Mesur ein llwyddiant yn hyn o beth

Byddwn yn edrych ar ystod eang o ddangosyddion – gan gynnwys nifer y busnesau, gwerth y busnesau hynny, ffigurau allforio, achrediadau a gwobrau, a mesurau amgylcheddol a llesiant. Byddwn yn cyhoeddi popeth ar wefan Busnes Cymru, felly bydd cofnod parhaus o’r cynnydd a wneir. Bydd y mesurau llwyddiant allweddol hyn yn rhoi darlun clir i bob un ohonom o’r cynnydd a wnawn ac o’r agweddau y bydd arnynt angen fwy o sylw.

Ein ffyrdd o fesur llwyddiant

  1. Bob blwyddyn, bydd gwerth y trosiant yn y sector sylfaen bwyd yng Nghymru yn tyfu mwy yn ôl cyfran nag yng ngweddill y DU, gan godi i o leiaf £8.5bn biliwn erbyn 2025.
  2. Bydd y cyfartaledd tair blynedd ar gyfer y Gwerth Gros a Ychwanegir (GVA) fesul awr a weithir yn y sector sylfaen bwyd yng Nghymru yn cynyddu’n fwy yn ôl cyfran nag yng ngweddill y DU.
  3. Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y gweithwyr yn y sector sylfaen bwyd yng Nghymru sy’n cael o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol, gan gyrraedd 80% erbyn 2025.
  4. Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod sydd ag achrediad (e.e. rheolaeth amgylcheddol, datblygu staff, cynhyrchu, a safonau perthnasol eraill).
  5. Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod sy’n cael dyfarniadau sy’n briodol i’w busnes. Erbyn 2025 bydd o leiaf chwech yn fwy o gynhyrchion o Gymru yn ymuno â chynllun Dynodiad Daearyddol (GI) y DU.
  6. Bydd gan 98% o fusnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod sgôr hylendid bwyd o 5 erbyn 2025.

 

Dangosyddion eraill

Ynghyd â'r mesurau llwyddiant, mae’n bwysig monitro targedau a dangosyddion eraill ac maent yn debygol o ddod yn berthnasol dros amser. Bydd ein dangosfwrdd yn ddigon hyblyg inni fedru ychwanegu atynt yn ôl yr angen.

  • Nifer y busnesau yn y sector, a data hanesyddol ar gyfer blynyddoedd cynharach
  • Cyfradd flynyddol o fusnesau newydd

  • Cyfradd y busnesau a fydd yn para pump neu fwy o flynyddoedd

  • Gwerth allforio ar gyfer y flwyddyn, a ffigurau hanesyddol

  • Cyfanswm y gweithwyr

  • Busnesau a fydd yn ymrwymo i'r adduned sgiliau

  • Nifer y busnesau sy’n ailgreu cynnyrch drwy Arloesi Bwyd Cymru a Phrosiect Helix