Beth yw ysgrifennydd cwmni?

Ysgrifennydd cwmni sy'n gyfrifol am sicrhau y caiff y cwmni ei weinyddu’n dda. Mae fel arfer yn cymryd cyfrifoldeb am y meysydd pwysig canlynol:

  • Cydymffurfio â llywodraethu corfforaethol a rheoliadau ariannol a chyfreithiol eraill;
  • Rheoli gweinyddu a chyfathrebu â chyfranddalwyr.

Rhaid cyflawni'r cyfrifoldebau pwysig hyn hyd yn oed os nad yw'r cwmni'n penodi ysgrifennydd cwmni.

Os nad yw'r cwmni'n cyflogi ysgrifennydd cwmni, mae adran 270 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn nodi mai cyfarwyddwr sy'n gyfrifol am y tasgau gweinyddol a chydymffurfio pwysig hyn, neu berson a awdurdodir yn gyffredinol neu'n benodol yn y cyswllt hwnnw gan y cyfarwyddwyr.

Argymhellir yn gryf bod penodi ysgrifennydd cwmniyn cael eu penodier mwynsicrhau bod rhywun yn cymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth o'r tasgau a restrir yma.

Beth yw dyletswyddau craidd ysgrifennydd cwmni?

Er nad yw dyletswyddau ysgrifennydd cwmni wedi'u pennu mewn deddfwriaeth, byddai cyfrifoldebau fel arfer yn perthyn i'r meysydd canlynol:

Pa mor bwysig yw'r rôl?

Pwysleisiodd Adroddiad Cadbury (1993) bwysigrwydd rôl ysgrifennydd y cwmni:

“Mae ganysgrifennydd y cwmni rôl allweddol i'w chwarae o ran sicrhau bod gweithdrefnau'r bwrdd yn cael eu dilyn a'u hadolygu'n rheolaidd.

Bydd y cadeirydd a'r bwrdd yn gofyn i ysgrifennydd y cwmni am arweiniad ar beth yw eu cyfrifoldebau o dan y rheolau a'r rheoliadau y maent yn ddarostyngedig iddynt ac ar sut y dylid cyflawni'r cyfrifoldebau hyn. 

Dylai pob cyfarwyddwr gael mynediad at gyngor a gwasanaethau ysgrifennydd y cwmni a dylent gydnabod bod gan y cadeirydd hawl i gefnogaeth gref gan ysgrifennydd y cwmni isicrhau bod y bwrdd yn gweithredu'n effeithiol.”

Gyda'r ffocws cynyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar lywodraethu corfforaethol, mae rôl ysgrifennydd y cwmni wedi tyfu o ran pwysigrwydd. Mewn sawl ffordd, mae'r ysgrifennydd bellach yn cael ei weld fel swyddog y cwmni ar gyfer cydymffurfiaeth briodol â'r gyfraith ac arferion gorau.

Eisiau trafod pynciau yn y canllaw hwn ymhellach? Cysylltwch â sbwenquiries@wales.coop neu eich Cynghorydd Busnes penodedig.