Unwaith y byddwch wedi cofrestru eich Busnes Cymdeithasol bydd angen i chi agor cyfrif banc busnes.

Cyn i chi ddewis pa fanc rydych chi am ei ddefnyddio, mae'n syniad da meddwl am yr hyn y gallai fod ei angen arnoch gan eich banc.

  • Banc â phresenoldeb ar y stryd fawr fel y gallwch siarad â rhywun a thalu gyda sieciau ac arian parod?
  • Mynediad i fancio ar-lein ac ap busnes?
  • Banc sy'n deall busnesau cymdeithasol a mynediad at gyngor a chymorth pellach ar fancio busnes? 
  • Banc moesegol sydd â'i ddiben cymdeithasol neu elusennol ei hun?
  • Gwell dealltwriaeth o'r taliadau? 
  • Cyfrif cymhleth gyda mwy nag un llofnodwr?

Unwaith y byddwch yn gwybod beth sydd ei angen ar eich busnes, gallwch ymchwilio i fanciau ar-lein i gael gwybod mwy. Yn aml bydd gan fanciau wasanaeth sgwrsio ar-lein i chi ofyn cwestiynau uniongyrchol, neu gallwch ddefnyddio eu ffurflen 'cysylltu â ni'.

Mae nifer o wefannau cymharu ar gael sydd eisoes wedi gwneud rhywfaint o'r gwaith i chi. Er enghraifft, tudalen gymharu 'Which' Which: cyfrifon banc.

Credyd Anffafriol: Gan y bydd pob banc ar y stryd fawr yn cynnal gwiriad credyd, os oes gan unrhyw un o'r cyfarwyddwyr neu'r prif gyfranddalwyr statws credyd gwael, yna bydd eich cais yn cael ei wrthod ar gyfer cyfrif banc busnes.

Mae rhai banciau'n cynnig:

  • Presenoldeb ar y stryd fawr gan ddarparu cerdyn debyd a llyfr sieciau-gall rhai banciau roi nifer o'r rhain fel y gall mwy nag un person helpu i redeg y cyfrif.
  • Bancio ar-lein, sy'n eich galluogi iedrych ar eich cyfrif a’i redegdrwy wefan neu ap symudol eich banc.
  • 'Llog' pan fydd gennych falans positif ar eich cyfrif.
  • Cyfleuster gorddrafftsy'n eich galluogi i fenthyg arian yn y tymor byr.
  • Help i ragweld eich sefyllfa ariannol, templedi am ddim a meddalwedd cyfrifo am ddim.Anfonebu â ffôn clyfar.
  • Cyfnod di-dâl, ffioedd misol neu ffioedd fesul trafodiad.

I agor y cyfrif bydd angen i chi ddarparu ychydig o fanylion adnabod a thystiolaeth o'ch busnes. Maent yn cynnwys:

  • Enw, cyfeiriad, refeniw blynyddol, rhif cwmni a chyfanswm nifer cyflogeion eich busnes.
  • Manylion am eich busnes. Cynllun Busnes, Erthyglau Cymdeithasu, gwybodaeth am dreth, trosiant a chyfalaf arall.
  • Manylion y cyfarwyddwyr gan gynnwys enw, dyddiad geni, cyfeiriad a rhif Yswiriant Gwladol.
  • Os oes gan unrhyw un o'r llofnodwyr gyfrif gyda'r banc eisoes, rhowch fanylion cyfrif banc. Bydd hyn yn helpu i sefydlu'r cyfrif yn gyflymach gan fod eu manylion adnabod eisoes wedi’u gwirio.

Cyfleusterau gorddrafft

Efallai y bydd isafswm gofynnol o amser y mae angen i chi fod gyda'r banc neu'r gymdeithas adeiladu a byddant fel arfer yn cynnal gwiriad credyd arnoch chi a'ch busnes ac yn gofyn am ragor o fanylion am gyllid neu gynlluniau eich busnes cyn iddynt gynnig gorddrafft.

Banciau ar-lein 

Mae banciau nad ydynt ond yn gweithredu drwy ddefnyddio technoleg ariannol (Fintech). Er bod y cyfrifon hyn yn llawer cyflymach i'w sefydlu a'u defnyddio, byddwch yn ymwybodol y gallai fod rhai cyllidwyr grant y byddai'n well ganddynt pe bai gan eu buddiolwyr gyfrif banc arferol ar y stryd fawr.

Eisiau trafod pynciau yn y canllaw hwn ymhellach? Cysylltwch â sbwenquiries@wales.coop neu eich Cynghorydd Busnes penodedig.

PDF icon