Rheoli prosiect

Mae creu busnes cymdeithasol newydd neu newid un presennol yn gofyn am gydlynu strategaeth a chamau gweithredu yn effeithiol.

Y rheolwr prosiect sy’n gyfrifol am gysylltu â’r amryw dimau sy’n gweithio ar y prosiect. Felly, mae’n hanfodol i lwyddiant eich busnes eich bod yn mabwysiadu technegau rheoli prosiect effeithiol.


Rheoli prosiectau busnes cymdeithasol

Mae llawer o ddulliau, offer a systemau rheoli prosiect ar gael ym myd busnes. Dyma nodweddion allweddol rheoli prosiect yn effeithiol:

Hanfodion rheoli prosiect

Dechreuwch gyda rhywfaint o gynllunio cynnar a lluniwch gynllun ymarferol. Tasgwch syniadau i gynhyrchu syniadau. Cynhaliwch ddadansoddiad SWOT, gan asesu’r syniadau hyn yng nghyd-destun y cryfderau, y gwendidau, y cyfleoedd a’r bygythiadau i’ch busnes cymdeithasol.

Mae dadansoddi llwybr allweddol hefyd yn ffordd wych o archwilio’r hyn y mae’r gwahanol agweddau ar y prosiect yn dibynnu arno a sut maen nhw’n cyfateb i’w gilydd. Mae llawer o offer rhad ac am ddim ar gael ar-lein i’ch helpu i gyflawni’r uchod.

Ar ôl dadansoddi’r llwybr allweddol, mae llawer o reolwyr prosiect yn datblygu llinell amser i’w helpu i gydlynu rhannau o’r prosiect sy’n dibynnu ar ei gilydd. Yn aml, defnyddir siart Gantt hefyd i fapio amserlen y prosiect, gan nodi dyddiadau dechrau a chwblhau ar gyfer pob rhan. Unwaith eto, mae llawer o offer rhad ac am ddim ar gael ar gyfer hyn ar-lein. 

Cofrestr risgiau rheoli prosiect

Rhan arall hanfodol o unrhyw brosiect yw rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â chyflawni’r prosiect. Mae rheolwyr prosiect yn asesu’r risgiau cyflawni o ran amseroldeb, cyllideb ac ansawdd. Pan fydd y risgiau wedi’u hamlygu, caiff cynllun wrth gefn ei greu i leihau’r tebygolrwydd y bydd y risgiau’n digwydd mewn gwirionedd, yn ogystal ag effaith y risgiau pe byddent yn cael eu gwireddu. Mae hefyd yn arfer da creu cynlluniau eraill ar gyfer bygythiadau difrifol.

Rheoli prosiect, cyfathrebu ac adrodd ar draws y busnes

Mae’n hanfodol bwysig bod yr holl wybodaeth am raddfeydd amser, targedau a chynnydd y prosiect ar gael i bawb sy’n gysylltiedig. Mae angen i bawb fod yn edrych ar yr un peth, felly mae rheolwyr prosiect hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth yn gyson.   


Cymorth i fusnesau cymdeithasol gan Fusnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i berchnogion busnes. Rydym wedi rhestru isod rai adnoddau defnyddiol ar gyfer rheoli prosiectau busnes cymdeithasol.