Mae dau gynhyrchydd annibynnol Cymreig wedi dod ynghyd i greu Y Fenai, coffi rym-trwythol nodedig sy’n cyfuno rym sydd wedi ennill gwobrau, coffi arbenigol wedi’i rostio’n gelfydd, a gwaith celf gwreiddiol Cymreig, mewn un cynnyrch unigryw.
Cafodd y bartneriaeth ei chreu yn dilyn cyflwyniadau a wnaed mewn digwyddiadau Rhwydwaith Clwstwr. Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r rhwydwaith yn chwarae rhan bwysig wrth helpu busnesau bwyd a diod Cymreig i greu cysylltiadau, rhannu arbenigedd a datblygu prosiectau cydweithredol sy’n cefnogi twf ac arloesedd.
Mae’r cydweithrediad rhwng Distyllfa Llanfairpwll a Coffi Dre yn cyfuno distyllu traddodiadol gyda choffi crefft wedi’i rostio drwy broses a ddatblygwyd yn ofalus. Yn gyntaf, mae ffa coffi gwyrdd yn cael eu socian mewn Rym Tywyll y Moelrhoniaid, a enillodd Wobr Great Taste un seren 2026, cyn cael eu rhoi wedyn i Coffi Dre i’w rhostio.
Yn ystod y broses rostio, mae’r alcohol yn cael ei dynnu allan, gan adael blasau cyfoethog nodweddiadol y rym yn y ffa coffi.
Mae hyn yn creu coffi perffaith gyda blasau cyfoethog o siocled tywyll, coco wedi’i rostio, caramel, molases a fanila, ac awgrym o gnau wedi’u tostio, sbeis derw ysgafn, ac awgrym hefyd o ffrwythau sych, gyda gorffeniad llyfn graddol.
Mae’r enw Y Fenai yn adlewyrchu’r cysylltiad rhwng y ddau gynhyrchydd gan ddathlu’r culfor enwog, Afon Menai, sydd wedi cysylltu cymunedau, masnach a chrefftwaith ledled gogledd Cymru ers sawl cenhedlaeth.
Dywedodd Rob Laming, Prif Ddistyllwr Distyllfa Llanfairpwll:
“Dechreuodd y prosiect hwn gyda syniad syml – a oedd modd i ni gipio nodweddion arbennig ein Rym Tywyll y Moelrhoniaid o fewn y coffi? Bu cydweithio gyda Coffi Dre yn brofiad gwych, a gyda’n gilydd rydym wedi creu rhywbeth sydd yn gwbl unigryw. Mae llwyddo i gael ein Rym Tywyll y Moelrhoniaid wedi ei gydnabod gan Wobrau Great Taste eleni yn gwneud y bartneriaeth yn fwy arbennig fyth."
Dywedodd llefarydd ar ran Coffi Dre:
O’r cychwyn cyntaf ein dymuniad oedd bod Y Fenai yn arddangos ein hansawdd a’n crefftwaith. Mae’r trwythiad rym yn creu dyfnder rhyfeddol i’r ffa gwyrdd, ac mae ein proses rostio wedi cael ei datblygu’n ofalus i ryddhau’r blasau hynny wrth gynhyrchu coffi sydd â balans bendigedig. Rydym yn falch iawn o’r canlyniad."
I goroni’r cyfan, fe welwn waith celf gwych a gwreiddiol Sian Angharad sydd â’i darlun yn cyfleu cymeriad a hunaniaeth Y Fenai yn berffaith, gan sicrhau bod y pecynnu yr un mor drawiadol â’r coffi y tu mewn.
Yn fwy na dim ond cynnyrch, mae Y Fenai yn dathlu’r cydweithrediad rhwng busnesau Cymreig annibynnol, gan ddangos sut all crefftwaith traddodiadol, arloesedd a chreadigrwydd ddod ynghyd i gynhyrchu rhywbeth sy’n wirioneddol unigryw.
Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:
“Mae partneriaethau fel yr un yma rhwng dau gynhyrchydd annibynnol Cymreig yn dangos yr arloesedd a’r ysbryd entrepreneuraidd sy’n parhau i yrru diwydiant bwyd a diod Cymru yn ei flaen.
“Mae cydweithrediadau a lunnir drwy’r Rhwydwaith Clwstwr, drwy gyllid Llywodraeth Cymru, yn amlygu sut all cydweithio greu cyfleoedd newydd, ychwanegu gwerth i gynnyrch lleol a chryfhau economiau gwledig.
“Mae’n gymaint o ysbrydoliaeth gweld busnesau yn defnyddio treftadaeth Cymru, sgiliau a chreadigrwydd i gynhyrchu rhywbeth sy’n wirioneddol unigryw, ac rwy’n falch iawn o gefnogi’r Rhwydwaith Clwstwr wrth iddo alluogi mentrau fel hyn i lwyddo.”
Mae Y Fenai ar gael nawr o wefan Coffi Dre