Dewis Strwythur Busnes Cymdeithasol

Mae llawer o ddewis ar gael o ran y ffurf gyfreithiol a’r math o sefydliad ar gyfer busnes cymdeithasol, ac mae hyn yn aml yn arwain at ddryswch. 

Bydd y ffurf gyfreithiol orau ar gyfer eich menter yn dibynnu ar sawl peth. Y ffactorau allweddol yw:

  • yr hyn y byddwch chi’n ei wneud yn union – eich masnach
  • pwy fydd yn berchen ar y fenter a’i rheoli – eich dull rheoli
  • sut y byddwch chi’n codi’r arian – cyllid 
  • yr hyn y byddwch chi’n ei wneud gydag unrhyw symiau dros ben neu elw – defnyddio symiau dros ben
  • yr hyn y byddwch chi’n ei wneud gyda’ch asedau os byddwch yn dirwyn i ben – diddymu a pherchnogaeth

Dylech fod wedi penderfynu ar lawer o’r uchod trwy eich proses cynllunio busnes. Yna dylech fod mewn sefyllfa i bennu’r ffurf gyfreithiol fwyaf priodol i weddu i’r hyn rydych chi am ei wneud. Peidiwch â dewis eich ffurf gyfreithiol ac yna llunio eich menter i weddu i hynny - mae hyn yn gamgymeriad cyffredin wrth ddechrau. Byddwch yn ofalus wrth ystyried cyngor o blaid ffurf gyfreithiol benodol heb edrych yn fanwl ar yr union fath o fusnes rydych chi am ei greu.

Mae sawl pecyn cymorth ar gael i’ch helpu i ddewis strwythur busnes cymdeithasol. Os nad oes gennych chi’r arbenigedd yn fewnol, dylech gynnwys gweithiwr datblygu i’ch cynorthwyo i ddewis a helpu i gofrestru’r dewis hwnnw gyda’r rheoleiddiwr perthnasol. Bydd y gweithiwr datblygu a ddewisir gennych yn dibynnu ar yr union fath o fenter y bwriadwch ei chreu ac mae gan lawer o’r ffynonellau cyllid ar gyfer busnesau cymdeithasol restrau o weithwyr datblygu cymeradwy.

Mae pecyn cymorth rhyngweithiol i’ch helpu i nodi’r ffurf gyfreithiol fwyaf priodol ar gyfer eich busnes cymdeithasol ar i wefan Co-operatives UK

Strwythurau dros dro

Mae’n gyffredin i fusnes cymdeithasol sy’n cynnwys y gymuned greu cymdeithas anghorfforedig dros dro i gyflawni rhannau cynnar y broses gychwyn. Mae hyn yn caniatáu iddynt agor cyfrif banc a cheisio cyllid ac mae’n darparu strwythur i gydlynu unrhyw weithgorau. Pan gaiff y strwythur mwy ffurfiol ei greu, gellir dirwyn y gymdeithas anghorfforedig dros dro i ben.