Cynnyrch cymdeithasol

Beth yn union yw’r allbynnau a fydd yn cael yr effaith gymdeithasol gadarnhaol sydd gennych mewn golwg? Er mwyn cadarnhau eich honiad bod eich busnes yn fusnes cymdeithasol, bydd angen i chi roi tystiolaeth ei fod wedi cyflawni ei amcanion cymdeithasol.  

Felly, bydd angen i chi:

  • osod targedau ar gyfer allbynnau cymdeithasol
  • mesur a chofnodi gweithgarwch yn erbyn y targedau hyn
  • adrodd ar y canlyniadau (a chael yr adroddiadau wedi’u harchwilio o bosibl)

Sut byddwch chi’n gwneud hyn?

Mae rhai allbynnau cymdeithasol yn hawdd eu mesur, megis cymwysterau a gyflwynir neu nifer y prydau ar glud a ddarperir. Gelwir y rhain yn allbynnau caled. Os ydych yn delio ag allbynnau meddal, megis mwy o hunanhyder neu barodrwydd i weithio ymhlith cleientiaid unigol, bydd angen i chi ystyried sut y byddwch yn eu mesur a’u cofnodi. I fusnes cymdeithasol, mae’r systemau hyn yn rhan o’r model busnes.

Yn y byd busnes cymdeithasol, mae gan y termau canlynol ystyron penodol, a bydd angen i chi eu deall fel y gallwch ddelio ag asiantaethau eraill heb amwysedd:

  • Allbwn cymdeithasol - sef eich cynnyrch cymdeithasol, fel y’i disgrifiwyd uchod.
  • Deilliant cymdeithasol - sef yr effaith y mae eich allbwn cymdeithasol yn ei chael ar y gymuned. Er enghraifft, nifer y cleientiaid prydau ar glud sy’n cael maeth digonol dros gyfnod penodol.
  • Effaith gymdeithasol - sef y gwahaniaeth y mae eich allbwn cymdeithasol yn ei wneud. Er enghraifft, pe na fyddech yn darparu prydau ar glud, mae’n bosibl y byddai rhai cleientiaid yn derbyn darpariaeth gan ofalwyr, felly byddai’n ymddangos nad yw eich gwasanaeth yn cael effaith mor fawr wedi’r cyfan. Fodd bynnag, daw’n amlwg mai’r hyn rydych yn ei ddarparu mewn gwirionedd yw seibiant i ofalwyr – mae’n bosibl mai dyma eich prif effaith gymdeithasol yn y sefyllfa hon.

Sylwer nad yw effaith amgylcheddol gadarnhaol (neu leihau difrod amgylcheddol) yn cyfrif fel deilliant cymdeithasol. Bydd angen systemau ychwanegol ar eich busnes os ydych eisiau monitro eich effaith ar yr amgylchedd. Defnyddiwch yr un dull - gosod targedau, mesur, cofnodi ac adrodd.