Yn ei ystyr ehangaf, defnyddir cyllid dyled i ddisgrifio busnes sy’n benthyca arian y mae’n ymrwymo i’w ddychwelyd â llog yn y dyfodol.

Gallai hyn fod ar ffurf naill ai benthyciad sicredig neu ansicredig y gallai eich cwmni ei ddefnyddio i ariannu caffaeliad neu i godi cyfalaf gweithio.


Mathau o gyllid dyled 

Mae llawer o fathau o gyllid dyled sy’n cynnwys gwerthu bondiau, biliau neu nodiadau i fuddsoddwyr (unigolion neu sefydliadau). Ar sail y math o gyllid sydd ei angen arnoch, gellir rhannu cyllid dyled yn ddau gategori, sef tymor byr a thymor hir.  

Os oes angen i chi gyllido gweithrediadau dyddiol eich busnes, fel talu eich gweithwyr, prynu cyflenwadau neu dalu rhent, ystyriwch gyllid dyled tymor byr. Yn aml, cyfeirir at y math hwn o gyllid dyled fel benthyciad gweithredu, ac mae angen ei ad-dalu o fewn y flwyddyn.  

Mae cyllid dyled tymor hir, ar y llaw arall, yn addas os ydych chi’n bwriadu prynu asedau ar gyfer eich busnes. Gallai hyn fod yn dechnoleg, yn adeiladau neu hyd yn oed yn dir. Mae cyfnod ad-dalu disgwyliedig y benthyciad hwn yn hwy, ac yn cael ei sicrhau gan yr asedau rydych yn eu defnyddio i’w brynu.  

Mewn gwirionedd, yn aml, caiff y rhan fwyaf o gyllid dyled ei sicrhau yn erbyn asedau cyfalaf neu warantau personol


Manteision ac anfanteision cyllid dyled 

Prif fantais cyllid dyled dros ffynonellau eraill fel ecwiti yw ei fod yn galluogi i chi gynnal rheolaeth lawn dros weithrediadau busnes. Efallai y byddwch hefyd yn gallu ymestyn cyfnod ad-dalu eich benthyciad tymor hir cyhyd ag y mae angen i chi, a hawlio eich costau llog fel treuliau busnes wrth wneud treth. 

Anfantais fwyaf dibynnu ar gyllid dyled yw bod banciau’n gofyn am warant gyfochrog ar gyfer y benthyciad, sef asedau eich busnes cymdeithasol yn aml. Neu, os ydych yn berchen ar fusnes sydd newydd gychwyn nad oes ganddo asedau digonol ar gyfer gwarant gyfochrog, efallai bydd angen i chi ddarparu gwarant bersonol. Bydd ad-dalu benthyciad hefyd yn ei gwneud yn fwy anodd ehangu eich busnes.


Archwiliwch y gwahanol fathau o gyllid dyled sydd ar gael ar gyfer eich busnes cymdeithasol: 

Gorddrafftiau  

Gorddrafft yw swm o arian sy’n cael ei ymestyn i chi fel credyd gan eich banc, sy’n cael ei osod ar derfyn a drefnwyd ymlaen llaw pan fydd balans eich cyfrif yn disgyn islaw sero. Mae banciau fel arfer yn codi llog neu ffioedd ar unrhyw swm o orddrafft rydych yn ei ddefnyddio, ond bydd telerau a phris gorddrafftiau yn amrywio rhwng darparwyr. 

Sicrwydd ac atebolrwydd personol  

Mae’r rhan fwyaf o roddwyr benthyciadau yn gofyn am rywfaint o sicrwydd ar yr arian y maent yn rhoi benthyg – os na all y benthyciwr ad-dalu’r benthyciad mwyach, yna mae’r rhoddwr benthyciadau eisiau uchafu’r tebygolrwydd o gael ei arian yn ôl.

Benthyciad stoc a bondiau  

Mae benthyciad stoc yn stoc a roddir i sefydliad yn gyfnewid am fenthyciad. Mae benthyciad stoc yn ennill llog. Mae benthyciad stoc yn fath o ddyled ond mae ganddo lawer o nodweddion buddsoddiad risg.

Dyledebau  

Bond corfforaethol yw dyledeb (addewid ysgrifenedig, llofnodedig, diamod a diwarant gan un parti i un arall sy’n ymrwymo’r sawl sy’n ei wneud i dalu swm penodedig ar gais, neu ar ddyddiad penodol neu ddyddiad i’w benderfynu) a warentir yn gyffredinol gan asedau penodol y benthyciwr. 

Ffactoreiddio a disgowntio anfonebau  

Mae ffactoreiddio – a elwir yn ‘ffactoreiddio dyled’ hefyd – yn golygu gwerthu eich anfonebau i gwmni ffactoreiddio. Yn gyfnewid, byddant yn prosesu’r anfonebau a chaniatáu i chi godi cyllid yn erbyn yr arian sy’n ddyledus i’ch busnes.  

Cardiau debyd a chredyd 

Yn gyffredinol, defnyddir cardiau credyd mewn trosglwyddiadau arian (hynny yw, i dalu am bethau ar yr adeg rydych yn eu prynu am y gost gwasanaeth flynyddol).

Benthycwyr nad ydynt yn fanciau  

Mae nifer o roddwyr benthyciadau cymdeithasol sy’n delio’n rheolaidd â busnesau cymdeithasol. Efallai y gallent ddarparu benthyciad buddsoddiad cymdeithasol fel ffynhonnell gyllid arall ar gyfer eich busnes.  

Benthyciadau banc  

Benthyciad yw swm o arian a fenthycir am gyfnod penodol o amser ac yn unol ag amserlen ad-dalu gytunedig. Bydd y swm a ad-delir yn ddibynnol ar faint a hyd y benthyciad, yn ogystal â’r gyfradd llog.