar i nwyddau cegin clyfar, roedd amrywiaeth o fusnesau newydd i’w gweld ochr yn ochr â brandiau bwyd a diod mwy sefydledig Cymru, a helpodd i sicrhau mwy na £45 miliwn mewn gwerthiannau posibl i’r diwydiant.

Wrth wraidd twf busnesau newydd bwyd a diod mae Rhaglen Sbardun Cywain a ariennir gan Lywodraeth Cymru, menter a gynlluniwyd i helpu busnesau i ddod yn barod i fasnachu i gyflenwi manwerthwyr a gwasanaethau bwyd.

Mewn cydweithrediad â Rhaglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru, mae’r ffocws ar gefnogi twf cynaliadwy a gwydnwch i’r busnesau sy’n cymryd rhan. Mae'r rhaglen yn rhoi’r adnoddau i sylfaenwyr busnesau fireinio eu nod, hogi eu mewnwelediad i gategorïau, a chyflwyno'n hyderus i brynwyr, cefnogaeth a brofodd yn allweddol i nifer o 'Sêr y Dyfodol' eleni. Gyda charfannau newydd y Sbardun i ddod i'r amlwg ym mis Ionawr a mis Chwefror 2026, nid yw'r llif o gynhyrchwyr talentog yn dangos unrhyw arwydd o arafu.

Ymhlith y 31 o gwmnïau 'Sêr y Dyfodol' sy'n cael eu dathlu am eu creadigrwydd a'u huchelgais mae Black Tar Brewing a Sip Syrup.

Mae Black Tar Brewing, o Langwm, Sir Benfro, yn ailddiffinio lluniaeth gyda Siândy, tro modern ar y shandi lager traddodiadol. Wedi'i greu o gwrw Cymreig wedi'i fragu'n lleol wedi'i gymysgu â lemwnêd di-siwgr, mae Siândy yn cynnig opsiwn ysgafnach, ABV isel sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd a blas lleol. Mae eu dull arloesol wedi bod yn denu sylw yn ddiweddar, gan ennill diddordeb gwerthfawr gan brynwyr.

Dywedodd Alex Llewellyn, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Black Tar Brewing, 

“Roedd Blas Cymru / Taste Wales yn brofiad anhygoel i ni. Fe wnaethon ni gwrdd â phobl anhygoel a gwneud cysylltiadau busnes go iawn. Rydyn ni eisoes wedi creu cysylltiadau cryf, gan gynnwys dwy gadwyn archfarchnad genedlaethol a siop groser ar-lein sydd wedi dechrau’r broses o’n cyflwyno fel cyflenwyr. Rydyn ni hefyd mewn cysylltiad rheolaidd â grŵp Loungers er mwyn trafod cyflenwi eu lleoliadau yng Nghymru. 

Rhoddodd yr arddangosfa sylw amhrisiadwy i ni gan brynwyr oedd yn chwilio am restrau newydd a chynhyrchion nodedig, a rhoddodd Rhaglen Sbardun Cywain yr hyder a’r eglurder i ni gyflwyno fel brand sy’n barod ar gyfer y silffoedd. Nid dim ond cael cynnyrch gwych yw’r nod, mae angen deall y farchnad, adrodd eich stori, a dangos i brynwyr eich bod chi o ddifri ynghylch twf.”

Un o’r cwmnïoedd eraill oedd yn arddangos yn Blas Cymru / Taste Wales fel rhan o garfan ‘Sêr y Dyfodol’ oedd Sip Syrup. Maen nhw’n dod o Aberteifi, ac yn creu suropau heb ychwanegion sydd wedi'u gwneud o gynhwysion naturiol, cynaliadwy.

Wedi'u cynllunio er mwyn cael hyblygrwydd mewn diodydd a chymysgwyr, lansiodd y brand ei gysyniad yn y digwyddiad ac ers hynny mae wedi profi llwyddiant gyda blasau fel caramel, fanila, a chnau cyll - pob un â’r nod o ddyrchafu diodydd bob dydd. Mae eu taith yn adlewyrchu'r ysbryd entrepreneuraidd sy'n gyrru’r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru.

Dywedodd Rhodri Jones, sylfaenydd Sip Syrup,

“Fel brand ifanc ac uchelgeisiol, fe wnaethom lansio ein cysyniad gyntaf yng Nghynhadledd Blas Cymru / Taste Wales 2024, yna fe wnaethom ei arddangos yn y Sioe Siop Fferm a Deli, ac roeddem yn falch o gael ein cydnabod fel ‘Seren y Dyfodol’ ym Mroceriaeth Blas Cymru / Taste Wales 2025.

Roeddem ni eisiau profi'r cysyniad o flaen prynwyr craff, a gwnaethom hynny. Aethom ni i weithdai Sbardun Cywain a oedd yn ddwys ond yn ymarferol iawn, ac yn trafod pynciau fel cyllid, AD, disgwyliadau prynwyr, a chrefft cyflwyno. Trodd y sylfaen honno chwilfrydedd yn ddiddordeb gwirioneddol yn Sip Syrup.”

Mae Blas Cymru / Taste Wales gan Lywodraeth Cymru yn gyfle euraidd i gynhyrchwyr sy'n dod i'r amlwg gwrdd â phrynwyr cymwys, dechrau sgyrsiau ynghylch dosbarthu a thyfu’n gyfrifol. Ochr yn ochr â hynny, mae Cywain yn meithrin entrepreneuriaid sydd yn eu cyfnod cynnar gyda mentora strwythuredig a chyflwyno byw, gan sicrhau llif cyson o fusnesau arloesol sy'n barod ar gyfer manwerthu.

 

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS: 

“Mae entrepreneuriaid bwyd a diod Cymru yn adeiladu brandiau mae prynwyr eu heisiau ac mae defnyddwyr yn eu caru. Drwy baru arddangosfeydd o'r radd flaenaf â pharatoi ymarferol drwy brosiectau Llywodraeth Cymru fel Rhaglen Sbardun Cywain, rydym ni’n troi potensial yn berfformiad, gan arwain at fwy o archebion, marchnadoedd newydd, a thwf cynaliadwy i gynhyrchwyr Cymru.

Rydym ni’n creu cyfleoedd sy'n para ac yn helpu busnesau i ffynnu ar lwyfan byd-eang.”

Mae ymuno â Rhaglen Sbardun Cywain yn broses ymgeisio gystadleuol (gyda bron i 50 o ymgeiswyr y llynedd) ac mae bellach ar gau ar gyfer 2026. I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Sbardun Cywain 2027 a chefnogaeth ehangach Cywain cysylltwch â Nerys Davies ar nerys.davies@mentera.cymru.

Share this page

Print this page