Mae busnes cymdeithasol, fel endid cyfreithiol, yn gorff corfforaethol, a rhaid iddo gadw at bob cyfraith.

Mae hyn yn cynnwys nid yn unig ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i ffurf gyfreithiol y busnes cymdeithasol, ond hefyd cyfreithiau ehangach fel iechyd a diogelwch, cyflogaeth, treth, masnach, contractau, cyllid, cyfle cyfartal, a diogelu’r bobl sy’n agored i niwed.  


Swyddogaethau bwrdd busnes cymdeithasol 

Mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr, neu gyfwerth, yn gyfrifol yn gyfreithiol am reoli a goruchwylio busnes cymdeithasol. Eu tasg yw sicrhau bod y busnes a phawb sy’n ei wasanaethu yn gweithredu’n gyfreithlon ac yn briodol. Mae cyfarwyddwyr unigol, is-grwpiau, rheolwyr, cyflogeion, aelodau cyswllt ac is-gontractwyr i gyd yn atebol i’r Bwrdd. 

Yn ei dro, mae’r Bwrdd yn adrodd i randdeiliaid ar berfformiad y busnes cymdeithasol yn unol â’i dargedau cymdeithasol a’i dargedau busnes. Gallai’r bwrdd busnes cymdeithasol gael ei ddiddymu a’i ddisodli gan y rheiny gyda phleidlais, ond ni all drosglwyddo’r cyfrifoldebau cyfreithiol hynny. 

Mae hyn yn gysyniad sylfaenol ac yn gyrru’r ffordd y mae atebolrwydd yn gweithredu o fewn busnes cymdeithasol. Gallai Bwrdd y Cyfarwyddwyr ddirprwyo pŵer i’w swyddogion i ymgymryd â gweithgareddau ar eu rhan. Bob tro y byddant yn gwneud hynny, mae’n bwysig fod gan gyfarwyddwyr unigol a’r bwrdd cyfan ffordd o hysbysu eu hunain fel bod y pŵer hwn yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon, yn briodol ac yn unol â gwerthoedd, egwyddorion a pholisïau a nodwyd gan yr aelodau. 


Sefydlu strwythur rheoli busnes cymdeithasol 

Y cam cyntaf yw sicrhau bod pwerau’n cael eu trosglwyddo’n gydlynus ac yn ddiamwys. Mae dogfennau allweddol yn cynnwys swydd ddisgrifiadau, contractau cyflogaeth, cytundebau gwirfoddolwyr, codau ymarfer, llawlyfrau polisi a gweithdrefn, cynlluniau cyflawni a chyllidebau.  Yn gyffredinol, mae’n helpu gwneud yn siŵr fod cyfarwyddiadau penodol pwysig yn cael eu rhoi yn ysgrifenedig ac ar lafar yn ogystal, neu’n cael eu cytuno a’u cofnodi. Fel hyn, mae llwybr archwilio yn ymwneud â’r hyn yr oedd y Bwrdd yn bwriadu iddo ddigwydd.  

Pan fydd hyn i gyd yn sylweddol neu’n gymhleth neu’r tu hwnt i brofiad blaenorol rhai o’r rheiny sy’n gysylltiedig (a bydd yn golygu pob un o’r rhain yn aml), bydd yn bwysig darparu esboniad a hyfforddiant i fynd gydag ef. Hefyd, mae’n fuddiol annog diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn gallu gofyn am eglurhad os bydd ei angen arnynt, ac amlygu camgymeriadau, hepgoriadau ac anghysondebau trwy system awgrymiadau, sy’n golygu na chaiff y beirniadaethau adeiladol hyn eu colli ond eu bod yn arwain at welliant parhaus ym mhob agwedd ar y sefydliad. 


Llywodraethu busnes cymdeithasol 

Wedi iddi fod yn glir beth mae’r Bwrdd yn bwriadu iddo ddigwydd a sut maent yn disgwyl i’r gwaith hwnnw gael ei wneud, dylai’r Bwrdd ddatblygu ffyrdd o fonitro p’un a yw hynny’n cydymffurfio â’u disgwyliadau mewn gwirionedd. Gallai hyn gynnwys adrodd, hapwiriadau, adborth cwsmeriaid a chymharu alldro ariannol â chyllidebau. Bydd y mecanweithiau gwirioneddol yn amrywio yn unol â maint a natur y busnes.  

Wrth gwrs, weithiau bydd pethau’n mynd o chwith, ond dylai’r Bwrdd allu dangos cynllun cydlynus i gaffael gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd yn y busnes cymdeithasol y mae’n gyfrifol amdano. Hefyd, dylent ddarparu tystiolaeth fod y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i gywiro’r hyn sydd wedi mynd o chwith, gan ei gwneud yn llai tebygol y gallai pethau tebyg fynd o chwith yn y dyfodol. Gallwch gyflawni hyn ar lefel Bwrdd neu ar lefel is briodol o reolaeth ddirprwyedig. 

 

Wedi i chi sefydlu mecanweithiau rheoli a goruchwylio, amlinellwch ffyrdd posibl o ddatblygu gallu eich llywodraethu.