Blwch Offer Rheoleiddio Dyframaeth ar gyfer Cymru

Dyframaeth Cymru

Mae dyframaeth yn un o’r sectorau cynhyrchu bwyd allweddol yng Nghymru ac mae’n helpu i gynnal twf economaidd cynaliadwy mewn cymunedau gwledig ac ar yr arfordir. Ar hyn o bryd, mae'r diwydiant dyframaeth yng Nghymru’n cynnwys magu cregyn gleision ar raffau hir, magu wystrys y Môr Tawel ar drestlau ar y glannau, magu brithyll, pysgod esgyll dŵr croyw, a magu i adfer wystrys a chimychiaid yr afon brodorol. Gyda phwysau cynyddol diogeledd bwyd a maeth, poblogaeth sy’n tyfu a’r galw cynyddol am gynnyrch iach, mae’r rhaid i'r diwydiant yng Nghymru gynhyrchu mwy i gyfarfod â’r anghenion hynny. Gyda Chynllun Gweithredu Strategol Morol a Physgodfeydd Cymru 2013, mae Llywodraeth Cymru’n anelu a ddyblu cynnyrch dyframaeth erbyn 2020 ac mae’n annog cydleoli dyframaeth gyda diwydiannau morol eraill. Mae’r cynllun yn cydnabod cyfraniad y rhai sy’n magu pysgod cregyn i reoli dyfroedd y glannau a threftadaeth yr arfordir ac yn pwysleisio fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu’r diwydiant dyframaeth yn gynaliadwy.


Technoleg newydd yn gyrru twf dyframaeth

 Mae yna dechnolegau newydd a gwell, a mentrau yn datblygu yn y diwydiant, sy’n lleihau effeithiau amgylcheddol ac yn galluogi mentro i fannau mwy agored, a allai fod yn addas ar gyfer dyframaethu ar raddfa fwy. Mae’r sectorau sy’n datblygu ac sy’n arloesi yng Nghymru’n cynnwys systemau dyframaethu ailgylchol ar y tir ar gyfer gwrachod y môr, technoleg newydd ar gyfer deorfeydd a rhywogaethau (ymchwil ar y gweill), magu cregyn bylchog ar raffau, acwaponeg, magu algâu macro (treialon ar y gweill), cydleoli gyda lagynau melinau gwynt oddi ar y lan a rhwng y llanw (cynhaliwyd ymchwil a threialon) a thechnoleg cewyll tanddwr. Mae cydleoli a dyframaeth gyfun, aml-droffig, yn feysydd arloesi allweddol a fyddai’n gallu cynyddu cynhyrchiant ac, yr un pryd, yn lleihau effeithiau amgylcheddol.


Crynodeb o ofynion a chanllawiau rheolaethol ar gyfer busnesau dyframaeth newydd yng Nghymru

Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd i un porth ganllawiau ynghylch gofynion rheolaethol ar gyfer y sectorau presennol a'r rhai sy'n datblygu. Mae’n cynnwys crynodeb o’r wybodaeth gyda dolenni a chysylltiadau ynghylch y mathau o drwyddedau, awdurdodiadau a thrwyddedau sydd eu hangen i sefydlu a rhedeg gwahanol fathau o fusnesau dyframaeth. Mae hefyd yn darparu rhestr ar wahân o reoleiddwyr gyda manylion cyswllt a manylion y sectorau dyframaeth, y rhai presennol a’r rhai sy’n datblygu. Yn ogystal â’r wybodaeth fanwl sydd yn y tablau canlynol, dylai datblygwyr dyframaeth ystyried hefyd y Cynlluniau a’r Deddfau canlynol wrth ystyried datblygiadau newydd yng Nghymru.

  • Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (drafft 2017)
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2015
  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • Datganiadau Ardal (Tiriogaethol a Morol cyfatebol)
  • Cynlluniau Rheoli Basn Afon

Dogfennau Cychwynnol


Sectorau Dyframaethu