MamGu Welshcakes yw'r busnes bwyd a diod diweddaraf o Gymru i ennill statws B Corporation™ Ardystiedig, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn ei ymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae'r cwmni o Sir Benfro bellach yn un o ddeg cynhyrchydd o Gymru i sicrhau'r achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan gefnogi uchelgais Cymru i ddatblygu cynhyrchu bwyd a diod cynaliadwy o ansawdd uchel.

Mae ardystiad B Corp yn cael ei ddyfarnu i fusnesau sy'n bodloni safonau uchel o ran perfformiad, atebolrwydd a thryloywder o ran llywodraethu, gweithwyr, cymuned, amgylchedd a chwsmeriaid. Drwy'r broses, mae MamGu Welshcakes wedi cryfhau ei ddull cynaliadwyedd, gan ymgorffori arferion cyfrifol yn ei weithrediadau wrth barhau i ddathlu ei dreftadaeth Gymreig a'i gynhyrchion traddodiadol.

Wrth siarad am y llwyddiant, dywedodd y cyfarwyddwr, Sam Swift: “Mae cyflawni ardystiad B Corp yn foment hynod o falch i ni. Fel busnes Cymreig sydd wedi’i wreiddio mewn cymuned, cynaliadwyedd ac arferion busnes cyfrifol, mae hon yn garreg filltir bwysig ac un rydym ni’n hynod falch ohoni. O’r cychwyn cyntaf, rydym ni wedi ymrwymo i wneud pethau yn y ffordd gywir, gan greu cynhyrchion Cymreig o safon wrth ofalu am ein pobl, ein cymuned a’r amgylchedd.

“Mae’r broses hon wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein hannog i gamu’n ôl, herio ein hunain, a gyrru gwelliannau ystyrlon ledled y busnes. Nid dod yn B Corp yw diwedd y daith – mae’n rhan o ymrwymiad parhaus i wneud yn well.”

Mae MamGu Welshcakes yn ymuno â grŵp o fusnesau bwyd a diod B Corp Cymru, gan gynnwys Barti Rum, Coaltown Coffee, Drop Bear Beer Co., Golden Hooves (First Milk), Halen Môn, Hilltop Honey, Tiny Rebel, Wholebake a Welsh Coffee Co.

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd:

“Llongyfarchiadau i MamGu Welshcakes ar ennill ardystiad B Corp, carreg filltir bwysig sy’n adlewyrchu ymrwymiad gwirioneddol i wneud busnes yn gyfrifol.

“Mae gweld cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn ennill yr ardystiad yn destun balchder mawr, ac mae’n gyffrous gweld cwmnïau fel MamGu Welshcakes yn gosod y safon ar gyfer twf ac arloesedd cyfrifol.”

“Mae’r llwyddiant yn adlewyrchu’r momentwm ar draws sector bwyd a diod Cymru, gyda chynhyrchwyr yn defnyddio arferion cynaliadwy fwyfwy sy’n cefnogi cymunedau, amddiffyn adnoddau naturiol a gwella gwydnwch hirdymor”.

Mae Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi cryfhau eu cefnogaeth i fusnesau trwy lansio Gwasanaeth Cynaliadwyedd integredig newydd. Mae'r cynnig symlach hwn yn cynnig cefnogaeth lleihau carbon wedi'i hariannu'n llawn, canllawiau arbenigol (gan gynnwys B Corp) a hyfforddiant wedi'i dargedu, gan helpu gweithgynhyrchwyr bwyd a diod i dorri allyriadau, gwella effeithlonrwydd ac adeiladu gwydnwch hirdymor. Drwy ddarparu un llwybr hygyrch at gefnogaeth, mae'r Gwasanaeth yn galluogi busnesau i ddatgloi arbedion cost, ymateb i ofynion y farchnad a gwreiddio cynaliadwyedd wrth galon eu gweithrediadau.

Yn ganolog i'r cynnig hwn mae'r Clwstwr Cynaliadwyedd, rhwydwaith sy'n tyfu o dros 130 o fusnesau bwyd a diod a phartneriaid o’r diwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth, gyda ffocws cryf a chynyddol ar ardystiad B Corp. Drwy gyfrwng canllawiau wedi'u teilwra, dysgu gan gymheiriaid ac arbenigedd, mae'r Clwstwr yn cefnogi cynhyrchwyr Cymru i lywio’r broses B Corp a dangos safonau uchel o berfformiad amgylcheddol a chymdeithasol. Mae hyn yn cyfoethogi hygrededd, cwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid a manwerthwyr sy'n esblygu, ac yn gosod bwyd a diod Cymru ar flaen y gad o ran cynhyrchu cynaliadwy.

Am ragor o wybodaeth am fusnesau bwyd a diod B Corp Cymru, ewch i

https://food-drink.wales/cy/busnes/egin-fusnesau-b-corp-cymru/ 

Share this page

Print this page