Bydd busnes cymdeithasol yn cael ei sefydlu fel math penodol o endid cyfreithiol, sy’n rhoi hawliau pwysig i’r cwmni.

Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o agweddau, o lunio contractau â chyflenwyr, cwsmeriaid, cyflogeion a phartneriaid prosiect i ddiogelu cyfreithiol, hawliau a chyfyngiadau aelodaeth.

Yn yr adran hon, edrychwn ar y prosesau sy’n gysylltiedig â bodloni gofynion cyfreithiol fel busnes cymdeithasol, a sut dylech chi adrodd am eich gweithgarwch masnachu.

Atebolrwydd cyfyngedig ar gyfer busnesau cymdeithasol 

Mae’r rhan fwyaf o ffurfiau o endid cyfreithiol yn darparu diogelu atebolrwydd cyfyngedig i’w haelodau a’u cyfarwyddwyr a/neu swyddogion. Ni waeth pa fath o ffurf gyfreithiol y mae’r busnes cymdeithasol wedi’i mabwysiadu, mae’n destun holl gyfreithiau’r wlad fel unigolyn go iawn, ac mae gan y rheiny sy’n gwneud busnes â’r cwmni hawl i gael gwybodaeth sylfaenol am y busnes.  

I sicrhau nad yw diogelu atebolrwydd cyfyngedig yn cael ei golli, rhaid i endidau cyfreithiol fel cwmnïau, ddarparu’r wybodaeth sylfaenol hon ar y cofnod cyhoeddus.

Prosesau adrodd cyfreithiol mewnol  

Mae nifer o gamau y gallwch eu hymgorffori ym mhrosesau mewnol eich busnes cymdeithasol i sicrhau bod gofynion adrodd cyfreithiol yn cael eu bodloni, a bod cyflogeion yn cydymffurfio â rheoliadau diwydiant.

Cynnal ymwybyddiaeth o ofynion cyfreithiol 

Mae’n bwysig sicrhau bod yna bobl go iawn yn cadw hyn dan reolaeth ar ran y busnes cymdeithasol. Y cam cyntaf yw deall yr union fath o endid cyfreithiol neu gorff rheoleiddio y mae angen iddynt adrodd iddo, a sut i wirio bod y cofnod cyfreithiol hwn yn gyfoes. Er enghraifft, os mai ffurf gyfreithiol eich busnes cymdeithasol yw ‘Cwmni Cyfyngedig trwy Warant’ ('Company Limited by Guarantee'), y rheoleiddiwr dan sylw fydd  Tŷ’r Cwmnïau

Cadw cofnodion busnes cymdeithasol

Mae’n ofynnol i gwmni gadw cofnodion a rhannu rhai o’r rhain gyda’r rheoleiddiwr a rhai ohonynt gyda’r byd yn gyffredinol.  Er enghraifft, ble mae ei swyddfa gofrestredig? Rhaid iddo rannu’r swyddfa gyda’i holl gyrff rheoleiddio, a’u hysbysu pan fydd hyn yn newid. Mae hyn yn helpu awdurdodau i wybod at ble i ysgrifennu os bydd angen gwybodaeth arnynt, neu os bydd arnynt eisiau hysbysu’r busnes cymdeithasol eu bod yn bwriadu mynd yno ac archwilio’r cofnodion corfforaethol.  

Arddangos manylion cofrestru eich busnes cymdeithasol 

Rhaid i’r un wybodaeth fod ar gael i’r byd yn gyffredinol rhag ofn fod angen i bobl neu endidau cyfreithiol eraill gyflwyno hysbysiad cyfreithiol. Mae’n ofyniad cyfreithiol i roi cyfeiriad y swyddfa gofrestredig ar yr holl ohebiaeth o’r busnes cymdeithasol a allai gynnwys y parti arall yn cymryd rhan mewn trefniant cytundebol neu risg neu atebolrwydd. Mae hyn yn cynnwys dogfennau archeb, anfonebau, contractau, negeseuon e-bost a’r wefan (rhywle ble gall pobl ddod o hyd iddynt, fel yr hafan, y dudalen ‘Amdanom ni’ neu droedyn ar bob tudalen).  

Cadw Cofrestr Aelodau 

Rhaid i gwmni gadw Cofrestr o’i holl aelodau. Yn achos Cwmni Cyfyngedig trwy Warant, er enghraifft, rhaid i’r Gofrestr gael enw presennol a chyfeiriad presennol yr holl aelodau. 

Mae aelod yn rhywun sydd: 

  • Yn gymwys i ymgeisio am aelodaeth o dan gymalau aelodaeth yr Erthyglau Cymdeithasu. 
  • Wedi ymgeisio am aelodaeth trwy’r weithdrefn a gytunwyd gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr. 
  • Wedi cael ei dderbyn gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr mewn cyfarfod a gofnodwyd yn briodol a bod ei enw wedi ymddangos yn y cofnodion hynny. 
  • Wedi llofnodi ei Ffurflen Warant i fod yn Warantwr. 
  • Wedi cael Tystysgrif Aelodaeth a bod y dyddiad wedi cael ei nodi yn y gofrestr. 

Mae angen cadw Cofrestr Aelodau rhag ofn y bydd angen i ddiddymwr ysgrifennu atynt a gofyn am y swm gwarantedig, y mae eu hatebolrwydd wedi cael ei gyfyngu trwy ymgorffori’r cwmni. 

Y tu hwnt i awdurdod 

Dylech gadw cofnodion hefyd o’r hyn y caniateir i weision y busnes cymdeithasol ei wneud ar ei ran, ac felly, yr hyn y mae’r cysyniad atebolrwydd cyfyngedig yn ei gwmpasu. Os bydd aelod o staff neu aelod o’r sefydliad sy’n berchen ar y busnes cymdeithasol, neu hyd yn oed yn gyfarwyddwr, yn dechrau contract â sefydliad allanol neu’n cyflogi rhywun pan na fydd wedi cael unrhyw gyfarwyddiadau i wneud hynny a bod neb arall yn ymwybodol ei fod yn gwneud hynny, mae wedi camu y tu allan i’r cyfrifoldeb corfforaethol ac yn gweithredu ‘y tu hwnt i awdurdod’, neu y tu hwnt i’r pwerau a roddwyd iddo. 

Adrodd eich gweithgarwch busnes cymdeithasol i reoleiddwyr

Gofynion adrodd ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau 

Yn ogystal â’r elfennau a amlinellir uchod, mae’n ofynnol i Gwmni Cyfyngedig trwy Warant rannu ei Gofrestr Cyfarwyddwyr a’i Ddatganiadau Ariannol Blynyddol gyda Thŷ’r Cwmnïau a bydd y rhain yn mynd ar y cofnod cyhoeddus i unrhyw un chwilio ar Dŷ’r Cwmnïau. Fel hyn, mae’r rheoleiddiwr yn gwybod i bwy i ofyn cwestiynau treiddgar os bydd yn amau nad yw popeth fel y dylai fod, neu fod tyllau’n ymddangos yn y cofnod cyhoeddus. Gall unrhyw un wirio pwy sy’n gyfrifol am ddarparu rheolaeth gadarn cwmni. Gallai’r wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol am sawl rheswm, er enghraifft os yw’r cwmni’n ystyried partner masnachu posibl.

Gofynion adrodd ar gyfer rheoleiddwyr eraill

Enghraifft addysgiadol yn unig yw’r uchod. Mae llawer o reoleiddwyr eraill y gallai fod angen i fusnes cymdeithasol adrodd iddynt (o gofnodion corfforaethol ychwanegol a gedwir). Er enghraifft, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yw rheoleiddiwr Cymdeithasau Cydweithredol, Cymdeithasau Budd Cymunedol, ac Undebau Credyd. Er bod y cysyniadau’n debyg ar y cyfan, mae’r mecanweithiau adrodd yn wahanol. 

Mae Cwmnïau Cyfyngedig trwy Warant wedi eu cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau ond mae ganddynt ofynion cofnodi ac adrodd ychwanegol sy’n gysylltiedig â dosbarthiadau a materion yn ymwneud â chyfranddaliadau. 

Dechreuwch ar adrodd am eich gofynion cyfreithiol gyda’n canllaw cydymffurfio i fusnesau cymdeithasol: