Wrth ddatblygu polisïau ar gyfer eich busnes cymdeithasol, mae’n bwysig deall sut mae hierarchaeth awdurdod yn effeithio ar wneud penderfyniadau.

Hefyd, ystyriwch bolisïau buddsoddi a ffactorau gwleidyddol allanol a allai effeithio ar yr amgylchedd y mae eich busnes yn gweithredu ynddo.


Hierarchaeth awdurdod mewn busnes cymdeithasol

Yr hyn sydd ar frig hierarchaeth awdurdod ym mhob sefydliad cymdeithasol yw cyfraith gwlad, wedi’i dilyn gan eich dogfen lywodraethu. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys Erthyglau Cymdeithasu, Erthyglau Ymgorffori neu Reolau (yn dibynnu ar y ffurf gyfreithiol) sy’n ymgorffori eich busnes cymdeithasol. 

Yr hyn sydd nesaf yn y llinell awdurdod yw polisïau amrywiol eich menter gymdeithasol, gyda gweithdrefnau ac arferion gweithio wedi’u rhestru oddi tanynt.


Arferion a pholisïau yn y sector menter gymdeithasol

Gall polisïau gael eu mabwysiadu gan y Bwrdd (neu gyfwerth) neu aelodaeth busnes cymdeithasol trwy benderfynu mewn cyfarfod cyffredinol, er bod rhai dogfennau llywodraethu yn caniatáu mecanweithiau ychwanegol yn ogystal. Mae’r aelodaeth yn awdurdod uwch na’r Bwrdd, felly mae polisïau sy’n cael eu penderfynu ganddyn nhw yn cael blaenoriaeth.  

Mae polisïau (neu reolau eilaidd fel y cyfeirir atynt weithiau, yn enwedig mewn busnesau cydweithredol) yn llai 'disymud' na dogfennau llywodraethu (neu reolau sylfaenol) sydd fel arfer yn gofyn am weithdrefn fwy manwl a mwy o fwyafrif i’w derbyn, ac y mae’n rhaid eu cofnodi gyda’r rheoleiddiwr priodol. Bydd yr union broses ar gyfer gosod polisïau fel arfer yn cael ei disgrifio yn y ddogfen lywodraethu.  

Ni all polisïau newid yr hyn a bennir yn uwch i fyny’r llinell awdurdod yn y ddogfen lywodraethu neu, y tu hwnt i hynny, y gyfraith, ond yr hyn y maent yn ei wneud yw gosod y rheolau y mae’n rhaid i’r sefydliad, ei aelodau a’i weision gadw atynt yn ei fodolaeth wirioneddol a beunyddiol. Yn hyn o beth, maent yn wahanol i fathau eraill o benderfyniadau busnes ac mae’n bwysig gwybod pan mae polisi wedi’i lunio.  


Sut i ddatblygu fframwaith polisi menter gymdeithasol 

Mae gan bolisïau gyfnod silff penodol wrth i ddeddfwriaeth ac arfer gorau symud ymlaen. Mae’n bolisi da i gael polisi ynghylch polisïau! Mae’n haws cadw polisïau’n gydlynol, yn gyson ac yn gyfredol drwy eu storio mewn ffolder polisïau digidol. Trwy wneud hynny, gallwch wirio yn unol â chofnodion cyfarfod a sicrhau ei fod yn real.

Wrth ffeilio polisi, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn cynnwys pryd y cafodd ei adolygu ddiwethaf, pryd y bydd yn cael ei adolygu nesaf, a phwy yw’r arbenigwr mewnol sydd â gofal amdano. Os caiff y sbardun ei gyflwyno fel mater o drefn trwy ddyddiadur cyfrifiadurol yn hytrach na dibynnu ar y gweithiwr i chwilio am waith, yna gorau oll.  

Mae rhai polisïau penodol sy’n ofynion cyfreithiol er nad oes rhaid eu cofrestru gyda chyrff llywodraethu, er enghraifft Polisi Chwythu’r Chwiban. Dechreuwch drwy edrych ar ofynion cyfreithiol sylfaenol a datblygu o hynny. Mae maes polisïau yn ymwneud â chyflogaeth yn arbennig o debygol o newid yn rheolaidd oherwydd deddfwriaeth.  

Mae datblygu polisïau yn broses yn hytrach na digwyddiad ac mae’n debyg mai’r peth gorau fyddai cychwyn drwy roi’r gorau i unrhyw obaith o gwblhau’r broses ac ymrwymo i weithio arnynt gan bwyll ac yn benderfynol gyda chyllideb amser fforddiadwy. 

Dechreuwch ar ddatblygu eich polisïau busnes cymdeithasol gyda’n rhestr wirio a’n canllaw i gyflogi pobl: