Rheolaeth ariannol mewn busnes cymdeithasol 
Pen writing on paper

Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr (neu gorff cyfatebol) yn gyfreithiol gyfrifol am reoli’r busnes, gan gynnwys ei holl wariant.   

Mentrau cymdeithasol a rheolaeth ariannol

Mae tair prif agwedd ar reoli cyllid eich busnes. Yn gyntaf, mae angen i chi sefydlu sybsidiaredd  – dirprwyo’r awdurdod i lawr i’r lefel briodol i awdurdodi gwariant, sy’n golygu nad oes angen i weithwyr sy’n gwneud paned o de uwchgyfeirio’r cais i’r Bwrdd.

Mae hyn yn arwain at yr ail ffactor allweddol –  eglurder. Mae angen i’r busnes gael polisi (neu bolisïau) a chyllideb(au) eglur a osodir gan y Cyfarwyddwyr ar ba rymoedd gwario (faint, ar beth) a ddirprwyir ac i bwy. Mae hefyd yn bwysig gosod safonau, e.e. sut mae gweithwyr yn mynd ati i hawlio costau teithio a chynhaliaeth.

Mae awdurdodi gwariant yn un peth, ond mae gwneud y taliad ei hun yn beth arall. O ran symiau sylweddol o arian, mae’n arfer da gwahanu’r swyddogaethau hyn ac iddynt gael eu cynnal gan bobl wahanol. 

Mae hyn yn helpu i gyflwyno’r trydydd gair allweddol - atebolrwydd. Mae’n sefydlu pwy sy’n gwneud penderfyniadau ac yn galluogi’r rheolwyr i gymharu’r rheiny â’r polisïau a’r cyllidebau busnes. Mae’n ffordd effeithiol o sicrhau nad yw unrhyw un yn camfanteisio ar ei awdurdod, yn gwario mwy na’r gyllideb neu’n anfon arian heb awdurdodiad. Gan fod o leiaf ddau o bobl yn gysylltiedig, bydd pwy bynnag sy’n gwneud trafodion yn gyfrifol am ddangos tystiolaeth ohonynt trwy gofnodion priodol.


Hierarchaeth rheoli cyllid mewn menter gymdeithasol

Rôl Cyfarwyddwyr yw cynorthwyo eu gweithiwr/gweithwyr cyllid i osod gweithdrefnau sy’n annog pawb sy’n gysylltiedig i ddeall sut mae’r cyfrifon yn gweithio a’r hyn y gallant ei wneud i wella llif cadw cyfrifon. Mae’r Cyfarwyddwyr hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y busnes yn cadw cyfrifon cywir ac yn gallu llunio datganiadau ariannol gwir a theg.

Yn gyfnewid am hynny, gallwch ofyn am wybodaeth amser real am berfformiad busnes. Nid yw busnesau a gynhelir yn dda yn aros tan y flwyddyn ganlynol i’w cyfrifydd ddweud wrthynt a ydynt wedi gwneud elw neu golled. Gallwch gael gwybodaeth gyfredol a rhannu’r busnes yn rhannau cyfansawdd, gan ddadansoddi perfformiad elw a cholled pob rhan (dadansoddi cyfraniad). Gall eich tîm cyllid hefyd gymharu’r perfformiad ariannol gwirioneddol â’r amcanestyniadau, oherwydd eu bod wedi llunio’r dull rheolaeth ariannol cyntaf - amcanestyniadau cyllideb.

Gallai’r gwahaniaeth rhwng y gwir sefyllfa a’r gyllideb gael ei achosi gan ddiffyg dealltwriaeth o’r busnes, newid i amgylchiadau allanol, gwastraff neu dwyll. Bydd angen i’r Cyfarwyddwyr ymchwilio ac adfer rheolaeth cyn gynted â phosibl.

Mae gwybodaeth reoli’n rhoi grym. Mae’r cyfrifon yn ffynhonnell dda iawn o wybodaeth sy’n eich grymuso i weld y tu mewn i’r busnes a chanolbwyntio ar yr hyn y mae angen i chi neilltuo adnoddau rheoli iddo. Mae llif araf o ran gwybodaeth yn lleihau’r gwerth hwnnw. 

Statws Masnachu Cydfuddiannol

Os yw busnes cymdeithasol yn gonsortiwm o sefydliadau sy’n gwerthu gwasanaethau i’w aelodau yn unig, fe allai fod yn gymwys i gael Statws Masnachu Cydfuddiannol (MTS) gyda HMRC, sy’n golygu na fydd gweithgarwch masnachu’n cael ei drethu ddwywaith. Ewch i wefan GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth. 


Pan fyddwch wedi sefydlu sut mae eich cyllid yn cael ei reoli, symudwch ymlaen i adolygu rheoli eich adnoddau dynol.


Cymorth i fusnesau cymdeithasol gan Fusnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i berchnogion busnes. Rydym wedi rhestru isod rai adnoddau defnyddiol ar gyfer rheoli cyllid eich busnes cymdeithasol.