Fel busnes cymdeithasol, eich cyfrifoldeb chi yw diffinio amcanion cymdeithasol eich menter, ac amlinellu sut byddwch yn mesur llwyddiant, ac yn adrodd amdano.

Bydd angen i chi gael system cyfrifo cymdeithasol hyfyw, rhesymegol gyson, a thrylwyr, i adrodd am eich nodau busnes.


Cyfrifo ar gyfer mentrau cymdeithasol

Megis dechrau y mae cyfrifo cymdeithasol, neu gyfleu’r ffordd y mae gweithredoedd eich sefydliad yn effeithio ar y gymuned, o gymharu â chyfrifo ariannol. Gall y rhan fwyaf o fusnesau cymdeithasol ddewis y dull cyfrifo cymdeithasol sy’n gweddu iddynt orau, a’r effaith gymdeithasol y maent yn ceisio’i chyflawni. 

Edrychwch ar y modd y mae sefydliadau eraill sy’n ymgymryd â gweithgareddau tebyg yn cyflwyno eu cyfrifon cymdeithasol i gael syniad gwell o’r hyn a allai weithio i’ch busnes cymdeithasol.

Sut i drefnu cyfrifo cymdeithasol ar gyfer eich menter? 

Dechreuwch lunio eich cyfrifo busnes cymdeithasol trwy ystyried y canlynol: 

  • Beth yw’r effaith yr ydych yn dymuno’i chyflawni? Sut mae eich busnes cymdeithasol yn helpu’r gymuned? Mae hyn yn cyfateb i’ch nodau a’ch gweledigaeth, a gallai fod yn yr hirdymor. Gellir cyflawni’r effaith trwy gydweithio a/neu rymuso, a chan eich sefydliad yn uniongyrchol yn ogystal. 
  • Beth yw’r deilliannau rydych chi’n ceisio eu creu? Mae deilliannau yn disgrifio eich gweithgarwch o fewn rhychwant amser diffiniedig. Maent yn gamau angenrheidiol sy’n haws eu mesur, ac yn cyfrannu at effaith gyffredinol eich menter gymdeithasol.  
  • Beth yw’r allbynnau y byddwch yn eu cyflawni? Sut maent yn cyfrannu at eich deilliant? 
    Er enghraifft: Os mai eich effaith gymdeithasol yw economi leol fwy gwydn, deilliant posibl fydd lansio busnes newydd sy’n darparu gwasanaeth lleol ac yn hybu cyflogaeth. Efallai mai’r allbynnau yw cyflwyno hyfforddiant busnes i’r bobl a’i sefydlodd. 

Gofynion cyfrifo menter gymdeithasol

I ateb y cwestiynau hyn, defnyddiwch yr un dull ag y byddech ar gyfer eich amcanion masnachol. Isod, rydym yn rhannu’r camau sy’n ymwneud â threfnu cyfrifo cymdeithasol ar gyfer eich busnes yn ddarnau llai: 

Proses gyfrifo’r busnes cymdeithasol

Canllaw fesul cam i ddiffinio nodau eich busnes cymdeithasol, gosod targedau a diffinio’r ffordd orau o fesur eich nodau, yn ogystal â’r dulliau gorau ar gyfer adrodd canlyniadau i randdeiliaid, ac archwilio eich data. 

Lledaenu’r canlyniadau i randdeiliaid  

Pan fydd menter yn adrodd yn unol â thargedau cymdeithasol, mae’n ceisio ateb cwestiynau gan randdeiliaid mewnol ac allanol sy’n debyg i’r rheiny a atebwyd gan archwiliad ariannol. A wnaeth y fenter gyflawni unrhyw un o’r amcanion cymdeithasol y gwnaethant gofrestru i’w cefnogi? A wnaeth y fenter hon y rhoesant grant iddi unrhyw beth ar gyfer eu cymuned? 

Wedi i chi ateb y cwestiynau hyn yn eich archwiliad cymdeithasol, gallwch ddefnyddio’r ddogfen ddilynol i hyrwyddo eich busnes cymdeithasol ar draws sianelau amrywiol. 

Mae adnoddau mwy defnyddiol ar safonau diwydiant, a diffinio sut beth yw eich allbynnau a’ch deilliannau eich hun, yn cynnwys: